Maen nhw’n cael eu penodi gan Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru. Ac maen nhw’n cael eu dewis ar sail eu harbenigedd a’u profiad o’r celfyddydau yng Nghymru. Fel arfer, bydd yr aelodau’n gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd, er y gall hyn gael ei ymestyn am gyfnod pellach o dair blynedd.

Prif gyfrifoldeb ein Cyngor yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n buddsoddi cyllid Llywodraeth Cymru a’r arian rydyn ni’n ei dderbyn oddi wrth y Loteri Genedlaethol yn effeithiol. Mae hefyd gan aelodau’r Cyngor y cyfrifoldebau canlynol:

  • Gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer Cyngor y Celfyddydau.
  • Datblygu, gweithredu a monitro polisi’r celfyddydau.
  • Cytuno ar ein cynlluniau corfforaethol a gweithredol.
  • Gosod y gyllideb flynyddol.
  • Dyrannu grantiau i sefydliadau refeniw yn flynyddol.
  • Gwneud yn siŵr ein bod ni, Cyngor y Celfyddydau, yn rheoli ein materion yn effeithiol a’n bod ni’n atebol.