Pam yr adroddiad hwn, a pham nawr?
Credwn yn angerddol y gallwn gyfrannu’n sylweddol at bob un o saith nod Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’n bod yn helpu i greu Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, mwy cyfartal, sy’n gyfrifol yn fydeang gyda chymunedau mwy cydlynol efo diwylliant bywiog ble mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Mae gennym dystiolaeth gref o’n cyfraniad cymdeithasol a diwylliannol, ond nid ydym bob amser wedi bod cystal ag y gallem fod wedi bod yn dangos manteision economaidd ein gwaith i bobl Cymru. Mewn cyfnod lle mae cystadleuaeth enfawr am arian cyhoeddus, a lle, ar adeg ysgrifennu, rydym yn profi gostyngiad o 40% yn ein cyllid mewn termau real ers 2010, rydym yn gwybod ei bod yn hanfodol cyflwyno’r achos dros y celfyddydau ym mhob achos - am y llawenydd y mae’r celfyddydau yn ei roi i bobl, y lles y mae’r celfyddydau yn ei gefnogi, yr addysg y gall y celfyddydau ei darparu, a’r manteision ariannol ac economaidd y mae’r celfyddydau yn eu rhoi i bobl Cymru.