I gael gwybod lle y gallwch ddefnyddio Ein Celf i brynu celf neu os ydych yn oriel, sut i ymaelodi, ewch i wefan Creative United:
Ein Celf: o'r oriel i'ch cartref, casglwch gelf â benthyciad di-log (dolen i wefan allanol)
Mae Ein Celf ar gael ar-lein ac yn y siop drwy rwydwaith o orielau sy’n aelodau fel y gall cwsmeriaid brynu'r gelf a'r grefft sy’n eu plesio.
Mae Ein Celf yn gynllun â chymhorthdal cyhoeddus. Creative United (cwmni buddiannau cymunedol entrepreneuraidd) sy’n ei rhedeg erbyn hyn. Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i orielau. Cyllid Cyfalaf Novuna sy’n cynnig a gwarantu’r benthyciadau gan ddwyn yr holl berygl ariannol yn hytrach na’r orielau na’r Cyngor.
(*Ni fydd y newid yn effeithio ar unrhyw fenthyciadau cyfredol a wnaed hyd at 31 Hydref 2024 dan y Cynllun Casglu.)
Cwestiynau cyffredin
Beth ddigwyddodd i’r Cynllun Casglu? Pam rydych wedi’i drosglwyddo i Ein Celf?
Lansiwyd y Cynllun Casglu ym 1983. Roedd yn un o'r cynlluniau cyntaf o'i fath ym Mhrydain. Drwy gynnig benthyciadau di-log roedd yn fodd i’r Cynllun ledu’r gost o brynu celf a chrefft gyfoes dros flwyddyn. Bu’n ffordd o ehangu mynediad at y celfyddydau a chefnogi bywoliaeth artistiaid a gwneuthurwyr Cymru, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw. Roedd rhwydwaith o dros 70 oriel ledled Cymru yn ei gynnig. Hwyluswyd dros 40,000 pryniant dros y 40 mlynedd diwethaf.
Wedi'i ysbrydoli gan ein Cynllun Casglu, lansiodd Cyngor Celfyddydau Lloegr Ein Celf yn 2004. Creative United sy’n ei rhedeg erbyn hyn. Mae ar waith drwy Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac erbyn hyn, ledled Cymru.
Mae troi’r Cynllun Casglu yn Ein Celf, gyda’i gwasanaeth hollol ddigidol, yn uwchraddio'r cynnig yn sylweddol. Bydd orielau sy’n aelodau ar eu helw o ymgysylltu â Creative United gyda’i broffil uchel, ei arbenigedd, ei hadnoddau a'i phartneriaeth â’r cwmni credyd, Novuna. Bydd orielau hefyd yn cael cymorth marchnata’n rhad ac am ddim a chymorth gan sefydliadau eraill sy’n bartneriaid i ddatblygu, tyfu ac ehangu eu cwsmeriaid.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhannu amcanion Creative United yn y farchnad gelf o leihau'r rhwystrau ariannol a'r teimlad mai rhywbeth i’r ‘bobl fawr’ yn unig yw prynu celf. Rydym yn ffyddiog mai dyma'r dewis gorau i brynwyr celf Cymru, yr orielau a’r artistiaid a’r gwneuthurwyr. Mae’n rhwydwaith o orielau’n hollbwysig ac yn cyflawni gwaith gwych wrth arddangos a gwerthu ein gwaith celf ar hyd y flwyddyn i gyhoedd Cymru.