Mae’r Gymraeg â lle blaenllaw yn ein cymdeithas ac mae ymchwil yn dangos fod  86% o boblogaeth Cymru yn cytuno bod yr Iaith yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi.  

Mae Cyngor y Celfyddydau yn disgwyl fod pob sefydliad  sy'n derbyn grant yn cefnogi gweithredu'n ddwyieithog ac yn  parchu’r Gymraeg.  

Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ers pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) yn 2011. Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050 a sicrhau fod gan bawb ryddid i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae Cyngor y Celfyddydau wedi ymrwymo i gefnogi’r weledigaeth honno.   

Mae’n bosib y bydd dyletswydd gennych i gydymffurfio ag un neu fwy o safonau  yn ymwneud â’r Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.     

 

Wedi derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru?

Dysgwch mwy am y gofynion cyfreithiol ar gyfer sefydliadau o dan y Mesur: