Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff fabwysiadu, cadw ac adolygu cynllun cyhoeddi a chyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol yn unol â'u cynllun.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu Cynlluniau Cyhoeddi’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n weithredol ers 1 Ionawr 2009 ac a ddiweddarwyd ym mis Hydref 2015. Mae'r cynllun cyhoeddi'n cynnwys:

  • manylion y categorïau a'r dosbarthiadau o wybodaeth y mae'r sefydliad yn ei chyhoeddi neu'n bwriadu ei chyhoeddi
  • y fformat y mae'r wybodaeth ar gael ynddo
  • manylion unrhyw daliadau a allai fod yn gysylltiedig â gweld y wybodaeth.

Mae Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Chydymffurfiaeth y Cyngor yn gyfrifol am y gwaith dyddiol o gynnal a chadw'r Cynllun a'i weithredu.

Croesewir sylwadau ac awgrymiadau o ran dosbarthiadau / categorïau o wybodaeth na chynhwysir ond a allai fod o ddiddordeb i'r cyhoedd. Dylid cyfeirio sylwadau at:

Angela Thomas
Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Chydymffurfiaeth
Cyngor Celfyddydau Cymru
Plas Bute
Caerdydd
CF10 5AL

angela.thomas@celf.cymru