Mae'r polisi hwn yn sefydlu sut mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn trin y wybodaeth:

  • a gasglwn oddi wrthych drwy ein prosesau cais, gan gynnwys ceisiadau am grant ac ymgeisio am swyddi
  • a ddysgwn amdanoch pan ymwelwch â’n gwefan
  • a goladwn drwy’n trafodion gan gynnwys caffael, rheoli a gweinyddu ein staff a thaliadau i gyflenwyr a derbynwyr grant
  • a gasglwn drwy unrhyw broses arall gan gynnwys cofrestru am ddigwyddiadau, rhestri o gysylltiadau, gweithgareddau ymchwilio a gohebiaeth

 
Cymeradwyir y polisi hwn gan y Prif Weithredwr a'r Uwch-dîm Arwain. Cyhoeddwyd ef yn gyntaf yn Ebrill 2005 ac adolygwyd ef ym Chwefror 2021.

Mae amddiffyn preifatrwydd a data personol ein cleientiaid a’n hymwelwyr o'r pwys mwyaf inni. Mae diogelu eich preifatrwydd a’ch data personol yn agwedd bwysig ar y ffordd y crewn, y trefnwn ac y cynhaliwn ein gweithgareddau ar-lein ac all-lein. Mae arferion penodol y polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i holl weithgareddau Cyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Noson Allan.

Mynediad i’ch data personol  

Gellwch ofyn inni a ydym yn cadw data personol amdanoch, a gellwch hefyd ofyn am gael copi o'r data personol hwnnw. Cyn inni anfon unrhyw ddata personol atoch, gofynnwn ichi ddarparu prawf o bwy ydych. Os na ellwch ddarparu prawf, cadwn yr hawl i wrthod eich cais.   Gwnawn bob ymdrech i ymateb yn brydlon i’ch cais neu gywiro gwallau yn eich gwybodaeth bersonol. Gellwch ar unrhyw adeg ofyn inni ddileu neu gywiro eich gwybodaeth bersonol sydd yn ein cofnodion. Ar gyfer ceisiadau o'r fath, cyfeiriwch at y manylion cyswllt dan Gymorth Preifatrwydd

Cymorth Preifatrwydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein datganiad o breifatrwydd neu os gofynnwch am gael gweld eich data personol, cysylltwch â: llywodraethu@celf.cymru

Polisiau10.02.2021

Polisi preifatrwydd