Cefndir

Mae “Creu” yn ariannu'r gwaith o ddatblygu a chreu profiadau celfyddydol o safon sy'n helpu unigolion a sefydliadau creadigol i ymgysylltu â'r cyhoedd

Mae “Creu” yn cefnogi ein blaenoriaethau yn ein cynllun corfforaethol. Bydd y rhaglen yn ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth, y Gymraeg, meithrin talent greadigol a chefnogi gwytnwch y sector

Mae “Creu” yn dangos ein hymrwymiad i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan Lywodraeth Cymru, gan sicrhau bod pwrpas diwylliannol a chymdeithasol i'n harian cyhoeddus. Felly bydd disgwyl i bopeth a gefnogir drwy'r gronfa ddangos ymrwymiad i'r egwyddorion

Pwy all ymgeisio?

Gall sefydliadau ac unigolion wneud cais. Dylech ddarllen y meini prawf cymhwysedd isod er mwyn gweld os ydych yn gymwys i geisio am grant.

Cymerwch olwg ar ein meini prawf cymhwysedd ar gyfer unigolion

Cymerwch olwg ar ein meini prawf cymhwysedd ar gyfer sefydliadau

Am beth alla i ymgeisio?

Rydym ni am ddarparu'r rhyddid a'r hyblygrwydd i unigolion a sefydliadau ymgeisio i wneud a fynnent o fewn y disgyblaethau yr ydym yn eu cefnogi.

Bydd angen i bob cais ddangos sut y maent yn datblygu ein blaenoriaethau mewn un neu ragor o'r meysydd canlynol:

  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth 
  • Cyrraedd cymunedau heb eu cynrychioli'n ddigonol, yn ddiwylliannol, yn ddaearyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd 
  • Y Gymraeg 
  • Cyfiawnder hinsawdd
  • Meithrin talent greadigol 
  • Datblygu partneriaethau i wireddu uchelgais artistig mewn ffyrdd dychmygus
  • Cryfhau gallu a gwytnwch y celfyddydau i fod yn fwy deinamig a chynaliadwy

Gallai hyn gynnwys (cliciwch y dolenni am fwy o wybodaeth):

Beth rydyn ni'n ei ddisgwyl gan eich prosiect

Rhaid cynnal eich prosiect yng Nghymru yn bennaf.

  • Gallwn ond ariannu gweithgareddau neu ddigwyddiadau sy'n digwydd y tu allan i Gymru lle gallwch ddangos budd tymor hir i unigolion a chymunedau yng Nghymru.
  • Gallwn ystyried ariannu gweithgaredd hyfforddi neu ddatblygu y tu allan i Gymru (lle nad oes darpariaeth debyg ar gael yng Nghymru).
  • Gallwn ystyried ariannu rhywfaint o weithgarwch rhyngwladol fel rhan o brosiect ehangach os rhoddir rhesymeg glir.

Rhaid i’ch prosiect ategu eich rhaglen weithgarwch arferol a’i gwella.

Mae hyn yn golygu na ddylai fod yn rhan o’ch gweithgarwch craidd na chynnwys costau craidd. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer aelodau Portffolio Celfyddydol Cymru. 

Rhaid i’ch prosiect gynnwys gweithio gydag eraill

Mae’r prosiectau gorau’n digwydd pan fydd partneriaid yn cymryd rhan. Byddwn yn disgwyl eich gweld yn gweithio gydag o leiaf un unigolyn neu sefydliad arall a fydd yn eich cynorthwyo chi i ddatblygu a chyflawni’ch prosiect. Gallai fod yn:

  • sefydliad partner
  • cydweithiwr artistig
  • cyfaill beirniadol
  • mentor artistig
  • cynghorydd busnes
  • darparwr hyfforddiant

Rhaid i’ch prosiect fod yn gyfyngedig o ran amser

Mae hyn yn golygu dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen pendant. Mae’n syniad da i ganiatáu rhywfaint o amser ychwanegol i chi’ch hun rhag ofn bod angen ichi anfon mwy o wybodaeth atom ar ôl i arian gael ei ddyfarnu. 

Rhaid ichi sicrhau cyllid arall i gyfrannu at gostau cyffredinol eich prosiect 

Ni allwn gefnogi gostau llawn unrhyw brosiect. Rydym fel arfer yn disgwyl i o leiaf 10% o’ch incwm prosiect ddod o ffynonellau ar wahân i Gyngor y Celfyddydau neu’r Loteri Genedlaethol. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Nodiadau Cymorth Cyllid.

Rhaid i chi ganiatáu digon o amser rhwng cyflwyno cais a chychwyn eich prosiect

Byddwn yn disgwyl gweld digon o amser yn cael ei adeiladu yn eich prosiect i gyflawni'r gwaith yn effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran unrhyw waith hyrwyddo, datblygu cynulleidfa neu waith allgymorth.  

Bydd angen i chi ystyried yr amser y bydd angen i chi ddatblygu eich cais yn ogystal â'r amser y mae'n ei gymryd i ni brosesu a gwneud penderfyniad.

Am faint alla i ymgeisio?
  • Creu Bach – hyd at £10,000
  • Creu Mawr - £10,001 - £50,000

Y ganran uchaf o gostau cymwys eich prosiect y gallwn ei hariannu yw 90% - am fwy o wybodaeth am gwblhau eich cyllid, costau cymwys a ffioedd artistiaid, cliciwch yma

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall sefydliadau (gan gynnwys gwyliau) ymgeisio am hyd at £100,000 drwy gytundeb ymlaen llaw â'ch Swyddog Datblygu. Cysylltwch â datblygu@celf.cymru os nad ydych yn siŵr a pha Swyddog Datblygu i gysylltu.

Yn achos gwyliau, bydd angen ichi ddangos bod eich prosiect yn meddu ar gyfleoedd ymgysylltu drwy gydol y flwyddyn i artistiaid neu gynulleidfaoedd a phroffil rhyngwladol, yn comisiynu gwaith newydd, yn meithrin talent newydd o Gymru a lleisiau heb eu clywed.

I sefydliadau eraill sy'n dymuno gwneud cais am hyd at £100,000 bydd angen i chi ddangos bod gennych bartneriaethau clir, bod arwyddocâd cenedlaethol i'ch cynnig, yn cynnwys creu neu deithio gwaith a'r potensial i effeithio ar gymunedau mewn ffordd arloesol a dychmygus.

Dyddiadau cau

Nid oes dyddiadau cau ar gyfer Creu Bach. Ond mae rhaid ichi ganiatáu o leiaf 8 wythnos waith rhwng dyddiad cyflwyno eich cais a dyddiad dechrau eich prosiect.

Mae dyddiadau cau amser penodol i geisiadau Creu Mawr. Ond mae rhaid ichi ganiatáu o leiaf 10 wythnos waith rhwng dyddiad cyflwyno eich cais a dyddiad dechrau eich prosiect.

  • 1pm ddydd Mercher 14 Mai 2025 

  • 1pm ddydd Mercher 20 Awst 2025 

Ar ôl y ddau ddyddiad cau yma, byddwn yn ailstrwythuro Creu. Bydd y newidiadau’n dod i rym ar 1 Medi. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth wedyn. 

Gwybodaeth bwysig

Bydd Creu Bach yn cau i bob cais ar 1 Awst 2025.

Ni fydd yn bosibl gwneud cais newydd am Greu Mawr ar ôl 1 Awst 2025.

Os ydych yn bwriadu ymgeisio am Greu Mawr â dyddiad cau 20 Awst:

  • dechreuwch ar eich cais cyn 1 Awst 2025 am na fydd modd gwneud wedyn 

Cofiwch nad oes modd inni ariannu prosiectau sydd eisoes wedi dechrau. Felly ni fyddwn yn ariannu eich cais os yw’ch prosiect yn dechrau cyn inni gael cyfle i asesu eich cais.

Rhaid i bob cais fod yn gyflawn. Ni fyddwn yn derbyn gwybodaeth ategol ar ôl ichi gyflwyno eich cais (oni bai ein bod yn gofyn amdani’n rhan o'r broses). I gael gwybod rhagor am hynt eich cais ar ôl inni ei gael, cliciwch yma

Beth yw'r meini prawf?

Byddwn ni’n asesu ceisiadau yn ôl y meini prawf canlynol:

  • Safon, cryfder ac arloesedd y cynnig artistig a chyfansoddiad y tîm creadigol – rydym ni’n disgwyl gweld cyfleoedd â chyflog priodol i bobl greadigol, gwneuthurwyr ac artistiaid unigol llawrydd.

Os yw eich cais ar gyfer hyfforddiant/datblygiad proffesiynol neu ddatblygiad busnes/ailfodelu - neu os yw'n rhan o'r cais – dylech esbonio safon a natur y rhai sy'n darparu sgiliau ac arbenigedd. Ystyriwch berthnasedd hyfforddiant i waith eich ymarfer neu'ch sefydliad yn ogystal â sut y bydd y sgiliau o fudd i sector ehangach Cymru.

  • Cryfder y cynnig i gyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, y Gymraeg, cyfiawnder hinsawdd, meithrin talent greadigol a/neu hyrwyddo cynaliadwyedd a gwytnwch y sector.
  • Effaith bosibl y prosiect yn awr ac yn y dyfodol, a'i fudd i eraill, o ran y rhai a dangynrychiolir yn ein gwaith a'n buddsoddiad.
  • Safon y cysylltiadau neu'r partneriaethau sydd ar waith neu sy'n cael eu datblygu i gefnogi'r prosiect.
  • Cryfder y cynlluniau rheoli prosiect ac ariannol i gyflawni'r prosiect a defnyddio’r arian cyhoeddus yn briodol.

Yn y meini prawf, byddwn ni hefyd yn ystyried lledaeniad daearyddol gweithgarwch fel rhan o'n penderfyniadau.

Pa gwestiynau fydd angen imi eu hateb?

Gallwch ddod o hyd i dempled o'r cais o yn yr adran Dogfennau Allweddol isod.

Rydym yn caniatáu ichi gyflwyno atodiadau ychwanegol i gefnogi eich cais, cliciwch yma am ragor o wybodaeth. Y dogfennau gorfodol ar gyfer y gronfa yma yw cyllideb ar ein templed ni, ac rydym yn gofyn i unigolion ddarparu CV artistig.

Beth os oes angen cymorth hygyrchedd arnaf?

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n darparu gwybodaeth mewn print bras, Braille, sain, Hawdd ei Ddeall ac Iaith Arwyddion Prydain. Byddwn hefyd yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg os gofynnir amdani.

Os oes angen cymorth arnoch chi, gallwch ddysgu mwy am beth allwn ni ei wneud a sut i'w drefnu yma.

Dolenni cyflym

Cymhwysedd ar gyfer unigolion

Cymhwysedd ar gyfer sefydliadau

Nodiadau cymorth cyllid

Cymorth hygyrchedd

Dogfennau ategol

Diffiniadau o ffurfiau ar gelfyddyd

Y broses ymgeisio

Beth os oes gyda fi gwestiwn?

Os oes gennych gwestiwn ar ôl i chi ddarllen y wybodaeth yma, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin yn gyntaf - mae’n bosibl bod yr ateb yno. Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth, anfonwch eich ymholiad at grantiau@celf.cymru neu ffoniwch 03301 242733.

 

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid03.11.2021

Creu: Templed Cyllideb Prosiect

Nodiadau cymorth gyda chyllid05.09.2023

Creu: Enghraifft o’r Ffurflen Gais Ar-lein

Dogfen27.01.2025

Creu: Adroddiad Diweddu

Cwestiynau mynych

Os nad ydych chi’n gallu derbyn arian Loteri Genedlaethol am unrhyw resymau, dylech chi lanlwytho llythyr gyda’ch cais yn esbonio pam mae hyn yn wir. Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n ceisio ariannu eich prosiect o arian o ffynonellau eraill.

Mewn rhai achosion, rydym yn ‘dirprwyo’ arian y Loteri Genedlaethol i sefydliadau arbenigol sy’n gweithio ar ein rhan i gynnal rhaglenni cyllido sy’n berthnasol i grwpiau penodol.

Os yw’ch prosiect yn canolbwyntio ar lenyddiaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru,   llenyddiaethcymru.org 029 20 47 2266 / post@llenyddiaethcymru.org

Mewn rhai achosion, rydym yn ‘dirprwyo’ arian y Loteri Genedlaethol i sefydliadau arbenigol sy’n gweithio ar ein rhan i gynnal rhaglenni cyllido sy’n berthnasol i grwpiau penodol.

Ni allwn gefnogi gweithgareddau lle mae'r brif ddisgyblaeth yn ffilm (yn hytrach na artist sy'n defnyddio ffilm neu fideo i wneud neu rannu ei waith).

Os yw’ch prosiect yn canolbwyntio ar ffilm cysylltwch â Ffilm Cymru Wales: www.ffilmcymruwales.com / 029 21 679 369 /enquiries@ffilmcymruwales.com

Yndan, rydym yn ariannu cerddorion. Fodd bynnag, nid ydym yn ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio'n llwyr ar recordio, hyrwyddo a dosbarthu. Ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar hyn, cysylltwch â PRSF neu Help Musicians UK yn y lle cyntaf.

Mae Tŷ Cerdd yn dosbarthu arian y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, i helpu sefydliadau i ddatblygu’r broses o greu cerddoriaeth o bob math mewn cymunedau yng Nghymru. Cysylltwch â’r Tŷ Cerdd i drafod sut allai’ch helpu chi: www.tycerdd.org  / enquiries@tycerdd.org

Os ydych eisoes yn siŵr bod eich prosiect yn bodloni'r meini prawf, mae croeso i chi gysylltu â'n Tîm Datblygu i drafod eich prosiect yn fanylach.

Ebost: datblygu@celf.cymru

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, gan gynnwys:

  • Eich enw
  • Disgrifiad o'ch prosiect
  • sut y bydd eich prosiect yn cyflawni un neu fwy o'n hamcanion corfforaethol
  • faint o arian rydych chi am wneud cais amdano
  • lle bydd eich prosiect yn digwydd

Mae sefydliadau sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gymwys i fod yn bartner mewn cais prosiect os yw’r budd cyhoeddus yn amlwg yn berthnasol i Gymru. Bydd angen sefydliad cymwys yn y DU i fod yn ymgeisydd arweiniol.

Rhaid i bob ymgeisydd sy'n gwneud cais fel unigolion fod wedi'i leoli yng Nghymru.

Os ydych chi'n sefydliad neu'n unigolyn ac ar hyn o bryd mae gennych grant Loteri Genedlaethol 'byw' arall ar agor gyda ni, rydych chi dal yn gymwys i wneud cais. Bydd yn rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn gallu bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ac asesu eraill a dangos eich bod yn gallu cyflawni pob prosiect yn effeithiol. Byddwn yn edrych ar nifer y prosiectau byw wrth ystyried dosbarthu cyllid i sefydliadau ac unigolion newydd.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan ysgolion nac ariannu gweithgaredd gydag ysgolion. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gallai plant ysgol fod yn rhan o'ch cynulleidfa/cyfranogwyr targed ac y gallai ysgolion fod yn rhan o'ch strategaeth farchnata, ac y gallent fod yn dymuno cymryd rhan mewn prosiectau y tu allan i oriau ysgol. Rydym yn cefnogi gweithgareddau gydag ysgolion drwy ein rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau - https://creativelearning.arts.wales/