Canllawiau Cyfrif Banc

Lawrlwythiadau

1. Proses Cyfrif Banc

1.1 Pam a phryd mae angen tystiolaeth fanc arnom

Mae gwirio tystiolaeth fanc yn rhan o'n gwiriadau twyll a llywodraethu i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu'n briodol. Os nad yw'r wybodaeth hon yn llwyddo o ran ein gofynion, ni fyddwn yn gallu rhyddhau unrhyw daliadau.

Byddwn yn gofyn am y wybodaeth hon unwaith y byddwn wedi anfon cynnig grant atoch er y gallwch greu cofnod banc a chyflwyno tystiolaeth ar unrhyw adeg.

Mae'n rhaid i chi neu'ch sefydliad fod â chyfrif banc cymwys cyn i chi gyflwyno cais am grant. Ond nid oes angen i chi ddarparu'r manylion cyn gwneud cais.

1.2 Pryd y byddwn yn gwirio tystiolaeth fanc

Os rhoddwn arian i chi, unwaith y byddwch yn derbyn y grant, byddwn yn gwirio bod eich cofnod banc yn bodloni ein meini prawf. Gall unrhyw broblemau sy'n codi o fethu â dilysu eich cyfrif achosi oedi sylweddol i'ch taliadau a gall hyd yn oed olygu ein bod yn tynnu ein cynnig grant yn ôl. Er mwyn osgoi unrhyw broblemau, sicrhewch fod gennych dystiolaeth briodol.

1.3 Ar ôl i ni wirio tystiolaeth fanc

Unwaith y bydd eich cyfrif wedi'i ddilysu bydd yn ymddangos fel un wedi'i ddilysu yn y porth (gweler rhestr o gofnodion banc yn Gweinyddu – Manylion Banc). Ar ôl ei ddilysu, bydd eich cofnod yn parhau i fod yn awdurdodedig am ddwy flynedd, bydd dyddiad pan ddaw’r dilysiad i ben yn cael ei ddangos wrth ei ochr.

Os oes unrhyw broblemau wrth ddilysu manylion eich cyfrif, byddwn yn cysylltu â chi. Efallai y byddwn yn gofyn i chi gyfeirio'n ôl at y daflen hon a darparu rhywfaint o dystiolaeth ychwanegol.

2. Gofynion tystiolaeth cyfrif banc

2.1 Sefydliadau

2.1.1 Gofynion tystiolaeth cyfrif banc

Cyrff Statudol

Ni fydd angen i gyrff statudol (fel awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, cynghorau tref, byrddau iechyd, neu brifysgolion) ddarparu tystiolaeth ar gyfer eu cyfrifon banc. Yn yr achosion hyn, rhaid i fanylion y cyfrif fod yn enw'r sefydliad neu yn enw’r awdurdod lleol.

Ond os byddwn yn rhoi unrhyw arian, bydd angen i ni wybod pa gyfrif banc yr hoffech i ni dalu iddo, felly rhaid eich bod wedi creu cofnod banc yn ein system. Ond ni fydd angen i ni weld unrhyw dystiolaeth fanc.

Cyrff Anstatudol

Er mwyn i ni allu dilysu eich cofnod banc, bydd angen eich tystiolaeth arnom i ddangos:

  • bod y cyfrif yn enw eich sefydliad neu yn ei enw cyfreithiol
  • bod o leiaf dau berson yn cael mynediad i'r cyfrif
  • rhif y cyfrif
  • y cod didoli

Bydd angen i'r dystiolaeth hon fod yn:

  • llai na 6 mis oed o'r dyddiad y byddwn yn adolygu'r cofnod banc
  • cyfateb â manylion y cyfrif rydych chi wedi'i nodi yn ein system
  • tystiolaeth fanc swyddogol (sef wedi'i chreu a'i llenwi gan eich banc)

Mae'n rhaid i chi gael cyfrif banc priodol gyda'r dystiolaeth ofynnol cyn i chi gyflwyno eich cais.

2.1.2 Mathau o dystiolaeth fanc

Bydd angen i chi uwchlwytho'r dystiolaeth wrth nodi manylion y cyfrif banc, felly gwnewch yn siŵr bod eich dogfennaeth yn barod. Mae'n bwysig bod y dystiolaeth fanc ac uwchlwythwch yn cyfateb â’r manylion banc yr ydych wedi'u darparu.

Rhaid cysylltu'r dystiolaeth yn glir â manylion y cyfrif. Efallai y bydd angen i chi ddarparu nifer o ddogfennau, er enghraifft:

  • Llythyr neu e-bost dyddiedig sy'n dangos yn glir ei fod wedi'i anfon gan eich banc ac sy'n cynnwys manylion sy’n cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen.
  • Sgrinluniau o’r llofnodwyr sydd wrthi’n mewngofnodi i fancio ar-lein yn arddangos eu henw ynghyd â gwybodaeth cyfrif banc y sefydliad ac sydd wedi'i dyddio
  • Ffotograffau o bob cerdyn banc ar gyfer y cyfrif sy'n dangos enw pob llofnodwr, enw'r cyfrif, rhif y cyfrif a’r cod didoli (nid yw rhai cardiau banc yn dangos yr holl wybodaeth hon - os felly, bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol sy'n cysylltu manylion eich sefydliad a manylion y cyfrif, er enghraifft datganiad banc)

Gallwn dderbyn atodiadau yn y fformatau canlynol hyd at 10mb yr un:

     - PDF, MS Word, MS Excel, MS PowerPoint a jpeg

Dyma rai enghreifftiau o fformatau ffeil na allwn eu derbyn:

       -HEIC, Pages, CSV, RAW a DAT

Pwysig: ni allwn dderbyn cyfrifon cymdeithas adeiladu sy'n gweithio gyda llyfr pas yn unig.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ofynion tystiolaeth fanc, anfonwch e-bost atom: buddsoddiacariannu@celf.cymru

2.2 Unigolion

2.2.1 Gofynion tystiolaeth cyfrif banc

Er mwyn i ni allu dilysu eich cofnod banc, rhaid i ni gael tystiolaeth oddi wrthych i ddangos:

  • bod eich cyfrif yn eich enw cyfreithiol
  • rhif y cyfrif
  • y cod didoli
  • cyfeiriad deiliad y cyfrif banc (rhaid i hyn gyfateb â'r cyfeiriad rydych wedi’i nodi yn ein system grantiau ar-lein a rhaid iddo fod yng Nghymru hefyd)

Bydd angen i'r dystiolaeth hon fod yn:

  • llai na 6 mis oed o'r dyddiad y byddwn yn adolygu'r cofnod banc
  • cyfateb â manylion y cyfrif rydych chi wedi'i nodi yn ein system
  • tystiolaeth fanc swyddogol (sef wedi’i chreu a’i llenwi gan eich banc)

Mae'n rhaid i chi gael cyfrif banc priodol gyda'r dystiolaeth ofynnol cyn i chi gyflwyno eich cais.

2.2.2 Mathau o dystiolaeth fanc

Bydd angen i chi uwchlwytho'r dystiolaeth wrth nodi manylion y cyfrif banc, felly gwnewch yn siŵr bod y ddogfennaeth yn barod. Mae'n bwysig bod y dystiolaeth fanc a uwchlwythwch yn cyfateb â'r manylion banc yr ydych wedi'u nodi.

Rhaid cysylltu'r dystiolaeth yn glir â manylion y cyfrif. Efallai y bydd angen i chi ddarparu nifer o ddogfennau, er enghraifft:

  • tudalen cyntaf datganiad banc (bydd hyn fel arfer yn darparu'r manylion sy'n ofynnol a gellir ei islwytho fel arfer wrth fancio ar-lein)
  • llythyr neu e-bost dyddiedig sy'n dangos yn glir ei fod wedi'i anfon gan eich banc ac sy'n cynnwys manylion sy’n cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen
  • Sgrinluniau ohonoch a chwithau wedi mewngofnodi i'ch bancio ar-lein sy’n dangos eich enw, eich cyfeiriad a gwybodaeth eich cyfrif banc sydd hefyd wedi'i dyddio
  • Ffotograffau o'r cerdyn banc ar gyfer y cyfrif sy'n dangos enw'r cyfrif, ei  rif a’i god didoli. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer y cyfeiriad sy'n gysylltiedig â'r dystiolaeth. (Os nad yw'ch enw'n cael ei ddangos ar y cerdyn, bydd angen darparu gwybodaeth ychwanegol, gan eich cysylltu chi â manylion y cyfrif).

Gallwn dderbyn atodiadau yn y fformatau canlynol hyd at 10mb yr un:

  • PDF, MS Word, MS Excel, MS PowerPoint a jpeg

Dyma rai enghreifftiau o fformatau ffeil na allwn eu derbyn:

  • HEIC, Pages, CSV, RAW a DAT

Noder, ni allwn:

  • derbyn cyfrifon ar y cyd
  • derbyn cyfrifon cymdeithas adeiladu sy'n gweithio gyda llyfr pas yn unig
  • talu i gyfrifon ISA
  • derbyn llyfrau siec fel tystiolaeth fanc

Cyfrifon Busnes:

  • Ni allwn dderbyn cyfrifon busnes heblaw pan fo’ch enw cyfreithiol wedi'i gynnwys yn enw'r cyfrif, er enghraifft 'Dawns Dwynwen Jones'
  • Ni allwn dderbyn cyfrifon banc sydd ar gyfer cwmnïau cyfyngedig
  • Gallwn ddim ond dderbyn cyfrifon busnes pan fo e-bost gan yr ymgeisydd yn cadarnhau mai ef yw'r unig lofnodwr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ofynion tystiolaeth fanc, anfonwch e-bost atom: buddsoddiacariannu@celf.cymru

3 Sut i:

3.1 Creu cofnod banc

Yn eich cyfrif ar-lein yn ein porth grant, gallwch roi eich manylion banc a chyflwyno tystiolaeth o'ch cyfrif banc.

Pan fo gennych dystiolaeth fanc addas yn barod i'w huwchlwytho:

  • Yn ein porth grantiau, ewch i Gweinyddu – Manylion Banc
  • Llenwch yr adran Rhoi Manylion Banc Newydd a phwyswch Cyflwyno
  • Uwchlwytho tystiolaeth ategol; ni allwch uwchlwytho hon yn ddiweddarach  yn y porth. Er mwyn osgoi oedi yn nes ymlaen yn y broses, sicrhewch fod eich tystiolaeth yn bodloni ein gofynion. Mae'n bwysig bod y dystiolaeth fanc a uwchlwythwch yn cyfateb â’r manylion banc yr ydych wedi'u nodi

Gallwch ychwanegu sawl cyfrif banc at eich proffil i ganiatáu i wahanol grantiau gael eu talu i wahanol gyfrifon. Bydd angen i ni weld tystiolaeth fanc ar gyfer pob cyfrif rydych chi'n ei ychwanegu er mwyn dilysu'r manylion a gwneud taliadau i'r cyfrif.

Byddem yn gofyn i chi beidio â chreu sawl cofnod ar gyfer yr un cyfrif lle bo hynny'n bosibl. Os gwnewch hyn ar ddamwain, cysylltwch â ni: buddsoddiacariannu@celf.cymru a gallwn gael gwared ag unrhyw gofnodion diangen.

3.2 Gwneud newidiadau neu gyflwyno tystiolaeth ychwanegol

Ar ôl eu creu, ni fydd y porth yn caniatáu ichi olygu na dileu cofnodion banc nac uwchlwytho tystiolaeth ychwanegol.

Os bydd unrhyw un o'r canlynol yn wir:

  • Mae eich cofnodion banc wedi dod i ben ac rydych am ddefnyddio'r cofnod ar gyfer grant newydd
  • Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer cofnod banc sydd wedi'i greu
  • Mae angen i chi ofyn am newid i gofnod banc
  • Rydych chi am ddileu cofnod banc

E-bostiwch ni: buddsoddiacariannu@celf.cymru a rhowch wybod i ni am gyfeirnod y cyfrif banc dan sylw ar ein system, er enghraifft, BANC-123456.

Os bydd manylion eich cyfrif banc yn newid wrth i chi wneud eich prosiect, rhaid i chi roi gwybod i ni.

  • Crëwch gofnod banc newydd (os nad yw'n bodoli eisoes yn y system) ac uwchlwythwch y dystiolaeth fanc berthnasol
  • Wedyn bydd angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn symud y taliadau grant perthnasol i'ch cofnod banc newydd. Rhowch i ni y cyfeirnod perthnasol ar gyfer y grantiau yr hoffech eu diweddaru ynghyd â'n cyfeirnod o’r cofnodion banc: buddsoddiacariannu@celf.cymru

3.3 Derbyn grant

3.3.1 Nodyn cynnig grant

Os ydych yn llwyddiannus ac yn derbyn ein cynnig o arian, bydd y cysylltiadau a nodwyd gennych wrth wneud cais yn derbyn e-bost gyda chrynodeb o'r arian.

Bydd cyfarwyddiadau ar sut i dderbyn y grant i'w gweld yn yr e-bost. Bydd manylion llawn y grant a'r amodau yn cael eu disgrifio yn y porth lle bydd angen i chi dderbyn y grant.

3.3.2 Gwiriwch eich cofnod banc

Bydd angen i chi sicrhau bod y cofnod banc yr hoffech i ni dalu’r arian iddo yn cael ei arddangos yn eich porth yn y rhestr yn Gweinyddu – Manylion Banc

Am gymorth, ewch i: sut i greu cofnod banc newydd

I wirio a yw'r cofnod banc yr hoffech ei ddefnyddio’n iawn, yn rhestr y cyfrifon banc yn eich porthol grantiau yn Gweinyddu – Manylion Banc gwiriwch fod y cyfrif banc yr hoffech ei ddefnyddio’n:

  1. Dilys = ie
  2. Bod y dyddiad dod i ben cyn y dyddiad y derbyniwch y cynnig
  • Os yw wedi'i ddilysu a bod y dyddiad dod i ben ar ôl y dyddiad y byddwch yn derbyn y cynnig wedyn ni fydd angen unrhyw wybodaeth arall.
  • Os yw wedi'i ddilysu a bod y dyddiad dod i ben cyn y dyddiad y byddwch yn derbyn y cynnig wedyn, gallwch ei ddewis o hyd a derbyn y grant, ond anfonwch dystiolaeth newydd atom sy'n bodloni ein gofynion ynghyd â'r cyfeirnod banc: buddsoddiacariannu@celf.cymru.Peidiwch â chreu cofnod banc newydd gyda’r un manylion.
  • Os nad yw'r cofnod banc wedi'i ddilysu, gallwch ddewis y cofnod banc hwn o hyd wrth dderbyn y grant, a byddwn yn asesu eich cofnod banc ac unrhyw dystiolaeth a gyflwynwch ar ôl i chi dderbyn y grant
3.3.3 Derbyn

I dderbyn y grant a dewis cofnod banc i dalu’r grant iddo:

  • Mewngofnodwch i'n porth grantiau, cliciwch yma i fewngofnodi
  • Ewch i 'grantiau – ceisiadau a gyflwynwyd'
  • Dewiswch y cofnod perthnasol o'r grid Ceisiadau a Aseswyd
  • Bydd dewis y grant yn dangos manylion eich cais am grant
  • Ar y tudalen hwn sgroliwch i lawr a dewiswch Parhau i’n penderfyniad
  • Yma gallwch weld manylion ein cynnig gan gynnwys y taliadau ac unrhyw amodau ychwanegol ar eich grant
  • Dewiswch Nesaf i lywio i'r tudalen Telerau ac Amodau a Derbyn
  • Dewiswch y cofnod banc rydych chi am i ni dalu eich grant iddo gan ddefnyddio'r offeryn chwilio am fanylion banc
  • Ar ôl i chi ddewis cofnod banc i dalu’r grant iddo a darllen y cynnig o grant a’r amodau cysylltiedig, gallwch dderbyn y grant gan ddefnyddio'r botwm ar waelod y tudalen

Ar ôl i chi dderbyn y grant, byddwn yn adolygu eich cofnod banc. Gall unrhyw broblemau sy'n codi o'n hadolygiad achosi oedi sylweddol i'ch taliadau a gall hyd yn oed olygu ein bod yn tynnu ein cynnig grant yn ôl.