Awgrymiadau
Proses
Asesiad
Awgrymiadau:
Os ydych chi'n gwneud cais trwy ffeil fideo/ sain, dyma rai awgrymiadau cychwynnol a defnyddiol:
- Nodwch pa gwestiwn rydych chi'n ymateb iddo a pheidiwch â gwyro gormod oddi ar ateb yr hyn sy'n cael ei ofyn gennych chi. Byddwn yn caniatáu uchafswm o 5 munud fesul 500 gair, (er enghraifft ateb 200 gair fyddai ymateb fideo / sain 2 funud ar y mwyaf).
- Paratowch eich atebion cyn recordio. Defnyddiwch nodiadau neu gardiau atgoffa i'ch helpu wrth recordio eich ymatebion fideo/ sain os oes angen.
- Peidiwch â theimlo'r angen i fod yn rhy ffurfiol. Byddwch yn naturiol yn eich cais.
- Recordiwch eich ffeil mewn lle tawel, ceisiwch osgoi rhywle lle mae sŵn cefndir er enghraifft, y tu allan, caffi
- Dim ond cynnwys pobl eraill sydd yn eich recordiad os ydynt wedi rhoi eu caniatâd i chi i’w cynnwys yno.
- Gwyliwch/ gwrandewch ar eich recordiad eto i wneud yn siŵr eich bod wedi ateb yr holl gwestiynau (cyfeiriwch at ganllawiau'r cynllun/ templed cais ar gyfer y cwestiynau).
- Cyn cyflwyno, sicrhewch fod ansawdd y fideo/ sain yn glir, er mwyn i ni allu clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud.
- Defnyddiwch naill ai MP4/ MOV ar gyfer ffeiliau fideo a MP3/ WMA/ M4A ar gyfer ffeiliau sain
- Sicrhewch eich bod yn defnyddio teitl perthnasol ar gyfer eich ffeil fideo/ sain megis cyfeirnod eich cais.
Os byddwch yn cyflwyno ymateb yn ysgrifenedig a fideo/ sain ar gyfer cwestiwn, dim ond yr ymateb ysgrifenedig a fydd yn cael ei asesu.
Gellir recordio eich ffeil fideo/ sain naill ai yn yr Arwyddeg, y Gymraeg neu’r Saesneg, fodd bynnag, dim ond mewn un iaith y dylid ei chyflwyno ar gyfer ei chyfanrwydd.
Os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth yma, yna cysylltwch â'n tîm Grantiau – grantiau@celf.cymru neu ffoniwch 03301 242733 a byddwn yn eich ffonio’n ôl cyn gynted ag y gallwn.
Sylwch na allwn roi cymorth technegol ar gyfer creu, golygu na llwytho ffeiliau fideo/ sain.
Proses:
Pan fyddwch chi'n dechrau cais newydd ar ein Porth Ariannu, dewiswch Fideo / Sain ar y tab Math o Gais. Bydd hyn yn dileu'r cwestiynau naratif ac yn rhoi tab cynnig i chi ar gyfer eich ffeil fideo / sain. Mae dal angen ichi lenwi’r meysydd data a chael cyllideb wedi'i huwchlwytho ar ein templed.
Rydym angen i bob ymgeisydd gyflwyno copi o'u ffeil fideo/ sain. Byddwn yn caniatáu uchafswm o 5 munud fesul 500 gair.
Bydd angen i chi ddarparu dolen islwytho i ni i'r ffeil ar adeg ei gyflwyno. Ni allwn dderbyn unrhyw ffeiliau ar ôl y dyddiadau cau gan fod angen i ni drin pob ymgeisydd, boed yn ysgrifenedig neu fideo/ sain, yn deg. Sicrhewch eich bod yn gwirio bod y ddolen yn gweithio cyn ei chyflwyno.
Defnyddiwch un o'r rhaglenni canlynol:
- WeTransfer
- Google Drive
- iCloud Drive
- Drop Box
**Nodwch eich bod yn cytuno i roi eich cynnwys yn y parth cyhoeddus drwy ddarparu dolen gyhoeddus i ni ei islwytho. Sicrhewch fod y ddolen hon yn aros yn fyw nes i chi dderbyn penderfyniad ar eich cais**
Peidiwch â cheisio e-bostio eich ffeil fideo/ sain atom.
Os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth yma, yna cysylltwch â'n tîm Grantiau – grantiau@celf.cymru neu ffoniwch 03301 242733 a byddwn yn eich ffonio’n ôl cyn gynted ag y gallwn.
Sylwch nad ydym yn gallu rhoi cymorth technegol ar gyfer creu, golygu nac uwchlwytho fideo/ sain.
Yr Asesiad
Bydd unrhyw un sy'n rhan o'r broses asesu yn cael mynediad i'ch cais fideo/ sain a'r trawsgrifiad. Nid ydym yn asesu ansawdd cynhyrchu eich cyflwyniad fideo.
Byddwn hefyd yn cynhyrchu trawsgrifiad o'r cyflwyniad fideo/ sain fel y gallwn boblogi unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnom ar gyfer adrodd, megis disgrifiad prosiect, neu os oes angen i ni gyfieithu'r cynnwys.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen unrhyw gymorth wrth gyflwyno ffeil fideo/ sain, anfonwch e-bost at grantiau@celf.cymru neu ffoniwch 03301 242733 a byddwn yn eich ffonio’n ôl cyn gynted ag y gallwn.
Sylwch mai dyma'r cam cyntaf wrth dreialu ceisiadau fideo/ sain a gall y broses newid wrth i ni barhau i ddysgu a gwerthuso.