Cyffredinol

Crëwch gyfarchiad sy'n defnyddio'r Gymraeg yn chwareus. Gallai hyn olygu greu geiriau newydd neu ddefnyddio gwahanol gyfuniadau o eiriau.

Adeiladu ar eirfa ar y cyd y grŵp ac adrodd geiriau dewisol yn rheolaidd.

Creu adnodd geirfa ar gyfer cyfranogwyr, gyda'r cyfranogwyr. Gallai hyn fod yn eirfa o eiriau, symudiadau, delweddau neu synau.

Defnyddiwch 'frechdan iaith' wrth siarad. (Cymraeg, Saesneg, Cymraeg)

Defnyddiwch eiriau Cymraeg yn gyson yn hytrach na'r Saesneg. Awgrym o 3 gair newydd ym mhob sesiwn.

Defnyddiwch strategaeth amharu drwy gyflwyno ymadroddion Cymraeg i sbarduno ffordd wahanol o feddwl. (Cyflwyno syniad, gair, ymadrodd Cymraeg yn ystod gweithgaredd)

Cyfunwch y celfyddydau i greu cynnyrch neu weithgaredd.

Creu mannau hamddenol a diogel i siarad yn Gymraeg tra'n cyd-greu celf. Mae hyn yn gweithio'n dda gyda chelf weledol, crefftio, ysgrifennu ac ati.

Gemau geiriau.

Pwrpas y gemau yw i dynnu’r ofn o’r iaith, i godi hyder trwy fod yn chwareus, cyd greu gyda chyfranogwyr a gwneud y defnydd iaith yn hwyliog

Cuddiwch wrthrych gydag enw Cymraeg. Gall sawl sialens neu gêm gael eu cynnal o'r weithred. Yr hyn sy’n bwysig yw mai enwau Cymraeg y gwrthrychau gaiff eu defnyddio.          

Defnyddiwch air o fewn gweithgaredd. Gellid rhoi geiriau annisgwyl i unigolion a rhoi sialens iddynt ddefnyddio’r gair yn ystod gweithgaredd.        

Defnyddiwch ‘air gwneud / gair gwirion’ yn ystod gweithgaredd. Gellid fynd â’r her gam ymhellach trwy osod sialens i weddill y grŵp adnabod y gair gwneud.                       

Dewch â tri gair i’r gweithdy. Gwahoddwch gyfranogwyr i ddod a geiriau i’r gweithdy ac i greu gyda’r geiriau hynny.                       

Creu geiriau Cymraeg i’w defnyddio yn ystod sesiwn. Er mwyn bod yn chwareus gyda’r iaith, crëwch eiriau Cymraeg newydd gyda’r grŵp. Gall y rhain fod yn eiriau cyfarch / cyfarwyddyd / enwau.

Ditectif iaith. Mae sawl gêm yn bosib gyda'r gweithgaredd hwn drwy ddarganfod/paru gwrthrych/lle/sain â gair.         

Sibrwd geiriau / straeon mewn grŵp. Mae'r gêm hon yn seiliedig ar (Chinese Whispers). Gallwch chwarae gyda'r cyfrwng drwy ddefnyddio gwneud geiriau / cyfieithu geiriau am yn ail / defnyddio seiniau.

Cyd-ddarganfod geiriau drwy archwilio'r amgylchedd allanol a darganfod enwau neu eiriau sy'n cyd-fynd â'r gwrthrych. Mae hyn yn ymarfer da ym myd natur.

Rhoi cyfarwyddyd i’r grŵp gyda’ch cefn atynt. Mae hwn yn ymarfer hwyliog ac ymarferol i ddatblygu defnydd iaith. Gall fod yn berthnasol i unrhyw gelfyddyd.

Rhannwch eiriau disgrifiadol (neu synau) fel ymateb i gelf neu weithredoedd. Gellir defnyddio'r dull hwn gydag unrhyw ffurf greadigol ond mae'n benthyg ei hun yn dda i gerddoriaeth a chelf weledol.

Adeiladwch ar eirfa ymateb yn raddol trwy ailadrodd ac annog.

Gemau synau iaith (llythrennau)

Mae’r wyddor Gymraeg a synau’r iaith yn gallu bod yn heriol i rai gan greu swildod defnydd. Pwrpas yr ymarferion yma yw i godi hyder defnyddio a chynhyrchu synau’r iaith Gymraeg trwy fod yn chwareus. Gall y gemau geiriau gael eu haddasu i gemau synau iaith yn ogystal â’r awgrymiadau isod.

Daw’r dulliau yma o ymarferion a hyfforddinat iaith trwy symud, dawns a cherddoriaeth. Mae cyfoeth o ddulliau celfyddydol yn bosib o’r awgrymiadau.

Cytseiniaid Cymraeg.

Cynhyrchu cyseiniannau a seiniau o gytsain yr wyddor Gymraeg. Cael hwyl yn eu defnyddio'n greadigol. Ceisiwch gyfansoddi, recordio, delweddu'r synau a chwarae gyda nhw trwy ymarferion symud a chwarae rôl.

Llafariaid Cymraeg.

Cynhyrchu seiniau llafariad yn unigol ac ar y cyd. Cael hwyl yn eu defnyddio'n greadigol. Ceisiwch gyfansoddi, recordio, delweddu'r synau hyn a chwarae gyda nhw trwy ymarferion symud a chwarae rôl.

Cael sgwrs yn defnyddio llythrennau Cymraeg. Gallwch droi sgwrs yn olygfa / sefyllfa / gwaith celf.

Creu llun o sain.

Ymateb creadigol i sŵn llythrennau yn y corff / creu siâp, symudiad, lliw neu lun.

Archwilio seiniau.

Mae pawb yn ymateb yn wahanol i synau. Archwiliwch greu sain trwy'r corff ac yn y geg. Ymateb i'r cyseiniant a'r sain trwy symudiad, ysgrifennu, paentio, darlunio, cerddoriaeth, emosiwn.

Creu geiriau o'r seiniau.

Cynyddu hyder drwy gyfuno seiniau i greu geiriau newydd.