Mae ymchwil o safon yn darparu'r dystiolaeth i ni fedru deall y materion sy'n cael effaith ar y celfyddydau yng Nghymru. Mae hyn yn ein cynorthwyo wrth bledio achos y celfyddydau yng Nghymru, yn ogystal â chynllunio sut i ddefnyddio ein hadnoddau'n effeithiol. Gall hefyd annog eraill i fuddsoddi yn y celfyddydau.

Rydym yn comisiynu nifer o brosiectau ymchwil ac arolygon parhaus. Mae'r data a gasglwn yn cwmpasu cyhoeddi Ystadegau Swyddogol yn ogystal â chanlyniadau arolygon mynychu a chymryd rhan, yn ogystal ag adroddiadau wedi eu cynllunio'n arbennig ar gyfer sefydliadau celfyddydol.

Rydym yn ddarparwr  Ystadegau Swyddogol. Ystyr hyn yw bod nifer o'n adroddiadau ystadegol bellach wedi eu cynnwys o fewn cwmpas gweithgarwch Awdurdod Ystadegau'r DU (UKSA), ac ymrechwn i gydymffurfio â'r Côd Gweithredu ar Gyfer Ystadegau Swyddogol (2018).

Isod medrwch ddewis o blith ein cyhoeddiadau mwyaf diweddar. Er mwyn gweld rhestr gyflawn o'r dogfennau a gyhoeddwyd gennym, ewch i ymweld â'n llyfrgell ddogfennau a hidlwch y dewisiadau.