1. Bydd angen ichi ddefnyddio ein ‘porth’ ar-lein i wneud cais. Os nad ydych wedi gwneud eisoes, bydd angen ichi gofrestru i gael mynediad i’r porth. Gallwch weld sut i wneud hyn yma.  

  2. Llenwch a chyflwynwch ffurflen gais ar-lein ar ein porth. Os na allwch gyrchu’r ffurflen ar-lein, neu os oes arnoch angen rhagor o gymorth, cysylltwch â ni ar grantiau@celf.cymru. Ar ôl inni gael eich cais, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch.  

  3. Byddwn yn gwirio’ch cymhwystra. Byddwn hefyd yn adolygu cyllideb eich prosiect i sicrhau bod y ffigurau’n edrych yn gywir. Os oes unrhyw wybodaeth yn eisiau, byddwn yn cysylltu â chi. Bydd gennych hyd at 5 diwrnod gwaith i ddatrys unrhyw faterion sydd ar ôl.  

  4. Os yw’ch cais yn gymwys, bydd yn mynd ymlaen i’r cam asesu.  

  • Mae’r holl geisiadau’n destun yr un broses gwirio ac asesu drwyadl.  
  • Caiff cyfarfodydd penderfynu grantiau eu cadeirio gan un o’n Rheolwyr Portffolio/Rhaglenni. Gall paneli gynnwys Cydweithwyr Celfyddydol gydag amrywiaeth fawr o arbenigedd o bob rhan o Gymru.  
  • Caiff eich cais ei asesu yn erbyn y meini prawf cyhoeddedig ac ansawdd eich cynnig artistig.  
  • Dim ond y ceisiadau sy’n cyflwyno’r achos mwyaf cymhellol a darbwyllol yn erbyn y meini prawf ariannu y byddwn ni’n gallu eu cefnogi.  
  1. Os yw’ch cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon atoch ddogfen Derbyn y Dyfarniad. Os na fuoch yn llwyddiannus, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam ac yn cynnig cyfle ichi gael adborth.  

  2. Pan fyddwch wedi llofnodi a dychwelyd eich dogfen Derbyn y Dyfarniad a phan fyddwn wedi gwirio’ch manylion, byddwn yn talu ichi ganran o’r dyfarniad (gan ddibynnu ar anghenion eich prosiect). Byddwn yn talu’r 10% olaf ar ddiwedd eich prosiect, ar ôl inni gael Adroddiad Cwblhau.