I fod yn gymwys i wneud cais fel Artist Unigol neu Weithiwr Creadigol ar ei liwt ei hun (sy’n cynnwys unig fasnachwyr ac unigolion sy’n masnachu fel busnes), rhaid ichi:

  • bod yn hŷn na 18 oed a byw yng Nghymru.
  • peidio â bod mewn addysg amser llawn mewn ysgol, coleg neu brifysgol.
  • bod yn dilyn gyrfa artistig neu gael eich cyflogi’n broffesiynol yn y celfyddydau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr ar eu liwt eu hunain.
  • gallu darparu tystiolaeth o’ch hanes o hwyluso neu greu gwaith artistig i’w gyflwyno i gynulleidfaoedd.
  • allu gwneud cais yn enw cyfreithiol yr unigolyn sy’n gwneud y cais.
  • bod â chyfrif banc yn eich enw cyfreithiol (gweler yr tudalen gyfrifon banc)
  • peidio â bod heb gadw at unrhyw gytundeb ariannol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru
  • peidio â bod ag unrhyw ofynion heb eu bodloni ar ddyfarniadau cyllid grant Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ni allwn dalu am astudiaethau amser llawn na rhan amser, hyfforddiant unigol, gwersi na hyfforddiant galwedigaethol. Fodd bynnag, gallwn ni eich cefnogi chi i gael hyfforddiant i wella’ch arferion creadigol a buddsoddi yn y sgiliau a fydd yn eich helpu chi i adeiladu gyrfa gynaliadwy yng Nghymru.

Os ydych chi’n unigolyn yn gwneud cais i arwain gweithgareddau gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig y bydd partner sefydliadol â gweithdrefnau diogelu priodol ar waith yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ddiogelu am gyfnod y prosiect.