Cefndir

Beth yw Archwilio? 

Nid datblygiad proffesiynol parhaus cyffredin yw Archwilio. Mae'n rhaglen ddysgu broffesiynol feiddgar, ysbrydoledig a hollol rad ac am ddim i athrawon, staff cymorth ac arweinwyr ysgolion ledled Cymru. Dan arweiniad tîm o Hwyluswyr Dysgu Creadigol arbenigol, mae Archwilio yn eich cyflwyno i addysgeg Dysgu Creadigol trwy sesiynau ymarferol sy'n canolbwyntio ar naill ai ddylunio cwricwlwm, llythrennedd neu iechyd a lles. 

Trwy ymarferion ymarferol, astudiaethau achos a myfyrio, mae Archwilio yn eich gwahodd i gamu y tu hwnt i'r cyffredin, rhoi cynnig ar ddulliau addysgu ffres a chreadigol. P'un a ydych chi'n newydd i ddysgu creadigol neu'n barod i ddyfnhau eich ymarfer, bydd Archwilio yn sbarduno syniadau y gallwch eu dwyn yn ôl i'ch ystafell ddosbarth ar unwaith. Byddwch yn gadael yn llawn egni, yn llawn cymhelliant ac yn fwy parod i gefnogi anghenion amrywiol eich dysgwyr gyda hyder a chreadigrwydd. 

Pam ddylech chi gofrestru? 

Oherwydd bod Archwilio yn creu lle i'r pethau sy'n bwysig:

  • Ymgorffori Pedwar Diben Cwricwlwm Cymru, gyda ffocws ar ddatblygu cyfranwyr mentrus a chreadigol.
  • Cyd-fynd â'r sgiliau annatod drwy ddatblygu sgiliau meddwl creadigol a beirniadol, gan helpu dysgwyr i ffynnu mewn byd sy'n esblygu'n barhaus.
  • Gwella llythrennedd a llafaredd, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf difreintiedig.
  • Gwella lles ac ymgysylltiad dysgwyr drwy wneud dysgu'n fwy ystyrlon a chynhwysol.  
  • Gosod llais y dysgwr yng nghanol dylunio cwricwlwm a chynllunio datblygu ysgolion.

Beth i’w ddisgwyl

  • Cyfleoedd ar gyfer myfyrio a thyfu dwfn
  • Cymuned gefnogol o addysgwyr o'r un anian
  • Profiad dysgu llawen ac egnïol
  • Syniadau ymarferol, parod i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth 

Pwy all gofrestru?

Mae Archwilio ar gael i athrawon, staff cymorth ac arweinwyr ysgolion sy'n cael eu cyflogi mewn ysgolion cynradd, uwchradd, arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol ac a gynorthwyir yn wirfoddol, a chyfleusterau addysgu arbenigol yng Nghymru. 

Mae Archwilio yn croesawu addysgwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd. Gallwch gofrestru i Archwilio hyd yn oed os ydych chi wedi cymryd rhan mewn rhaglenni Dysgu Creadigol Cymru o'r blaen.

Themâu Tymhorol ar gyfer 2025-26

  • Hydref 2025: Dysgu Creadigol ar draws y Cwricwlwm
  • Gwanwyn 2026: Dysgu Creadigol ar gyfer Llythrennedd
  • Haf 2026: Dysgu Creadigol ar gyfer Iechyd a Llesiant

A yw Archwilio yn Iawn i Chi?

Ydy! Os ydych chi eisiau:

  • Ailddarganfod eich cyffro a'ch angerdd dros addysgu
  • Dysgu dulliau sy'n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru
  • Bod yn rhan o gymuned o addysgwyr creadigol agored eu meddwl
  • Arbrofi, myfyrio, a thyfu
  • Mwynhau diwrnod o ddysgu gyda bwyd a hwyl 

Yna mae Archwilio wedi'i wneud i chi. 

Sut i gofrestru 

Mae cofrestru ar gyfer Hydref 2025 bellach ar agor!

Eisiau bod y cyntaf i wybod pryd mae sesiynau'r Gwanwyn a'r Haf yn agor? Cofrestrwch ar gyfer ein bwletin Dysgu Creadigol Cymru.

Cwestiynau mynych

Ydy. Mae ein sesiynau'n cyd-fynd yn agos â'i egwyddorion.

Wrth gwrs! Mae Archwilio yn croesawu addysgwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd.

Nid yw cael grant Ewch i Weld, Rhowch Gynnig Arni neu Arbrofi agored yn effeithio ar eich cymhwysedd.

Ni fydd cymryd rhan yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol yn eich atal rhag cofrestru ar gyfer Archwilio.

Mae Archwilio yn rhad ac am ddim i fynychu.

Nac ydym. Bydd angen i'ch ysgol dalu cost unrhyw gostau cyflenwi neu dreuliau teithio sy'n ofynnol i fynychu.

Bydd. Rydyn ni wrth ein bodd â chinio hyfforddi da!

Gellir. Rhowch wybod i ni ar y ffurflen gofrestru.

Nac oes, ond efallai yr hoffech fynychu sesiwn wahanol yn y dyfodol gyda thema wahanol.

Lleoliadau ledled Cymru; bydd manylion ar gael ar y ffurflen gofrestru.

Byddwch. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei rhannu ymlaen llaw.

Rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw, mae gennym ddyddiad cau o 7 diwrnod cyn pob dyddiad hyfforddi.

Cynhelir y sesiynau rhwng 9:30 a 14:30. Yn anffodus, nid oes gennym opsiwn ar gyfer presenoldeb rhannol, wrth gofrestru rydych chi'n ymrwymo i fynychu am y diwrnod cyfan.

Mae Archwilio yn rhaglen weithgaredd newydd ac ar hyn o bryd mae ein holl sesiynau'n ymarferol ac yn cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb. Os yw hyn yn rhwystr i chi, cysylltwch â ni fel y gallwn ystyried y galw am opsiwn ar-lein.

Yn bendant - y mwyaf, y gorau! Cofrestrwch ar gyfer pob person unigol sy'n mynychu, mae gennym ddyddiad cau o 7 diwrnod cyn pob dyddiad hyfforddi.

Nid oes angen profiad - dewch â'ch chwilfrydedd yn unig.

Na. Nid oes dim i'w baratoi ymlaen llaw a does dim rhaid sefyll i fyny i gyflwyno eich enghreifftiau eich hun! 

Rydym yn dosbarthu'r holl wybodaeth ar ôl y sesiwn felly nid oes angen dod ag unrhyw beth gyda chi. Rydym yn eich cynghori i adael gliniaduron gartref fel y gallwch ymgolli'n llwyr yn y maes.

Na, yn anffodus dim ond i athrawon, staff cymorth ac arweinwyr ysgolion sy'n cael eu cyflogi mewn ysgolion cynradd, uwchradd, arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol ac a gynorthwyir yn wirfoddol, a chyfleusterau addysgu arbenigol yng Nghymru y mae'r cyfle hwn ar gael.

Na, yn anffodus dim ond i athrawon, staff cymorth ac arweinwyr ysgolion sy'n cael eu cyflogi mewn ysgolion cynradd, uwchradd, arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol ac a gynorthwyir yn wirfoddol, a chyfleusterau addysgu arbenigol yng Nghymru y mae'r cyfle hwn ar gael.

Na, yn anffodus dim ond i athrawon, staff cymorth ac arweinwyr ysgolion sy'n cael eu cyflogi mewn ysgolion cynradd, uwchradd, arbennig a chyfleusterau addysgu arbenigol a gynhelir gan awdurdod lleol ac a gynorthwyir yn wirfoddol, a leolir yng Nghymru y mae'r cyfle hwn ar gael.

Darllen mwy