Er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael budd o'r celfyddydau, mae sefydlu partneriaethau da yn hanfodol.

Llywodraeth Leol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus 

Mae ein partneriaethau â’r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn darparu sylfaen i ariannu a datblygu’r celfyddydau. Mae gan bob Awdurdod Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n dod ag amryw sefydliadau a phobl sy’n gwneud penderfyniadau at ei gilydd i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.

Darlledwyr  

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r BBC ac S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd i’r celfyddydau a chreu cyfleoedd creadigol newydd. 

Y Celfyddydau ac Iechyd 

Mae ymchwil yn dangos bod cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn gallu cael effaith gadarnhaol iawn ar les corfforol a meddyliol rhywun. Cafodd hyn ei gydnabod yn 2017 wrth i gytundeb tair blynedd gael ei lofnodi rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru.