Cefndir

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd sefydliadau, adeiladau a lleoliadau celfyddydol ledled Cymru i ymgeisio am arian cyfalaf.

Rydym am roi hyd at £8 miliwn i wella'r seilwaith cyfalaf yn sector celfyddydol Cymru yn y flwyddyn ariannol 2025/26.

Rhaid i unrhyw gais ddangos bod modd cyflawni’r prosiect yn y flwyddyn ariannol a chyflwyno inni dystiolaeth o’ch gwariant erbyn 5 Mawrth 2026.

Darllenwch ein canllawiau (yn yr adran Help isod) i weld ein blaenoriaethau ariannu.

Darllenwch Amodau Arferol ein Grantiau ar gyfer Prosiectau Cyfalaf (yn yr adran Help isod) i ddeall yr amodau a fyddai ar unrhyw brosiectau sy’n llwyddo.

Pwy sy’n gallu ymgeisio? 
Dim ond sefydliadau, adeiladau a lleoliadau celfyddydol sydd yng Nghymru.

Am beth fydd yr arian yn talu?

Dyma enghreifftiau o’r hyn y byddwn yn ei ariannu:

  • gwella, cynnal a chadw ac adnewyddu adeiladau a lleoliadau celfyddydol, yn enwedig lle bydd y newidiadau’n fodd i integreiddio cymunedau, plant, pobl ifanc a theuluoedd
  • cyfrannu at astudiaethau dichonoldeb i brosiectau cyfalaf strategol i sefydliadau allu ymchwilio i hyfywedd eu syniadau
  • prynu neu uwchraddio offer a datblygu trawsnewid digidol gan gynnwys asedau seiliedig ar ddigidol
  • gwella cyfleusterau a phrynu offer i wella hygyrchedd adeiladau celfyddydol neu leihau ôl troed carbon

Rhaid ichi hefyd fodloni'r meini prawf a'r blaenoriaethau cymhwysedd sydd yn ein canllawiau.

Am faint mae modd ymgeisio?

  • Ar gyfer ceisiadau hyd at a chan gynnwys £250,000, am hyd at 90% o'ch costau cymwys

  • Ar gyfer ceisiadau dros £250,000, rydym yn disgwyl ariannu hyd at 75% o'ch costau cymwys 

Nid oes uchafswm ar lefel yr arian ond rhaid ichi ddangos pam mae’r swm yna’n briodol i'r prosiect. 

Rhaid hefyd ddangos bod gennych yr holl arian arall ar waith a bod modd cyflawni'r prosiect yn llwyr a chyflwyno anfonebau erbyn 5 Mawrth 2026.

Pryd i ymgeisio?
Rhwng dydd Iau 5 Mehefin 2025 a hanner dydd, ddydd Mercher 2 Gorffennaf 2025.

Rhaid cysylltu â ni’n gyntaf gyda manylion eich prosiect i gael dolen i'r ffurflen gais. Rhaid cyflwyno’r ffurflen gyda’r dogfennau eraill y byddwn yn eu hanfon atoch.

Darllenwch ein canllawiau am y gronfa a’r wybodaeth angenrheidiol i ymgeisio.

Yn gyntaf cysylltwch â thîm Cyfalaf: cyfalaf@celf.cymru gyda disgrifiad byr o’ch prosiect gan nodi’r hyn rydych yn cynnig amdano, gwerth y prosiect a'r swm rydych yn ei geisio.

Cymorth hygyrchedd?

Os oes gennych anghenion hygyrchedd a hoffech ymgeisio, bydd modd inni eich helpu. Cysylltwch â'n Swyddog Grantiau a Hygyrchedd: cymorth.hygyrchedd@celf.cymru i drafod eich anghenion.

Mae rhagor am gymorth hygyrchedd yma: Cymorth Hygyrchedd

Cymorth
Dogfen05.06.2025

Amodau Grant Safonol ar gyfer Prosiectau Cyfalaf

Dogfen05.06.2025

Canllaw Buddsoddiad Cyfalaf y Celfyddydau 2025