Rydym ni'n sylweddoli o bosibl fod rhai pobl yn gweld bod rhwystrau wrth geisio am grant.

Os ydych chi, neu'r bobl allweddol sy'n gweithio ar gais eich sefydliad:

  • yn F/fyddar
  • yn anabl
  • yn niwroamrywiol
  • yn profi anawsterau dysgu
  • â chyflwr iechyd meddwl, neu sydd â chyflwr iechyd tymor hir

Efallai y bydd costau ychwanegol yn ymwneud â’ch anghenion hygyrchedd, neu'r bobl rydych yn gweithio gyda nhw, y bydd angen i chi dalu i'ch helpu i gyflawni eich prosiect neu reoli eich grant. Dyma rai enghreifftiau: cyfieithydd Arwyddeg (BSL), rhywun i gymryd nodiadau neu weithiwr cymorth ar gyfer cymorth gweinyddol, neu unrhyw gostau hygyrchedd eraill yn ystod eich prosiect.

Gallwn eich helpu ar y gwahanol gamau o wneud cais am grant:

Cyn i chi wneud cais

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth a gwasanaethau i’w defnyddio cyn i chi wneud cais.

I wneud cais

Gallwn eich cefnogi i wneud eich cais, gyda gweithiwr cymorth hygyrchedd neu ganiatáu fformatau amgen.

Yn ystod eich prosiect (rydym yn galw'r rhain yn gostau hygyrchedd personol)

Os yw eich cais yn llwyddiannus, gallwn helpu i dalu costau cymorth hygyrchedd i chi, neu unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno eich prosiect.

Gwneud eich gwaith yn hygyrch i eraill

Gallwn helpu gyda chostau gwneud eich gwaith yn hygyrch i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr fel rhan o'ch cyllideb prosiect. Gweler y canllawiau canlynol am ychydig o wybodaeth bellach am wneud eich gwaith yn hygyrch:

Cyn i chi wneud cais

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, mae'r gefnogaeth y gall ein Tîm Grantiau ei rhoi yn cynnwys:

  • cyngor ar gymhwystra a'n prosesau ymgeisio
  • sut i lywio ein systemau fel ein porth ariannu ar-lein
  • sut i sefydlu proffil ar ein porth ariannu
  • eich cyflwyno i un o'n Swyddogion Datblygu os hoffech gyngor pellach

Os ydych yn gweld ein Porth Ariannu yn anodd ei lywio, lle bo'n bosibl gallwn drefnu galwad Sŵm i'ch arwain drwy’r peth.

Os byddwch yn wynebu unrhyw rwystrau i'r uchod, gallwn dalu i rywun ddarparu cymorth hygyrchedd. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys eich cefnogi gyda:

  • darllen a deall ein canllawiau
  • cymryd nodiadau os oes angen yr help hwn arnoch mewn cyfarfodydd unigol gyda ni
  • cyfieithydd Arwyddeg i'ch cefnogi mewn cyfarfodydd unigol gyda ni

Byddwn yn ystyried cost ac ymarferoldeb, yn ogystal â'ch dewisiadau chi wrth ddod o hyd i'r ffordd orau o helpu.

Os ydym yn talu am unrhyw gymorth hygyrchedd, nid oes rhaid i chi barhau i wneud cais wedyn os ydych yn teimlo nad yw eich prosiect yn barod eto, neu os nad yw ein harian yn addas i chi.

Unwaith y byddwn yn gwybod eich bod chi a'ch prosiect yn gymwys, gallwn eich cefnogi i wneud eich cais.

I wneud cais

Os mai chi yw'r ymgeisydd arweiniol ac mae angen cymorth hygyrchedd unigol, gallwn dalu am weithiwr cymorth hygyrchedd i'ch cynorthwyo i wneud eich cais. Gall hyn fod yn:

  • weithiwr cymorth arbenigol, er enghraifft cyfieithydd Arwyddeg neu gyfieithydd ar y pryd i iaith ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg
  • rhywun a fydd yn eich cefnogi gydag anghenion ychwanegol wrth wneud eich cais
  • rhywun a fydd yn eich cefnogi chi i gael eich cais ar y porth ariannu

 

Ni allwn dalu am y canlynol:

  • cefnogaeth i ddatblygu eich cais, fel cost gweithiwr celfyddydol, rhywun i ysgrifennu eich cais neu ymgynghorydd datblygu
  • costau sydd eisoes yn dod o dan gynllun Hygyrchedd at Waith neu unrhyw ffynonellau eraill
    - i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Hygyrchedd at Waith ewch i wefan y llywodraeth: www.gov.uk/access-to-work

 

Gall ein tîm Grantiau a'n Swyddogion Datblygu eich helpu i drefnu cael gweithiwr cymorth hygyrchedd os nad oes gennych rywun yr ydych eisoes yn ei ddefnyddio.

Byddan nhw'n gofyn am y canlynol:

  • pa fath o gefnogaeth sydd ei angen arnoch
  • am eich celfyddyd, eich disgyblaeth neu am y math o brosiect sydd gennych
  • eich enw, eich cyfeiriad, eich manylion cyswllt
  • sut a phryd y byddai'n well gennych i ni gysylltu â chi

Gallwch gysylltu â'r tîm Grantiau a Gwybodaeth ar 03301 242733 neu e-bostiwch grantiau@celf.cymru

 

Fformatau Amgen

Rydym hefyd wedi ymrwymo i hwyluso ffyrdd eraill o wneud cais os yw llunio cynnig  ysgrifenedig yn rhwystr. Os hoffech wneud cais drwy fideo/ sain mae croeso i chi gael rhagor o arweiniad yma.

 

Trefnu gweithiwr cymorth hygyrchedd

Chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am benderfynu pwy fydd eich gweithiwr cymorth hygyrchedd. Efallai bod gennych chi rywun sy’n cymryd nodiadau, cyfieithydd neu weithiwr cymorth rydych chi'n ei ddefnyddio'n rheolaidd. Os nad oes gennych weithiwr cefnogi yn barod, rhowch wybod i ni a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl a all eich helpu gyda hyn. Sylwch na allwn bob amser gwarantu cefnogaeth oherwydd y galw.

Ystyrir pob cais yn seiliedig ar eich anghenion unigol a lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Gallwn dalu cyfradd resymol o hyd at uchafswm o £300 y dydd (am 3 diwrnod ar y mwyaf) am gymorth arbenigol. Os yw'r gyfradd ddyddiol y mae gweithiwr cymorth yn gofyn amdano yn uwch na hyn, efallai y byddwn yn gofyn am:

  • dyfynbrisiau eraill neu
  • dadansoddiad manwl o'r costau

Ar ôl i'ch gweithiwr cymorth orffen ei waith y mae wedi'i gytuno i’w wneud â ni, dylai anfon ei anfoneb at grantiau@celf.cymru. Byddwn yn eu talu pan fyddwn yn gwybod eich bod yn fodlon ar y gwaith y mae wedi'i wneud.

Sylwch na allwn dalu am deulu neu ffrindiau. Dylai gweithwyr cymorth hygyrchedd fod â phrofiad yn y maes ac mewn lle da i'ch cefnogi.

Yn ystod eich prosiect

Gallwn helpu i dalu am gostau cymorth hygyrchedd i chi, neu unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â datblygu a chyflawni eich prosiect yn greadigol. Gallai'r rhain gynnwys costau cyfieithydd, gweithiwr cymorth, offer arbenigol neu feddalwedd.

Yn eich cyllideb, ar y tab Costau Hygyrchedd Personol, rhowch ddadansoddiad o'r costau hygyrchedd, er enghraifft: Gweithiwr cymorth: £ y dydd, X diwrnod

Mae'r cyfanswm hwn ar wahân i'r swm yr ydych yn gwneud cais amdano i gyflawni'r prosiect. Bydd y cyfanswm hwn yn cael ei ychwanegu at gyfanswm eich cais am grant.

Sylwch, os bydd angen cymorth hygyrchedd gyda gwneud eich adroddiad diweddu i’r prosiect y dylid cynnwys y costau hyn yma hefyd.