Y nod yw gwneud yn siŵr bod gennym ragor o amser i ymateb i’r awgrymiadau i newid pethau a godwyd yn ein gweithdai diweddar gyda'r sector celfyddydau. Hefyd rydym ni am gydamseru dechrau’r adolygiad â phenodiad Prif Weithredwr newydd.
Bob pum mlynedd y cynhelir ein Hadolygiad Buddsoddi i ddewis grŵp o gwmnïau sy'n ffurfio Portffolio Celfyddydol Cymru. Mae aelodau o'r Portffolio yn cael arian blynyddol i dalu am eu gwaith oddi wrthym.
Mae’r Portffolio presennol yn 67 sefydliad ledled Cymru y gwariwn ryw £28.5 miliwn arnynt. Mae'n cynnwys sefydliadau o bwys rhyngwladol, lleoliadau celfyddydol ledled Cymru a sefydliadau celfyddydol cymunedol.
Mae eisiau rhagor o amser arnom i ymateb i'r gofyniad clir am newidiadau yn ein strwythurau ariannu a ddaeth o’r gweithdai a’r arolwg cyhoeddus.
Meddai Phil George, Cadeirydd y Cyngor:
"Mewn cyfarfod o'n Cyngor, gyda Llywodraeth Cymru yn bresennol, roeddem ni’n unfryd unfarn mai'r peth cywir i'w wneud i’r sector celfyddydol oedd ymestyn amserlen yr adolygiad. Wedyn cawn gyfle i ddangos ein bod yn cynnwys y newidiadau y soniodd y sector amdanynt. Cawn hefyd amser i lenwi swyddi gwag yn ein huwch dîm arwain gan gynnwys Prif Weithredwr newydd i arwain yr adolygiad.
Parhawn i siarad â'r sector wrth gwrs. Yn y cyfamser sefydlwn becyn o gymorth i’r sefydliadau sydd am ystyried ymgeisio i’r Portffolio. Rhannwn ragor o fanylion ddechrau 2022. Cynigiwn weithdai hefyd i roi cyfle i sefydliadau drafod strwythur a phroses yr adolygiad.