Cefndir

Coronafeirws: ceisiadau newydd am arian
15.04.20

Rydym ni am wneud ein gorau glas i fuddsoddi mewn artistiaid a sefydliadau celfyddydol ar yr adeg anodd yma. Mae'n amlwg bod llawer o bobl yn wynebu dyfodol ansicr gydag anawsterau newydd yn ymddangos yn ddyddiol. Yn y tymor byr ein blaenoriaeth fydd dod o hyd i ffyrdd effeithiol o ymateb i anghenion brys y sector. Gyda Llywodraeth Cymru rydym ni’n gweithio'n galed i ddod o hyd i atebion ymarferol. Am y chwech mis nesaf felly, ni fyddwn ni’n derbyn ceisiadau newydd i'n rhaglenni ariannu. Byddwn ni’n adolygu'r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf gan gyhoeddi unrhyw newidiadau yn ein ffordd o weithio yn y man.

Cronfa newydd i helpu ymarferwyr creadigol unigol a sefydliadau'r celfyddydau yng Nghymru i ymwneud â rhwydweithiau Ewropeaidd.

Diben Cysylltu yw helpu sector y celfyddydau yng Nghymru i ddatblygu, cynnal a chryfhau ei gysylltiadau â phartneriaid strategol allweddol yn Ewrop.

Fel unigolyn neu fel sefydliad, gall bod yn aelod o rwydwaith rhyngwladol ddwyn sawl budd. Mae'r rhan fwyaf o rwydweithiau Ewropeaidd yn agored i aelodau o'r tu hwnt i'r UE. Maent yn lle i gwrdd â chymheiriaid a rhannu syniadau â nhw, ac i gydweithio, dysgu a chyfnewid, ac mae llawer yn arwain at gydweithrediadau a phartneriaethau rhyngwladol yn y dyfodol.

Gall rhwydweithiau fod yn anffurfiol hefyd, gydag artistiaid a sefydliadau'n datblygu eu rhwydweithiau personol o gydweithredwyr a chymheiriaid ledled Ewrop a’r byd, trwy gyfranogi mewn preswyliadau, gwyliau a phrosiectau rhyngwladol.

Un o bum prif uchelgais ein strategaeth ryngwladol, Celfyddydau Cymru: pontio'r byd, yw ailddiffinio ein perthynas ag Ewrop. Mae hon yn adeg hanfodol i adnewyddu ein cydberthnasau â rhwydweithiau allweddol, yn ogystal â datblygu rhai newydd â phartneriaid ledled y cyfandir. Dyma'r hyn y bydd y gronfa Cysylltu yn ei gefnogi.

Mae Cysylltu yn rhan o fenter ehangach Llywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar sicrhau cydberthnasau yn y dyfodol â rhanbarthau, gwledydd a rhwydweithiau Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid22.10.2019

Canllawiau Cysylltu: Cronfa Rhwydweithiau Ewropeaidd