Heblaw am y grymoedd dirprwyedig, mae gan y pwyllgorau swyddogaeth ymgynghorol.
Adroddant i’r Cyngor ar berfformiad y gweithgareddau perthnasol i gylch gwaith pob pwyllgor. Mae'r pwyllgorau yn dod ag unrhyw faterion sy’n achosi pryder neu feysydd lle y gellid gwella at sylw’r Cyngor.
Mae chwech phwyllgor â grymoedd dirprwyedig:
- Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Perygl
- Pwyllgor Cyfalaf
- Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol
- Pwyllgor Cenedlaethau'r Dyfodol
- Pwyllgor Cydraddoldeb Strategol
- Pwyllgor y Gymraeg
Bydd un grŵp ymgynghorol yn adrodd i'r Cyngor hefyd:
- Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yn Fenis
Mae pob pwyllgor yn cynnwys Aelodau’r Cyngor ac unigolion sydd wedi eu cyfethol, ac maent yn gweithredu dan gylch gwaith penodol.