Cefndir

Mae manylion llawn y rhaglen ar gael yn y canllawiau Celfyddydau, Iechyd a Lles

Prosiectau celfyddydol sy'n gwella iechyd a lles pobl drwy eu cysylltu â byd natur yw blaenoriaeth ychwanegol newydd i arian loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles gan Gyngor Celfyddydau Cymru o'r hydref yma.

Mae partneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol, iechyd a natur Cymru ymhlith y rhai sy'n cael eu hannog i wneud cais am un o dair lefel o arian loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Llesiant fel rhan o'r Rhaglen Natur Greadigol, cytundeb rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n anelu at feithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a'r amgylchedd naturiol.

Pwy sy'n gallu ymgeisio?

Mae Cronfa’r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn agored i geisiadau partneriaeth o bob rhan o'r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol, natur, sefydliadau amgylcheddol a'r trydydd sector. Mae prosiectau yn gymwys i ymgeisio o fynd i'r afael ag un neu fwy o'r problemau a'r blaenoriaethau iechyd canlynol:

  • Natur - prosiectau sy'n anelu at wella iechyd a lles pobl drwy gynyddu eu cysylltiad â byd natur drwy'r celfyddydau
  • Iechyd meddwl - gan gynnwys mynd i'r afael ag unigrwydd, ynysu cymdeithasol a phresgripsiynu cymdeithasol sy'n anelu at adeiladu gwytnwch a chefnogi gwell iechyd meddwl
  • Anghydraddoldeb iechyd - prosiectau celfyddydol sydd â’r nod o fynd i'r afael â hwn drwy ddod â manteision iechyd a lles i bobl o gefndiroedd mwy amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Iechyd a lles corfforol – prosiectau celfyddydol sy'n cefnogi gwell iechyd corfforol neu sy’n cadw pobl yn gorfforol weithgar
  • Lles staff - yn y gweithlu gofal iechyd a/neu'r celfyddydau

Dylid datblygu ceisiadau gan bartneriaeth/consortiwm o sefydliadau ac artistiaid a rhaid iddynt gynnwys partner iechyd a chelfyddydol (yn ogystal â phartner natur os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar y Celfyddydau, Iechyd a Natur). Bydd angen i un o'r partneriaid gymryd yr awenau, cyflwyno'r cais a bod yn gorff atebol o ran y cais.

Pryd y gallaf ymgeisio?

Bydd y gronfa'n agor ar 27 Mawrth 2024 a bydd yn cau am 5pm ar 22 Mai 2024. Bydd y gronfa'n ail agor ar 17 Gorffennaf ac yn cau am 5pm 11 Medi 2024.

    Os gwnewch gais am £50,000 neu lai (gan gynnwys costau hygyrchedd ychwanegol), ceisiwn gael y penderfyniad ichi mewn 8 wythnos o'r dyddiad cau.

    Os gwnewch gais am £50,000 neu ragor (gan gynnwys costau hygyrchedd ychwanegol) cewch benderfyniad mewn 12 wythnos o'r dyddiad cau.

    Cymorth

    Rydym ni’n hapus i drafod eich prosiect a'ch helpu i'w ddatblygu. E-bostiwch ni: ycelfyddydauaciechyd@celf.cymru  i gael rhagor o wybodaeth neu i gael sgwrs.

    Gallwch hefyd gysylltu â'n tîm Grantiau a Gwybodaeth drwy e-bost: grantiau@celf.cymru

    Nodiadau cymorth gyda chyllid07.04.2021

    Canllawiau Ariannu’r Loteri Genedlaethol

    Nodiadau cymorth gyda chyllid15.08.2023

    Canllawiau: Celfyddydau, Iechyd a Lles Rhaglen y Loteri

    Nodiadau cymorth gyda chyllid13.04.2021

    Templed Cyllideb Prosiect Celfyddydau, Iechyd a Lles

    Cwestiynau mynych

    Fel arfer byddai’r partner iechyd yn sefydliad a darparwr gwasanaeth elusennol neu a ariennir yn gyhoeddus neu sydd wedi'i sefydlu a'i gofrestru i ddarparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol yn benodol gan weithlu cymwys/arbenigol. Felly, gallai partner iechyd fod yn fwrdd Iechyd / Ymddiriedolaeth GIG / clwstwr o feddygon teulu neu'n sefydliad sy'n darparu gofal cymdeithasol. Hefyd gallai fod yn sefydliad trydydd sector y mae ei waith yn canolbwyntio ar iechyd a lles. Os nad ydych yn siŵr a fyddai eich partner yn cael ei gydnabod fel partner iechyd, cysylltwch â ni cyn dechrau ar eich cais.

    Gallwch, ond fel arfer mae’r ceisiadau am  symiau rhwng £500 a £50,000. Mewn achosion prin ac eithriadol (lle mae rhaglen eisoes wedi'i datblygu'n llwyddiannus ac yn barod i’w thyfu sylweddol neu ei hymestyn dros ychydig flynyddoedd) gallwn ystyried ceisiadau am dros £50,000. Trafodwch gyda ni os credwch fod gennych raglen sy’n gymwys i haeddu dros £50,000. Rhagwelwn y daw gormod o geisiadau i’r gronfa ac felly cynghorwn ymgeiswyr i ystyried swm eu cais a pheidio â gofyn am fwy nac sydd ei angen arnynt.

    Gallant. Ond dylent drafod eu cynnig gyda'u swyddog arweiniol cyn ymgeisio fel y gwyddom sut mae eu prosiect yn cyd-fynd â'u gweithgarwch arall a ariannwn.

    Gallwch, gallwch fod yn bartner arweiniol i un cais a phartner i un arall. Ond os ydych, rhaid ichi sicrhau bod gan eich sefydliad y gallu i gyflawni’r prosiectau'n effeithiol. Dylech hefyd wneud hyn yn glir yn eich cais  a chofio y bydd unrhyw geisiadau a wnewch yn cystadlu'n uniongyrchol â'i gilydd am yr arian mewn rownd gystadleuol iawn.

    Mae'n anodd dweud. Mae dal llawer yn gofyn am ein harian o’r Loteri Genedlaethol. Disgwyliwn hefyd i Gronfa'r Celfyddydau, Iechyd a Lles gael llawer iawn o geisiadau. Os nad oes raid cynnal eich prosiect nawr, dylech ystyried gohirio eich cais tan y rownd nesaf.

    Bydd, bydd rownd arall yn agor yn Ionawr 2024. Os hoffech e-bostio'r tîm am eich prosiect, dyma eu cyfeiriad: celfyddydauaciechyd@celf.cymru