Yn yr adran hon ceir nodiadau cymorth i’ch arwain drwy’r broses o wneud cais. Os byddwch chi’n derbyn arian, fe welwch chi wybodaeth am sut i ddefnyddio logos a deunydd hyrwyddo.

Gan ein bod ni’n cael ein hariannu gan arian trethdalwyr, mae’n bwysig bod y cyhoedd yn gallu gweld y gwaith gwych rydyn ni’n ei ariannu. Fe allwch chi ein helpu i wneud hyn drwy gydnabod eich bod wedi derbyn arian gennym ni.  

Rydyn ni hefyd wedi creu pecynnau cymorth defnyddiol ar gydraddoldeb, dwyieithrwydd a marchnata yn y celfyddydau. Mae pob un llawn gwybodaeth hygyrch fydd yn eich helpu i ehangu cynulleidfa eich gweithgareddau. Ticiwch y blychau isod i ganfod rhagor o wybodaeth.