Beth yw Arbrofi?
Mae Arbrofi wedi'i gynllunio ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig sy'n barod i ailfeddwl am addysgu a dysgu. Mae'n gwahodd athrawon i gydweithio â Phartner Dysgu Creadigol i ddod â'r cwricwlwm yn fyw trwy ddulliau sy'n cael eu harwain gan ymholiadau sydd wedi'u gwreiddio mewn perthnasedd byd go iawn a meddwl creadigol.
Dyma'ch cyfle i dorri'r mowld, dyfnhau ymgysylltiad dysgwyr, a chreu profiadau dysgu sy'n adlewyrchu nod unigryw eich ysgol. P'un a yw eich ffocws ar lythrennedd, iechyd a lles, neu ddylunio cwricwlwm arloesol, byddwch yn cydweithio â'ch Partner Dysgu Creadigol i gyd-ddylunio a chyflwyno profiadau ystafell ddosbarth deinamig, effaith uchel. Wedi'u gwreiddio mewn addysgeg Dysgu Creadigol ac wedi'u halinio â chynllun datblygu eich ysgol, mae'r profiadau hyn wedi'u crefftio i fod yn ystyrlon, yn berthnasol, ac yn wirioneddol drawsnewidiol.
Pam Cymryd Rhan?
- Gwneud effaith wirioneddol - Mynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i'ch ysgol trwy ymholiadau dilys, ystyrlon.
- Ailgynnau eich angerdd dros addysgu – Darganfod sut y gall dulliau creadigol o ddylunio cwricwlwm fywiogi eich ymarfer a chefnogi asiantaeth dysgwyr, lles, ac ymgysylltiad dyfnach.
- Teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, nid eich ymestyn – Gweithiwch ochr yn ochr â Phartneriaid Dysgu Creadigol profiadol sy'n dod â safbwyntiau ffres a strategaethau ymarferol.
- Bod yn feiddgar – Cymryd risgiau creadigol mewn amgylchedd diogel, â chefnogaeth lle mae arbrofi nid yn unig yn cael ei annog ond ei ddathlu.
- Cysylltu â'r gymuned – Creu profiadau dysgu sy'n edrych tuag allan ac wedi'u gwreiddio yn y gymuned.
Sut Mae'n Gweithio
Bydd eich ymholiad yn cael ei deilwra i flaenoriaethau datblygu eich ysgol. Ynghyd â'ch Partner Dysgu Creadigol a'ch dysgwyr, byddwch yn cyd-greu ac yn rhoi cynnig ar syniadau newydd y gellir eu hymgorffori ar lawr yr ystafell ddosbarth. Bydd eich ymholiad yn esblygu'n organig o 'ddarn gwag o bapur' o ran ffocws a chyfeiriad. Bydd eich Partner Dysgu Creadigol yn gweithio gyda chi i archwilio syniadau a themâu sy'n ystyried ac yn cael eu llywio gan lais dilys y dysgwr a blaenoriaethau datblygu perthnasol yr ysgol.
Bydd eich Partner Dysgu Creadigol yn gweithio gyda chi i nodi un o'r tri maes canlynol i ganolbwyntio arnynt:
- Datblygu Llythrennedd
- Iechyd a Llesiant
- Dysgu Creadigol ar draws y cwricwlwm
A gyda'ch gilydd byddwch hefyd yn ystyried dysgu dilys, yn y byd go iawn; llais y dysgwr a dulliau dan arweiniad ymholiadau; cymryd risgiau creadigol ac arloesol; integreiddio llesiant drwyddo draw; ymarfer cydweithredol a myfyriol.
Mae hwn yn arbrawf gwirioneddol mewn addysgu a dysgu — gan ddarparu lle i archwilio, addasu, myfyrio a thyfu.
Pwy All Ymgeisio?
Mae Arbrofi ar agor i bob ysgol gynradd, uwchradd, arbennig a gynhelir gan yr awdurdod lleol a'r rhai a gynorthwyir yn wirfoddol, a chyfleusterau addysgu arbenigol.
Bydd angen i bob ysgol nodi athro dynodedig a'u dosbarth cyfatebol o ddysgwyr i gymryd rhan. Nid oes angen i hwn fod yn athro â gwybodaeth na phrofiad o'r Celfyddydau Mynegiannol. Mae creadigrwydd yn sgil hanfodol ar gyfer bywyd sy'n cyd-fynd â'r 4 Diben Craidd ac mae'n torri ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad. Mae addysgeg dysgu creadigol yn berthnasol ac yn ddefnyddiol wrth ddyfeisio profiadau arloesol, dilys a diddorol i bob dysgwr ac ymarferydd addysgu.
Mae Arcbrofi yn croesawu ysgolion newydd a rhai sy'n dychwelyd
Beth sydd wedi'i gynnwys?
- 10 diwrnod o gefnogaeth gan Bartner Dysgu Creadigol a fydd yn cael ei neilltuo i chi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
- Grant o £2,000 ar gyfer ymarferwyr creadigol ychwanegol, adnoddau, a theithiau cysylltiedig i gefnogi'r ymholiad.
- Diwrnod hyfforddi gorfodol undydd i'r athro dynodedig, ynghyd â dysgu proffesiynol parhaus.
- Arweiniad parhaus drwy gydol yr ymholiad.
Manylion Pwysig
Cyn cyflwyno cais, rhaid i bob ysgol ddynodi athro penodol i arwain y broses.
Mae'n ofynnol i'r athro dynodedig hwn fynychu hyfforddiant gorfodol a chymryd rhan mewn sgyrsiau cefnogol.
Noder, dim ond un dosbarth neu grŵp dysgwyr—sy'n cynnwys hyd at 30 o ddysgwyr—a all gymryd rhan fesul ysgol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu amgylchiadau sydd y tu allan i'r canllawiau hyn, cysylltwch ag Arweinydd Prosiect am gymorth.
Nid oes angen profiad dysgu creadigol blaenorol.
Dylai eich ymholiad fod yn syniad ffres a ddatblygwyd gyda'ch Partner Dysgu Creadigol, nid un sy'n bodoli na rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn eich ysgol.
Mae Arbrofi yn cefnogi Cwricwlwm i Gymru ac yn cyd-fynd â'i nodau.
Amserlen
12pm 16 Hydref 2025 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – mae lleoedd yn gyfyngedig |
Yr wythnos yn dechrau 10 Tachwedd 2025 | Penderfyniadau'n cael eu hanfon at ymgeiswyr |
14 Ionawr 2026 (Lleoliad Gogledd Cymru i'w gadarnhau) 20 Ionawr 2026 (Lleoliad Canolbarth Cymru i'w gadarnhau) 22 Ionawr 2026 (Lleoliad De Cymru i'w gadarnhau) | Hyfforddiant ar gyfer athro dynodedig Rhaid i ysgolion fynychu un diwrnod hyfforddiant fel amod ar gyfer grant |
Chwefror – 26 Mehefin 2026 | Gweithio ochr yn ochr â’ch Partner Creadigol i gynllunio ac arbrofi |
26 Mehefin | Dyddiad Cau ar gyfer Naratif Myfyrio |
Mwy o wybodaeth
I ddysgu mwy a gofyn cwestiynau, ymunwch ag un o'n sesiynau briffio ar-lein:
24 Medi 12:30 – 13:15
Meeting ID: 857 1654 6352
Passcode: 028460
8 Hydref 12:30 – 13:15
Meeting ID: 844 5802 7506
Passcode: 500247
Pob ysgol gynradd, uwchradd, arbennig, a chyfleusterau addysgu arbenigol a gynhelir gan yr awdurdod lleol ac a gynorthwyir yn wirfoddol.
Na. Bydd eich Partner Dysgu Creadigol yn helpu i ddatblygu eich ymholiad. Ni ellir defnyddio'r grant arbrofi i ariannu syniad sydd eisoes yn bodoli na gweithgaredd sydd eisoes wedi dechrau (neu sydd wedi'i gynllunio).
£2,000 ar gyfer ymarferwyr creadigol ychwanegol, adnoddau, a theithiau cysylltiedig i gefnogi'r ymholiad. Hefyd 10 diwrnod o gefnogaeth Partner Dysgu Creadigol.
Na. P'un a ydych chi'n newydd i ddysgu creadigol neu'n edrych i fynd yn ddyfnach, y rhaglen hon yw'r un i chi.
Yn sicr! Mae hon yn rhaglen waith newydd sydd ar agor i bob ysgol gymwys, waeth a ydych chi wedi gweithio gyda ni neu wedi cael cyllid gennym ni o'r blaen.
Nid yw cael grant Ewch i Weld neu Rhowch Gynnig Arni agored yn effeithio ar eich cymhwysedd.
Nid yw mynychu sesiwn Archwilio yn effeithio ar eich cymhwysedd.
Os yw'r unigolion sy'n cymryd rhan yn wahanol, gall yr ysgol fod yn rhan o Arbrofi a'r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol.
Ydy. Mae Arbrofi yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru, gan gefnogi’r pedwar diben addysg, asiantaeth dysgwyr, a datblygu addysgeg arloesol.
Rhaid i bob ysgol nodi athro rhagweithiol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r dysgwyr sy'n cymryd rhan a fydd yn arwain yr ymholiad yn eich ysgol. Os ydych chi am fod yr athro dynodedig, dylech chi sicrhau eich bod chi ar gael ar gyfer sgyrsiau cynllunio, eich bod chi'n eiriolwr brwd dros yrru newid ymlaen mewn perthynas ag amrywio'r cwricwlwm ac yn gallu creu hyblygrwydd yn eich amserlen.
Rydym yn rhybuddio rhag rhoi'r cyfle hwn i gydweithiwr addysgu sy'n newydd i'ch ysgol ac yn cynghori nad yw'n addas ar gyfer ANG.
Mae Partner Dysgu Creadigol yn weithiwr proffesiynol creadigol sydd â phrofiad o gydweithio ag athrawon a dysgwyr. Mae ganddyn nhw gefndir o weithio yn y celfyddydau neu'r diwydiannau creadigol ac maen nhw wedi cael eu hyfforddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn addysgeg Dysgu Creadigol, i'ch cefnogi gyda'ch ymholiad. Byddan nhw'n gweithio mewn cydweithrediad agos â chi a'ch dysgwyr i ymchwilio, cyd-lunio a chyflwyno'r ymholiad.
Oes. Rhaid i'r athro dynodedig fynychu cwrs hyfforddi undydd a gyflwynir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac ymgysylltu mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol. Mae'n orfodol i'r athro dynodedig fynychu ac mae'n amod o'ch derbyniad grant. Mae'n sicrhau eich bod chi'n cael y gorau o'ch profiad a bod eich ysgol yn elwa'n llawn o'r cyfle. Anfonir rhagor o wybodaeth os byddwch yn llwyddiannus.
Na. Bydd angen i'ch ysgol dalu cost unrhyw orchudd cyflenwi neu dreuliau teithio sydd eu hangen.
Yn sicr. Byddwch yn cael eich neilltuo i Arweinydd Prosiect o fewn y tîm Dysgu Creadigol yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â'ch Partner Dysgu Creadigol eich hun. Bydd eich Partner Dysgu Creadigol yn eich cefnogi ym mhob agwedd ar gynllunio, cyflwyno a gwerthuso eich ymholiad. Bydd eich Arweinydd Prosiect yn cymeradwyo'r cynnig a'r cyflwyniad cyllideb gan y Partner Dysgu Creadigol a bydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau ansawdd eich ymholiad, er mwyn sicrhau eich bod yn cael popeth sydd ei angen arnoch o'r cydweithrediad a'ch profiad ar y rhaglen.
Gweler yma am gopi o gwestiynau'r cais.
Am fwy o gwestiynau neu i drafod addasrwydd eich ysgol, cysylltwch â:
Gwnewch gais nawr! Dyddiad cau 12pm 16 Hydref - mae lleoedd yn gyfyngedig!
I gael mynediad at y ffurflen gais bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar y porth ar-lein.
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn i chi ddymuno dechrau eich cais. Ar ôl i chi dderbyn eich manylion mewngofnodi, gallwch ddefnyddio'r rhain i gael mynediad at holl ffurflenni cais Dysgu Creadigol Cymru ac ni fydd angen i chi ailgofrestru pan fyddwch am wneud cais eto.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i gael mynediad i'r porth ar-lein, cysylltwch â'n tîm Grantiau a Gwybodaeth: grantiau@celf.cymru