Beth yw arian amlflwyddyn?
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydnabod gwerth cynnal trosolwg strategol o rwydwaith cenedlaethol o sefydliadau gan ddeall bod y fath olwg yn hanfodol i gynllunio hirdymor ac iechyd cyffredinol sector y celfyddydau.
Mae arian amlflwyddyn yn gymorth ariannol i sefydliadau ar sail dreigl. Roeddem wedi’i gynnig yn gyntaf i sefydliadau yn sgil ein Hadolygiad Buddsoddi, 2023.
Dechreuodd y flwyddyn gyntaf o arian ar 1 Ebrill 2024. Roeddem wedi defnyddio’r 6 maes strategol roeddem wedi’u datblygu fel rhan o’r Adolygiad i benderfynu pa sefydliadau a fyddai’n cael yr arian. Nod y broses oedd ariannu ystod eang o’r celfyddydau o wahanol feintiau ac mewn gwahanol leoedd.
Pam cyflwyno arian amlflwyddyn?
Yn y gorffennol, roeddem wedi cynnal Adolygiad Buddsoddi bob pum mlynedd. Roedd hyn wedi arwain at gael grŵp o sefydliadau o’r enw 'Portffolio Celfyddydol Cymru'.
Roeddem am i Adolygiad Buddsoddi 2023 fod yr un olaf o’r fath ddigwyddiadau mawr. Yn lle hynny, roeddem eisiau bod yn fwy ymatebol i gymryd golwg hirdymor ar ein harian.
Rhan o'r broses oedd cydnabod bod arian amlflwyddyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i sefydliadau o ran sefydlogrwydd a’u gallu i gynllunio ymlaen llaw. Ond roeddem hefyd am fod yn fwy hyblyg a chynhwysol wrth benderfynu pwy a fyddai’n cael ein harian.
Ymhlith y newidiadau allweddol yn sgil yr Adolygiad oedd:
- Tymor ariannu cychwynnol o dair blynedd i'r sefydliadau ag arian amlflwyddyn gyda chyfarfod ym mlwyddyn 2 i gadarnhau tymor pellach, posibl
- Y posibilrwydd am berthynas ariannu barhaus ar sail y patrwm uchod cyn belled â’u bod yn cyrraedd targedau’r cytundeb ariannu blynyddol a bod ein blaenoriaethau’n aros yr un fath
- Pan fydd arian yn caniatáu, cyflwyno cyfleoedd i sefydliadau newydd gael arian amlflwyddyn y tu allan i'r cylch 5 mlynedd arferol
- Ffocws ein penderfyniadau yw potensial sefydliadau i gael effaith gan edrych ar eu gwaith diweddar ag arian i ystyried pa mor ymarferol yw eu cynlluniau
- Disgwyl i sefydliadau gyhoeddi eu targedau a'u cynnydd i’n cymunedau weld eu cyflawniadau
- Cyfle i sefydliadau ymgeisio am arian i dalu am eu gweithgarwch craidd neu am brosiect penodol neu un elfen o'u gwaith
- Cynnal cydbwysedd rhwng arian y Loteri Genedlaethol a'n harian cymorth grant gan Lywodraeth Cymru
- Bydd sefydliadau sy'n cael arian amlflwyddyn yn gallu cynllunio yn yr hirdymor a byddwn ni’n gallu adrodd yn glir am gynnydd yn ôl ein blaenoriaethau
- Bydd hyn yn cynnwys cytuno â ni am dargedau’n rhan o gytundeb ariannu blynyddol, adrodd yn ôl targedau a chynnig gwybodaeth arall inni fonitro cynnydd ac eiriol yn well dros y sector