Adolygiad buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru

Pob pum mlynedd fel arfer y cynhelir ein Hadolygiad Buddsoddi. Dyma'r broses i ddewis sefydliadau i fod yn aelodau o Bortffolio Celfyddydol Cymru. Caiff aelodau arian blynyddol oddi wrthym i gynnal eu gwaith.

Ar 20 Hydref 2021 cyhoeddodd ein Cyngor ei fod am newid amserlen yr Adolygiad. Gwnaed hyn i gael rhagor o amser i newid yr Adolygiad ar ôl derbyn awgrymiadau mewn gweithdai gyda’r sector a chaniatáu penodi Prif Weithredwr newydd.

Erbyn hyn mae gennym Brif Weithredwr Dros Dro. Bwriwn ymlaen â rhagor o sgyrsiau â'r sector tan ddiwedd yr haf. Cyhoeddwn ganllawiau yn gynnar yn yr hydref. Felly gallwn agor y cyfnod ymgeisio’n gynnar yn 2023. Cyhoeddwn y Portffolio newydd yn nes ymlaen yn 2023. Gall yr amserlen newid gan ddibynnu ar ein sgyrsiau â'r sector.

Bydd ein trefniadau ariannu newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2024.

Cyhoeddwn ragor o wybodaeth pan ddaw’n hysbys.

Aelodau presennol

Fel aelod o'r Portffolio, rydych chi'n un o'n partneriaid allweddol o ran gwireddu'r strategaethau sy'n flaenoriaeth i ni ac a amlinellir yn ein Cynllun Corfforaethol 2018-23: Er budd pawb.

Ar y dudalen hon fe ddewch chi o hyd i wybodaeth a dogfennau o ddiddordeb perthnasol i chi. Os na fedrwch chi ddod o hyd i'r hyn yr y'ch chi'n chwilio amdano, yna cysylltwch â ni.

Mae'r hinsawdd yn anodd ar hyn o bryd, yn arbennig felly ar gyfer sefydliadau celfyddydol. Mae ein Rhaglen Wytnwch ar gyfer Portffolio Celfyddydol Cymru yn ein galluogi ni i weithio gyda'r portffolio er mwyn sicrhau ei hyfywedd at y dyfodol. 

Mae mwy i'r rhaglen honno nag arian. Yn ein barn ni, nid dyma'r ffordd fwyaf effeithiol i yrru newid, a sicrhau bod ein sefydliadau yn barod ar gyfer y dyfodol. Yn hytrach rydym ni'n edrych ar yr hyn sydd ar y gweill o fewn y sefydliad ac yn gweithio gyda'n gilydd er mwyn dod o hyd i atebion. Mae'n bosib y gwnawn ni fuddsoddi arian ar ôl hynny, ond nid dyma man cychwyn y rhaglen.

Darllenwch ragor ynghylch ein Rhaglen Wytnwch

Arolwg Portffolio Celfyddydol Cymru

Bob chwe mis, rydym yn cynnal arolwg sy'n cynnwys holl aelodau Portffolio Celfyddydol Cymru. Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth ynghylch nifer y digwyddiadau a gynhelir gennych a hefyd y nifer sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau a hwyluswyd gennych. Rydym hefyd yn casglu ystadegau eraill (am gyflogaeth ac ymwneud demograffig, er enghraifft) sy'n ein cynorthwyo i lunio darlun mwy cynhwysfawr o gyflwr y celfyddydau yng Nghymru.