Nod Camau Creadigol yw ariannu artistiaid a sefydliadau unigol sydd wedi profi rhwystrau i gael ein harian. Mae’n cefnogi artistiaid a sefydliadau drwy eu taith a’u helpu i ddatblygu eu gyrfa, eu busnes a’u sefydliad.
Mae’n hanfodol cefnogi'r unigolion a'r sefydliadau yma oherwydd ein bod am gynyddu amrywiaeth sector y celfyddydau.
- Pwy sy'n gallu ymgeisio?
Mae Camau Creadigol i Unigolion yn agored i artistiaid ac unigolion creadigol sy'n fyddar, anabl, niwroamrywiol neu’n ethnig a diwylliannol amrywiol. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y grwpiau yma oherwydd bod ymchwil fewnol ac allanol wedi dangos nad ydym yn cysylltu â nhw’n ddigonol. Mae ganddynt anawsterau wrth gael ein harian ac yn wynebu rhwystrau a gwahaniaethu.
Agorwch y gwymplen nesaf i weld ein diffiniadau llawn.
Dylech ddarllen y meini prawf isod i gael gwybod a ydych yn gymwys i ymgeisio.
Darllenwch: Cymhwysedd - Unigolion
Yn ôl ein meini prawf, rhaid ichi fod â phrofiad o fod yn artist neu weithiwr creadigol. Efallai eich bod wedi cael seibiant o’ch gyrfa. Efallai nad yw’ch gyrfa artistig yn brif incwm ichi. Ond mae'n rhaid ichi allu dangos eich profiad artistig neu greadigol.
Rhaid ichi hefyd gael rhywfaint o brofiad o greu a rhannu gwaith ag eraill (drwy berfformio neu arddangos, er enghraifft). Os nad oes gennych y fath brofiad, mae’n bosibl o hyd ichi ymgeisio gyda phortffolio o waith. Efallai y byddwn yn penderfynu eich ariannu ar sail eich posibiliadau artistig.
Mae'n rhaid ichi ddisgrifio’r rhwystrau ar eich taith a sut mae arian Camau Creadigol yn gallu eu goresgyn. Rydym yn gwybod pa mor anodd weithiau yw siarad am brofiadau cas felly byddwn yn gwneud ein gorau i greu lle diogel i wneud hyn.
Diffinio termau
Rydym yn diffinio ‘ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol’ yn:
unrhyw un ar wasgar o'r gwledydd yma: Affrica, Asia, y Caribï, Sbaen, Dwyrain Ewrop neu'r Dwyrain Canol neu sy’n Lladinaidd
unrhyw un sy'n dod o grŵp ethnig nad yw'n wyn yn unig
unrhyw un o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Rydym yn diffinio ‘anabledd’ yn ôl y Model Cymdeithasol o Anabledd sy’n:
fframwaith gan bobl anabl i weithredu yn erbyn eu gormes. Mae'n datgan bod pobl yn cael eu hanablu gan rwystrau yn y gymdeithas ac nid o reidrwydd oherwydd eu nam. Mae rhwystrau’n gallu bod yn rhai corfforol (diffyg toiledau anabl) neu rai sy’n dod o agweddau (cymryd nad yw pobl anabl yn gwneud rhai pethau)
gwrthwynebu'r model meddygol o anabledd a oedd yn dweud bod pobl anabl yn broblem feddygol i'w datrys neu eu gwella
Rydym yn diffinio ‘niwroamrywiol’ yn:
ystyried gwahaniaethau datblygiad yr ymennydd yn amrywiad naturiol yn y ddynoliaeth gan ein hannog i ymwrthod ag agweddau beirniadol am bobl sy’n dysgu mewn ffordd arall neu’n gweld pethau mewn ffordd wahanol
mae gan bob un ohonom systemau nerfol unigryw o alluoedd ac anghenion
rydym yn gwybod nad oes un ffordd ‘gywir’ o feddwl, dysgu ac ymddwyn a rhaid dathlu'r gwahaniaethau yn hytrach na’u hystyried yn ddiffygion
- Am beth dwi’n gallu ymgeisio?
Mae Camau Creadigol i Unigolion yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol. Nid yw'r arian yn talu am greu gwaith newydd na chyflawni prosiect artistig neu greadigol. Rydym am i artistiaid weld yn union beth sydd ei angen arnynt i ddatblygu a phroffesiynoli eu gwaith gan aros yn agored i archwilio gwahanol ffyrdd o’i wneud gyda ni.
Rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn wahanol a bod datblygiad proffesiynol yn amrywio o unigolyn i unigolyn. Ond dyma rai o'r pethau posibl i’w cynnwys yn eich cais:
gweithio gyda rhywun sydd â phrofiad tebyg i ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf os nad ydych yn siŵr (dysgu gan eraill)
cyrsiau hyfforddi sy'n gysylltiedig â'ch taith greadigol (ond nid addysg ffurfiol fel cyrsiau gradd neu hyfforddiant galwedigaethol)
sefydlu grwpiau gydag artistiaid eraill i gyd-ddysgu (magu rhwydweithiau a chymunedau)
gweithio gyda rhywun sydd â phrofiad proffesiynol i ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf wrth ddatblygu eich busnes (mentora, hyfforddi)
gwneud eich ymarfer yn fwy proffesiynol (cyngor am ddatblygu busnes, y cyfryngau cymdeithasol, cyngor marchnata)
datblygu adnoddau neu offer ymarferol i broffesiynoli eich ymarfer (datblygu gwefan, deunyddiau marchnata, offer neu ddeunyddiau)
dechrau sefydliad newydd
Byddai’n bosibl hefyd gynnwys cost:
eich amser
gweithwyr llawrydd sy'n cefnogi eich gwaith datblygu
mentoriaid neu ymgynghorwyr
hygyrchedd
gofal am blant neu bobl eraill
Rhaid i bawb gynnwys cost eu hamser.
Rhaid i bawb dalu costau arferol y diwydiant o leiaf i weithwyr llawrydd. Os ydynt yn rhoi eu hamser mewn nwyddau, rhaid rhoi rhesymeg am hynny. Mae rhagor o wybodaeth am ffioedd artistiaid yma.
- Am faint dwi’n gallu ymgeisio?
£500 hyd at £7,500 (gyda chostau hygyrchedd ar ben hynny)
Bydd ein staff yn gallu eich helpu i benderfynu faint i ymgeisio amdano.
Bydd ymgeiswyr yn gallu gofyn am hyd at 90% o gost y prosiect. Dylai'r 10% sy'n weddill ddod oddi wrth ffynhonnell nad yw’n Gyngor Celfyddydau Cymru neu’r Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn gallu bod yn gymorth mewn nwyddau, arian neu'r ddau. Mae cymorth mewn nwyddau yn gallu bod yn gyfraniad nad yw'n arian fel stiwdio am ddim neu le i ymarfer am ddim neu rodd o offer neu amser rhywun.
Mae nodiadau cymorth am y gyllideb yma
- Dyddiadau cau ymgeisio
12pm ar y dyddiadau canlynol fydd dyddiad cau ymgeisio:
Iau 27 Mawrth 2025
Iau 29 Mai 2025
Iau 31 Gorffennaf 2025
Iau 25 Medi 2025
Iau 27 Tachwedd 2025
Rhaid gadael o leiaf 8 wythnos rhwng y dyddiad cau a dyddiad dechrau eich prosiect.
Nid oes modd inni ariannu prosiectau sydd eisoes wedi dechrau. Felly os bydd dyddiad dechrau eich cynnig yn dod cyn inni gael cyfle i asesu eich cais, bydd eich cais yn methu.
- Sut byddwch yn asesu fy nghais? (meini prawf asesu)
Am y pethau canlynol rydym yn chwilio mewn cais da:
disgrifio’n glir ble rydych ar eich taith greadigol a sut bydd yr arian yn helpu eich datblygiad proffesiynol
esbonio’n glir y rhwystrau rydych wedi'u hwynebu ar eich taith a sut bydd yr arian yn eich helpu i’w gwaredu
esbonio’n glir pam mai nawr yw’r amser iawn ichi gael yr arian
rhesymeg glir dros yr anghenion i’ch datblygiad proffesiynol
cynllun gweithredu/amserlen am y cam yma yn eich datblygiad proffesiynol
cyllideb glir sydd â'ch holl gostau cymwys
Hefyd efallai y byddwn yn ystyried ffactorau eraill fel:
effaith ehangach eich cynnig ar y sector
lleoliad eich cynnig
effaith eich cynnig ar eich celfyddyd
sut mae’ch cynnig yn cwrdd â'n blaenoriaethau a'n hegwyddorion
- Pa gwestiynau sydd i’w hateb?
Mae dolen i'r ffurflen gais a thempled cyllideb yn yr adran ‘Dogfennau Allweddol’ isod.
Rhaid anfon atom ffurflen gais, cynnig a chyllideb.
Mae modd ichi gynnwys atodiadau hefyd i gefnogi eich cais. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
- Dogfennau pwysig
Mae’r templed am eich cyllideb yma
Mae’r canllawiau am sut i ysgrifennu eich cais yma
Mae’r nodiadau cymorth am y gyllideb yma
Mae'r enghraifft o'r ffurflen gais ar-lein yma
Mae'r enghraifft o'r Adroddiad Cwblhau yma
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Rydym yn ceisio ein gorau glas i fod mor hyblyg â phosibl a rhoi cymorth ichi bob cam o'r ffordd. Byddwn yn cynnig arweiniad ichi am lunio eich syniadau a'ch cais i ddiwallu eich anghenion. Bydd y cymorth yn dod gan un o’n Swyddogion Datblygu ac, os byddwch yn dewis un, gan eich Mentor.
- Ein Swyddog Datblygu
Bydd y Swyddog yn:
- trafod eich syniadau a chadarnhau a ydych yn gymwys i ymgeisio i Gamau Creadigol ac, os felly, ar ba lefel. Bydd hefyd yn ateb eich cwestiynau am y gronfa a sut bydd yr arian yn cefnogi eich datblygiad
- eich cysylltu ag un o'n Mentoriaid drwy ddangos rhestr o fentoriaid ichi ddewis un
- pwynt cyswllt yn y Cyngor os oes gennych chi, neu'ch Mentor, gwestiynau
- rhoi adborth am eich cais pan fyddwch chi a'ch Mentor yn barod i’w gyflwyno
- esbonio sut i ymgeisio mewn ffordd arall fel fideo os hoffech wneud hynny
- Eich Mentor
Os byddwch yn dewis gweithio gyda Mentor, byddwn yn talu am hyd at 6 awr o'i amser. Mae’r mentoriaid yn dod o gefndiroedd gwahanol ac mae ganddynt ystod o brofiad byw a gweithio. Byddwn wedi’u hyfforddi i’ch mentora. Os oes angen rhagor na 6 awr arnoch, rhowch wybod inni. Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod yn cael digon o amser gyda’ch Mentor.
Byddwn yn cynnig cymorth ac arweiniad ichi lunio cais sy'n canolbwyntio arnoch chi a’r camau nesaf ar eich taith artistig.
Bydd y Mentor yn:
- rhoi arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth am eich syniadau cyn ichi ymgeisio
- rhoi rhestr o ymgynghorwyr gydag arbenigedd mewn sawl maes i’ch cefnogi ar eich taith neu bydd modd ichi gydweithio ag un arall o’ch dewis. Rhaid cynnwys ffi unrhyw un a fydd yn gweithio gyda chi yng nghost eich prosiect
- eich cefnogi i ddatblygu eich syniadau’n gynnig
Meddyliwch am y cwestiynau:
Ble rydw i nawr?
Ble rydw i am fod?
Beth fydd rhaid imi ei gael i gyrraedd y nod?
Yr atebion fydd yn sail i'ch cais.
Eich dewis chi yw cael Mentor ai peidio.
- Beth sy’n digwydd os oes angen cymorth hygyrchedd arnaf?
Rydym yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, braille, sain, Hawdd ei Darllen ac Arwyddeg. Byddwn hefyd yn ceisio cynnig gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw am y Gymraeg a'r Saesneg ar gais.
Os oes angen cymorth hygyrchedd arnoch, mae rhagor o wybodaeth a sut i’w drefnu yma
- Sut mae dechrau?
Os ydych yn penderfynu ymgeisio, y cam cyntaf yw siarad ag un o’n staff. Bydd yn gwybod a yw’r cynllun yn iawn ichi ac a fydd yn diwallu eich anghenion. Os yw’n addas, byddwn yn eich cefnogi i ymgeisio.
Dyma sut i gysylltu â ni:
E-bost – camaucreadigol@celf.cymru
Ffôn - 03301 242733
Bydd un o'n staff yn cysylltu â chi yn eich dewis iaith. Rhaid cysylltu â’n staff cyn ymgeisio.
- Dolenni Cyflym
Cymhwysedd ar gyfer sefydliadau
12 mis yw'r cyfnod hiraf i’r prosiect.
Nid oes modd inni warantu arian yn yr hirdymor ar ôl i’ch prosiect ddod i ben. Rhaid ichi ddatblygu arferion cynaliadwy nad ydynt yn dibynnu ar ein harian i gefnogi eich datblygiad wedyn.
Tair gwaith. Mae’r gronfa i gefnogi unigolion gwahanol sy'n dod i'r amlwg i arwain sector iachach a mwy amrywiol.
Nac oes, nid oes modd inni dalu am deithio neu waith artistig rhyngwladol o'r gronfa.
Oes. Byddwch yn gallu ymgeisio am arian arall.
Os byddwch yn llwyddo, byddwn wrth law i'ch cefnogi. Gobeithio y bydd popeth yn mynd yn llyfn ond byddwch yn onest os bydd pethau’n mynd o chwith, inni allu eich helpu. Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn ei drafod a’r dewisiadau wedyn gan gynnwys ei ariannu’n bellach. Bydd cyfathrebu bob amser yn agored a thryloyw.
Os nad ydych yn llwyddo, byddwn wrth law i'ch cefnogi. Byddwn yn trafod y rhesymau am y penderfyniad a’ch dewisiadau wedyn gan gynnwys o bosibl ailymgeisio. Nid proses llwyddo ynteu methu sydd gennym yma. Bydd cyfathrebu bob amser yn agored a thryloyw.
Byddwch yn cael rhestr o fentoriaid gyda’u manylion cyswllt, eu maes a’u bywgraffiad. Byddwch yn gallu cysylltu â nhw’n uniongyrchol i drefnu cwrdd.
Dewis arall yw cael y Cyngor i drefnu un ichi ar sail maes arbenigol, lleoliad, profiad byw/gweithio. Ein nod yw sicrhau y bydd eich Mentor yn gallu uniaethu gymaint â phosibl â chi a'ch sefydliad.
Rhowch wybod inni felly cyn gynted â phosibl. Cysylltwch â’n staff am unrhyw broblem gyda'ch Mentor. Byddwn yn cymryd camau i’w datrys.
Bydd eich Mentor yn cofnodi ei gyfarfodydd â chi felly byddwn yn gwybod am y trafodaethau a sut mae’ch syniadau’n datblygu.
Os nad ydych chi’n gallu derbyn arian Loteri Genedlaethol am unrhyw reswm, dylech chi lanlwytho llythyr gyda’ch cais yn esbonio pam mae hyn yn wir. Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n ceisio ariannu eich prosiect o arian o ffynonellau eraill.
Mewn rhai achosion, rydym yn ‘dirprwyo’ arian y Loteri Genedlaethol i sefydliadau arbenigol sy’n gweithio ar ein rhan i gynnal rhaglenni cyllido sy’n berthnasol i grwpiau penodol.
Os yw’ch prosiect yn canolbwyntio ar lenyddiaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru, llenyddiaethcymru.org 029 20 47 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
Mewn rhai achosion, rydym yn ‘dirprwyo’ arian y Loteri Genedlaethol i sefydliadau arbenigol sy’n gweithio ar ein rhan i gynnal rhaglenni cyllido sy’n berthnasol i grwpiau penodol.
Ni allwn gefnogi gweithgareddau lle mae'r brif ddisgyblaeth yn ffilm (yn hytrach na artist sy'n defnyddio ffilm neu fideo i wneud neu rannu ei waith).
Os yw’ch prosiect yn canolbwyntio ar ffilm cysylltwch â Ffilm Cymru Wales: www.ffilmcymruwales.com / 029 21 679 369 /enquiries@ffilmcymruwales.com
Yndan, rydym yn ariannu cerddorion. Fodd bynnag, nid ydym yn ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio'n llwyr ar recordio, hyrwyddo a dosbarthu. Ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar hyn, cysylltwch â PRSF neu Help Musicians UK yn y lle cyntaf.
Mae Tŷ Cerdd yn dosbarthu arian y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, i helpu sefydliadau i ddatblygu’r broses o greu cerddoriaeth o bob math mewn cymunedau yng Nghymru. Cysylltwch â’r Tŷ Cerdd i drafod sut allai’ch helpu chi: www.tycerdd.org / enquiries@tycerdd.org