Mae’n gyfle datblygu proffesiynol gwych gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n rhan allweddol o bresenoldeb Cymru yn yr Arddangosfa Gelf Ryngwladol rhif 61 – La Biennale di Venezia - sy’n digwydd 9 Mai-22 Tachwedd 2026. Mae'n gyfle â grant teithio i ymarferwyr yn gynnar yn eu gyrfa i:
- cael profiad rhyngwladol
- magu rhwydweithiau proffesiynol
- datblygu eu hymarfer creadigol mewn cyd-destun byd-enwog
Mae'n cyfle i:
- artistiaid
- curaduron
- ysgrifenwyr
- cynhyrchwyr creadigol ym maes y celfyddydau gweledol
Byddwch yn treulio mis o leiaf yn Fenis yn llysgennad i arddangosfa Cymru yn Fenis. Byddwch yn siarad ag ymwelwyr, cefnogi effaith yr arddangosfa a phrofi awyrgylch y Biennale.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd ag ymrwymiad cryf i’n celfyddydau gweledol ac sy’n gallu siarad yn hyderus â chynulleidfa amrywiol a chynrychioli'r arddangosfa’n broffesiynol.
Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr canol dydd