Mae gwneud gwaith creadigol yn hygyrch yn hanfodol i sicrhau bod pawb yn gallu ymgysylltu ag ef a'i fwynhau. Mae hygyrchedd yn dileu rhwystrau sy’n atal pobl ag anableddau rhag profi eich gwaith gan ganiatáu i gynulleidfa ehangach a phobl greadigol gysylltu â'ch prosiect.

Mae'r tudalen gwe’n esbonio sut i wneud eich gwaith yn fwy hygyrch drwy ystyried anghenion eich cynulleidfa, eich tîm creadigol a’ch cyfranogwyr. Dylech feddwl am hygyrchedd corfforol i leoliadau’n gynnar gan sicrhau bod y lle’n addas a hygyrch gan gyllidebu am hygyrchedd.

Drwy ddeall a mynd i'r afael ag anghenion pawb sy'n cymryd rhan, mae modd gwella eich gwaith creadigol. Ni fydd pob adran o'r tudalen gwe’n berthnasol i bob prosiect ond bydd yn helpu i wneud eich gwaith yn fwy croesawgar a phleserus. 

Bydd creu cysylltiadau â'r grwpiau rydych am eu cyrraedd a chael i gymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol hefyd yn fodd ichi ddeall eich cynulleidfa. Yn y pen draw, mae ystyried hygyrchedd yn hanfodol i oresgyn rhwystrau a sicrhau bod eich gwaith ar gael i bawb.

Yn dilyn y Model Cymdeithasol o Anabledd, nid ydym yn canolbwyntio ar y cyflyrau iechyd posibl ond ar y gefnogaeth sydd ei angen ar bobl i oresgyn rhwystrau sydd yno oherwydd ein ffyrdd ni o weithio, ymgysylltu a phrofi pethau.

Mae gwneud gwaith yn fwy hygyrch yn broses ddysgu barhaus, ac efallai na fyddwch yn gallu goresgyn pob rhwystr bob tro. Mae’n bwysig bod yn onest am yr hyn y gallwch ei wneud a’r hyn na allwch ei wneud a gwneud y gorau y gallwch gyda'r wybodaeth a'r adnoddau sydd gennych. 

Mae rhestr wirio hygyrchedd i'w lawrlwytho ar waelod y tudalen.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd ar daith ddysgu o ran hygyrchedd ac rydym yn croesawu adborth am y tudalen gwe a'n gwasanaethau cymorth hygyrchedd.

Dyma sut i gysylltu â ni:

E-bost: cymorth.hygyrchedd@celf.cymru

Ffôn: 03301 242733

Os hoffech gael y tudalen gwe mewn fformat arall, cysylltwch â ni.

Dod i adnabod gofynion eich tîm creadigol

Dylech drafod gofynion hygyrchedd eich tîm creadigol ar ddechrau eich partneriaeth a pharhau â’r trafod drwy gydol y prosiect.

Bydd gofynion hygyrchedd yn amrywio o berson i berson. Peidiwch â chymryd yn ganiataol beth fydd ei angen ar aelod o'ch tîm creadigol. Gall ffurflenni hygyrchedd fod yn ffordd ddefnyddiol i'ch tîm creadigol gyfathrebu eu gofynion os ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn eu llenwi. Dyma dempled ar ein tudalen gwe cymorth hygyrchedd.

Mae'n bwysig:

  • creu awyrgylch croesawgar a diogel sy’n derbyn pawb

  • siarad â phobl yn unigol

  • trefnu sgyrsiau’n rheolaidd

  • annog adborth 

Ysgrifennodd Cydweithfa Neuk adroddiad am ddymchwel rhwystrau i artistiaid niwroamrywiol, gan nodi agweddau negyddol, bylchau cyfathrebu, llwythi gwaith anymarferol a diffyg cefnogaeth a mannau tawel/egwyl fel rhwystrau sylweddol (2021, tt. 2-3). Dylech ystyried pob un. 

Mae creu awyrgylch diogel i'ch tîm creadigol rannu eu gofynion â chi’n hanfodol. Bydd bod yn hyblyg, agored a pharod i dreialu addasiadau yn fodd i gefnogi eich tîm.

I sefydliadau, bydd cael Polisi Hygyrchedd yn gymorth i esbonio'r camau y byddwch yn eu cymryd i ddarparu ar gyfer gwahanol ofynion. 

Nid yw'r canllawiau’n lle hyfforddiant: rydym yn eich annog i geisio rhagor o wybodaeth i godi ymwybyddiaeth a gweithio'n uniongyrchol gyda'ch tîm i sicrhau bod hygyrchedd yn gweithio i bawb.

Mae gan Niwrowahaniaeth Cymru fodiwlau e-ddysgu sydd wedi'u cyd-gynhyrchu â phobl o'r gymuned niwrowahanol i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o sut y gall niwrowahaniaeth effeithio ar fywyd beunyddiol pobl.

Dod i adnabod gofynion eich cyfranogwyr

Mae nodi anghenion eich cyfranogwyr yn gynnar yn y broses yn allweddol i sicrhau bod modd eu bodloni. Bydd bod yn benodol am y gweithgarwch y byddant yn rhan ohono’n eu helpu i nodi pa rwystrau y gallai fod yno iddynt. 

Mae arolygon, ychwanegu cwestiwn hygyrchedd at eich ffurflen archebu neu sgyrsiau anffurfiol yn ffyrdd da o gasglu'r wybodaeth ymlaen llaw a rhoi amser ichi drefnu beth bynnag sydd ei angen. 

Dod i adnabod gofynion eich cynulleidfa

Mae modd deall gofynion hygyrchedd eich cynulleidfa hefyd drwy arolygon, cwestiwn hygyrchedd ffurflen archebu neu sgyrsiau anffurfiol. Mae gofyn cwestiynau ymlaen llaw i’r gynulleidfa, wrth iddynt archebu eu tocynnau er enghraifft, yn eich helpu i’w chroesawu a sicrhau bod gennych y gyllideb i dalu am addasiadau. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwerthu eich tocynnau mewn ffyrdd sy'n hygyrch: nid pawb sy’n gallu defnyddio gwefannau. 

Mae Attitude is Everything yn esbonio yn eu Canllaw Hygyrchedd y dylech gynnig tocynnau am ddim i gynorthwywyr personol (2017, t.10). Maent hefyd yn sôn am bwysigrwydd hygyrchedd o ran seddi a gwasanaeth bar ac osgoi goleuadau strôb. 

Eich lleoliad

Dylai eich lleoliad fod yn hygyrch. Rhaid cyfathrebu'n glir wybodaeth am y lle i bawb sy'n gysylltiedig gan gynnwys gwybodaeth am rampiau, lifftiau, toiledau a chynllun yr adeilad.

Mae Attitude is Everything yn argymell, os nad yw lleoliad yn hygyrch, y dylech: darganfod ble mae'r toiled hygyrch agosaf a rhoi gwybod i bobl; gofyn i'r lleoliad drefnu ramp os oes grisiau anochel; ceisio cyfnewid ystafelloedd yn y lleoliad am le mwy hygyrch (2017, tt.17-18). Dylech bob amser gynllunio ar gyfer seddi hygyrch.

Dylech hefyd gyfathrebu sut y gall pobl deithio i'r lleoliad, gan gynnwys amseroedd bysiau/trên, pellter cerdded o’r orsaf a’r maes parcio agosaf a lle mae’n bosibl parcio i’r anabl.

Mae gan Unlimited restr wirio hygyrchedd i leoliadau a all eich helpu i wybod beth i chwilio amdano wrth ystyried lleoliadau, gweld rhwystrau hygyrchedd a meddwl am eich lleoliad (2025).

Eich prosiect

Gall cyfarch pobl wrth y fynedfa ac ystyried trefniadau eistedd cyfforddus greu awyrgylch croesawgar lle gall pawb gymryd rhan a mwynhau. Gall hefyd leddfu ar nerfusrwydd posibl gyda lleoedd a phobl anghyfarwydd.

Ystyriwch sut y gallwch wneud eich cynnwys yn gynhwysol, gan gynnwys eich themâu a'ch storïau. Gall cynnig sawl opsiwn i gyfranogi ddarparu cymorth hygyrchedd cyffredinol i'ch cynulleidfa. 

Cyhoeddodd Accentuate UK ganllaw i gydgynllunio arddangosfeydd gyda phobl anabl, o'r enw Accessible Exhibitions for All. Maent yn sôn, er y mae modd defnyddio gwahanol elfennau sain a rhyngweithiol i ennyn diddordeb ymwelwyr â nam ar eu golwg yn eich gwaith, efallai y bydd y rhai ag awtistiaeth neu namau eraill yn ei chael yn llethol (2018, t.7). Maent yn argymell hysbysebu'n glir pan fo amseroedd tawel ar gael (2018, t.7). 

Datblygodd Unlimited Cards for Inclusion, gêm gardiau sy'n ysbrydoli'r sector celfyddydol i feddwl yn greadigol am waredu rhwystrau. Mae'n grymuso timau i wneud eu gwaith yn fwy hygyrch a dechrau sgyrsiau. Mae'n rhad ac am ddim i'w lawrlwytho.

Arwyddeg (Iaith Arwyddion Prydain)

Dylech ddefnyddio Arwyddeg i wneud eich gwaith yn hygyrch i bobl F/fyddar a thrwm eu clyw. Os ydych yn cynnig Arwyddeg fel rhan o'ch gwaith, dylai fideos marchnata hefyd gynnwys Arwyddeg, gyda phenawdau caeedig a sain.

Os yw’n bosibl, nodwch pwy fydd y cyfieithydd Arwyddeg fel rhan o'ch marchnata.

Dylech archebu eich cyfieithydd Arwyddeg cyn gynted â phosibl gan eu bod mor brysur. Rhaid iddo hefyd ymgyfarwyddo â’ch gwaith. 

Mae Solar Bear wedi creu canllaw defnyddiol (Making your Theatre Performance Accessible for D/deaf and Hard of Hearing Audiences). Maent yn esbonio y bydd gwahodd y cyfieithydd i ymarferion yn eu helpu i ddeall y darn, gofyn cwestiynau ac ystyried pa arddull o Arwyddeg sy’n gweddu (2019, t.6).

Perfformiadau tawel/hamddenol

Gall cynnwys amseroedd tawel ar gyfer arddangosfeydd neu gynnal perfformiadau tawelach helpu eich cynulleidfa â sensitifrwydd synhwyraidd ymgysylltu â'ch gwaith.

Perfformiadau hamddenol yw’r rhai lle nad oes ots os oes sŵn neu symud  o du'r gynulleidfa. I rai, fel pobl â Syndrom Tourette, gall hyn wneud ymgysylltu â gwaith llawer yn haws.

Weithiau, mae perfformiadau hamddenol yn cynnwys goleuadau'r theatr yn aros ymlaen drwy gydol y perfformiad. Dylech hysbysebu’n glir fod perfformiadau tawel/hamddenol. 

Capsiynau caeedig

Mae modd defnyddio capsiynau caeedig i arddangos testun deialog, yn ogystal â chyfathrebu effeithiau sain ac ati. Gwnewch yn siŵr bod y testun yn glir. Mae modd defnyddio meddalwedd capsiynu arbenigol, ond gallwch hefyd logi capsiynydd hyfforddedig, neu deipio'r testun cyn ei ddangos. 

Mae canllaw Attitude is Everything (2017) yn dangos sut y mae modd defnyddio capsiynau caeedig yn effeithiol ar gyfer gigs a digwyddiadau cerddorol, ac  mae canllaw Solar Bear (2019) yn trafod capsiynau caeedig i’r theatr.

Teithiau cyffwrdd 

Mae teithiau cyffwrdd yn ffordd effeithiol o ennyn diddordeb cynulleidfa ddall ac sy’n gweld yn rhannol. Ond gallant fod o ddiddordeb i ymwelwyr sy’n gweld, gan gynnig profiad synhwyraidd amgen i ymgysylltu â lleoliadau, propiau, gwisgoedd, set a gweithiau celf. 

Mae teithiau cyffwrdd fel arfer yn digwydd tuag awr cyn y perfformiad a gallant hefyd gynnwys cwrdd â disgrifiwr sain y digwyddiad.

Disgrifiad sain 

Disgrifiad sain yw'r broses o ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd ar y sgrin, ar y llwyfan, neu unrhyw fath o gelf weledol. Mae'n cael ei ddefnyddio gan bobl sy'n ddall neu’n gweld yn rhannol i ymgysylltu â gwaith creadigol. 

Mae disgrifiad sain effeithiol yn canolbwyntio ar y manylion gweledol pwysicaf i helpu'r gynulleidfa i ddeall y neges, gyda geiriau clir a syml wedi'u defnyddio mewn tôn naturiol. Mae atseinio teimlad ac arddull y gwaith celf yn cyfathrebu gweledigaeth yr artist. 

Mae Lynn Cox, yn llyfryn Ways of Seeing Art Shape Arts, yn esbonio rhinwedd disgrifiadau byrrach a mwy egnïol ac y gall defnyddio amrywiaeth o ddisgrifwyr sain fod yn effeithiol wrth gyfathrebu gwahanol arddull artistiaid (2017, tt.15-16).

Mae modd trefnu disgrifwyr sain ym maes y celfyddydau a dylech eu cydnabod yn eich deunyddiau marchnata.

Dolenni clyw 

Ni fydd gan bob lleoliad ddolen glyw ond yn fwyfwy maent yn cael eu mabwysiadu. Mae'n system sy'n anfon sain yn uniongyrchol i gymhorthion clyw neu fewnblaniadau cochleaidd i bobl glywed yn gliriach. Gwiriwch gyda'r lleoliad ymlaen llaw i gael gwybod a oes un yno.

Mae Shape Arts yn esbonio y dylech wirio dolenni clyw neu systemau is-goch ymlaen llaw, ac os ydych yn llogi dolen glyw a defnyddio meicroffonau hefyd, dylech sicrhau nad ydynt yn ymyrryd â'i gilydd (2025, t.2). 

Rhybuddion 

Defnyddir rhybuddion mewn arwyddion a deunyddiau marchnata i roi gwybod bod cynnwys y gwaith yn sensitif, pryfoclyd, yn trafod trawma, yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio neu synau uchel - unrhyw beth a allai darfu ar rywun. Mae hyn yn diogelu lles ac iechyd pobl. 

Lle mae trafod pynciau sensitif, yn enwedig sesiynau gyda'ch tîm creadigol neu’ch cyfranogwyr, dylech gael arweinydd diogelu yno. Gall partneru ag elusennau perthnasol neu fabwysiadu polisïau diogelu eich lleoliad helpu hefyd.

Marchnata hygyrch

Dylai’ch cyfathrebu fod yn glir heb iaith ordechnegol, gyda fformatau amgen ar gael. Cyferbyniad uchel rhwng y geiriau a’r cefndir a ffontiau clir yw'r gorau i'w defnyddio.

Os yw’r lleoliad yn gymhleth, bydd darparu arwyddion print mawr yn helpu pobl i ddod o hyd i'ch lle yn yr adeilad. Mae mapiau o'r lleoliad yn ffordd dda o ganiatáu i bobl weld yn eu meddwl y lle cyn iddynt gyrraedd. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu amserlen y diwrnod lle bo'n berthnasol a chynnwys saib rheolaidd. Sicrhewch eich bod wedi gweithredu’r awgrymiadau a gawsoch yn wreiddiol o ran hygyrchedd. Lle nad yw addasiadau’n bosibl, cyfathrebwch y diffygion yn glir ymlaen llaw.

Cyhoeddodd cwmni theatr Birds of Paradise becyn cymorth Cynllunio Digwyddiadau sy'n argymell defnyddio testun 14 pwynt o leiaf a gwneud yn siŵr nad yw lluniau a thestun yn gorgyffwrdd (2018, t.2). Maent hefyd yn argymell defnyddio testun alt ar gyfer pob llun fel y bydd darllenwyr sgrin yn gallu darllen y disgrifiad (2018, t.2). Dylai fideos gynnwys capsiynau ac mae'n dda cael Arwyddeg yn eich fideos marchnata os bydd Arwyddeg ar gael yn y digwyddiad. Ym mhob cyfathrebu, maent yn argymell eich bod yn cadw mewn cof pwy rydych yn ei dargedu a beth yw'r dull gorau i’w gyrraedd (2018, t.2). 

Ymhlith y ffontiau haws i'w darllen sy'n gyfeillgar i ddyslecsia yw Arial, Calibri, Verdana a Tahoma. Dylai penawdau fod yn fwy na'r testun corff, ac mae'n well fformatio trwm yn hytrach na thanlinellu neu ddefnyddio italig i bwysleisio.

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn argymell defnyddio testun alt ar luniau yn y cyfryngau cymdeithasol hefyd, fel y gall darllenwyr sgrin pobl ddall ac sy’n gweld yn rhannol ddarllen beth mae'r llun yn ei ddangos.

Profi ac adborth

Mae'n bwysig cynnwys y grwpiau yn y broses brofi ac adborth. Mae Shape Arts yn esbonio bod datblygu dulliau hygyrch a chynhwysol o adborth yn hanfodol ac y dylech ymateb i’r awgrymiadau (2025).

Mae profi a chael adborth yn ddau ffactor pwysig wrth sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei roi ar waith yn gweithio i'r bobl sydd eu hangen. Mae datblygu cylchoedd adborth yn hanfodol i ymateb i gynigion ac anghenion eich tîm creadigol, eich cyfranogwyr a’ch cynulleidfa.

Mae Unlimited yn esbonio bod pawb yn elwa pan fyddwn yn rhannu beth oedd yn dda a beth allai fod wedi bod yn well (2019), gan greu cyfleoedd dysgu i'r sector.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth cymorth hygyrchedd a chostau hygyrchedd personol, ewch i’n tudalen gwe cymorth hygyrchedd.

Cydnabyddiaeth

Hoffwn ddiolch i’r canlynol am eu mewnbwn:

Attitude is Everything

Shape Arts

Solar Bear

Birds of Paradise Theatre Company 

Neuk Collective

Accentuate UK

Celfyddydau Anabledd Cymru

Niwrowahaniaeth Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech awgrymu ychwanegu rhagor o wybodaeth at y tudalen gwe, cysylltwch â ni: 

E-bost: cymorth.hygyrchedd@celf.cymru

Ffôn: 03301 242733

Dogfen26.09.2025

Hygyrchedd i brosiectau creadigol: Rhestr Wirio Hygyrchedd