Costau y gallwch eu cynnwys

Rhaid i'r holl gostau fod yn ychwanegol at eich costau bob dydd, sy'n golygu mai dim ond os bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen y byddwch yn ysgwyddo'r costau.

Edrychwch ar dempled y prosiect i gael manylion o unrhyw gyfyngiadau ar y symiau y gallwch ofyn amdanynt.

Dyma rai enghreifftiau o'r costau cymwys:

  • Ffioedd ar gyfer artistiaid llawrydd, gweithwyr creadigol a staff prosiect ychwanegol. Am fwy o wybodaeth am ffioedd artistiaid cliciwch yma
  • Costau hyfforddi fel ffioedd cwrs os yw'ch prosiect yn canolbwyntio ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
  • Costau cynhyrchu gan gynnwys costau teithio a deunyddiau
  • Costau ymgysylltu â'r cyhoedd fel gwaith allgymorth, gweithgareddau datblygu'r gynulleidfa, costau marchnata a chyfieithu
  • Costau ar gyfer gwneud eich prosiect yn fwy cynhwysol a hygyrch i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr, fel perfformiadau ag Arwyddeg
  • Costau gwerthuso
  • Costau yswiriant sy'n benodol i'r prosiect
  • Gweinyddu prosiectau penodol a gorbenion. Byddwn yn ystyried hyd at 20% o gyfanswm cost gymwys y prosiect ar gyfer gweinyddu ychwanegol a gorbenion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect
  • Gellir derbyn per diems rhesymol ar gyfer artistiaid sy'n cymryd rhan
  • Costau gofal plant lle maent yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i weithwyr llawrydd unigol gymryd rhan yn y prosiect. Bydd hyn yn berthnasol lle nad yw'n debygol y bydd cyfranogwyr yn gallu fforddio dod heb y gefnogaeth yma – neu ar gyfer gweithgarwch sy'n galluogi cyfranogiad gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Costau hygyrchedd personol i unigolion sy'n ymwneud â darparu'r prosiect. Dylid rhestru'r costau hyn ar dab Hygyrchedd templed y gyllideb ac maent yn ychwanegol at gyllideb gyffredinol y prosiect. Dylid cynnwys costau ar gyfer gwneud eich gweithgarwch yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd neu gyfranogwyr ym mhrif gyllideb y prosiect
  • Eitemau cyfalaf sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chyflawni eich prosiect (uchafswm o £2,000)

 

Costau anghymwys

Anghymwys yw unrhyw gostau y byddwch yn eu talu beth bynnag, hyd yn oed os na fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen.

Ni allwn ystyried costau ôl-weithredol sef costau ar gyfer gweithgarwch sydd eisoes wedi digwydd nac unrhyw gostau yr ydych wedi'u talu neu wedi cytuno i'w talu (drwy lofnodi contract neu osod archeb, er enghraifft) cyn i ni wneud penderfyniad am eich cais. Rydych felly’n hysbysebu neu hyrwyddo eich prosiect ar eich menter eich hun cyn inni benderfynu. Ni allwn ariannu prosiectau lle mae tocynnau eisoes ar werth.  

Dyma rai enghreifftiau o'r costau na allwn eu talu:

  • Costau rhedeg cyffredinol eich sefydliad a gorbenion parhaus (neu ganran o'r costau hyn) er enghraifft cyflogau staff, rhent a chyfleustodau
  • Costau ar gyfer defnyddio eich lleoedd, cyfleusterau neu offer eich hun. Ni ellir cyfrif y rhain fel cefnogaeth mewn nwyddau
  • Ffioedd a godir arnoch am gyngor a help gyda llunio eich cais. Os oes angen help arnoch i lenwi ffurflen gais a chyllideb, mae cymorth ar gael cyn eu cyflwyno - Cymorth hygyrchedd | Arts Council of Wales
  • Costau bwyd, lluniaeth neu letygarwch. Ond efallai y byddwn yn ystyried costau rhesymol lle gall peidio â chynnig lluniaeth fod yn rhwystr rhag cymryd rhan (er enghraifft, prosiectau sy'n cynnwys plant a phobl ifanc) neu lle mae rhannu bwyd yn rhan annatod o'r profiad diwylliannol
  • Cystadlaethau a gwobrau
  • Gweithgarwch codi arian
  • Costau lansio
  • Nwyddau hyrwyddoRhoddion
  • Tân gwyllt

Os nad ydych yn siŵr a ellir cynnwys cost yn y gyllideb ai peidio, cysylltwch â ni.

Nodiadau cymorth gyda chyllid25.09.2023

Arweiniad i dempledi cyllidebol y prosiect