Llywodraethiant

Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli a'i wario'n iawn. Un o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw drwy sicrhau bod sefydliadau rydym yn eu hariannu wedi cael eu sefydlu'n briodol.

Mae rhai o'n rhaglenni ariannu ar agor i fathau penodol o sefydliadau yn unig, neu mae ganddynt feini prawf cymhwysedd ychwanegol. Bydd hyn yn cael ei amlinellu'n glir yng nghanllawiau pob cynllun. Fodd bynnag, rhaid i bob sefydliad gyrraedd ein meini prawf cymhwysedd isaf.

Gall sefydliadau wneud cais i ni os ydynt yng Nghymru neu wlad arall yn y Deyrnas Unedig. Os nad ydych wedi'ch lleoli yng Nghymru ac yn dymuno gwneud cais, rhaid i chi ddangos sut mae eich gweithgaredd o fudd i ddatblygiad ymarfer creadigol yng Nghymru a/neu'r cyhoedd yng Nghymru.

Rhaid bod sefydliadau wedi'u cyfansoddi'n ffurfiol fel un o'r canlynol:

  • Cwmni Cyfyngedig drwy Warant
  • Elusen gofrestredig (gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol)
  • Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO)
  • Cwmni Budd Cymunedol (CIC)
  • Cwmni Cyfyngedig drwy Gyfranddaliadau (gweler y meini prawf ar gyfer budd cyhoeddus)
  • Sefydliad Anghorfforedig
  • Partneriaeth, gan gynnwys Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (lle nad yw’r Cyfarwyddwyr yn yr un cyfeiriad)
  • Awdurdod lleol, Prifysgol, Byrddau Iechyd neu Gorff Cyhoeddus arall

Yn yr Atodiad mae tabl sy’n amlinellu’r hyn y bydd angen i ni ei weld yn eich dogfennau llywodraethu. Darllenwch hwn yn ofalus.

Os nad ydych wedi gwneud cais am gyllid gennym erioed o’r blaen:

  • bydd angen i chi uwchlwytho copi wedi’i lofnodi o’ch dogfen lywodraethu i’n porth ar-lein cyn y gallwch wneud cais

Os ydych wedi gwneud cais am gyllid gennym o’r blaen:

  • os nad ydych wedi cyflwyno’ch dogfen lywodraethu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, neu os yw wedi’i diweddaru ers y tro diwethaf i chi ei chyflwyno, bydd angen i chi uwchlwytho copi wedi’i lofnodi o’ch dogfen lywodraethu i’n porth ar-lein cyn y gallwch wneud cais.

Mae sefydliadau sydd ddim yn gymwys i wneud cais am gyllid yn cynnwys:

  • adrannau’r Llywodraeth
  • sefydliadau y tu allan i’r DU

Yn ogystal, mae ysgolion ond yn gymwys i wneud cais i'n rhaglenni Dysgu Creadigol  

Meini Prawf Ychwanegol

Dylai sefydliadau sy’n ymgeisio:

  • fod â chyfrif banc yn enw’ch sefydliad sydd ag o leiaf dau berson a all awdurdodi trafodion (gweler yr adran ar gyfrifon banc)
  • fod â Pholisi Cyfle Cyfartal sydd wedi cael ei adolygu gan eich corff llywodraethu yn y tair blynedd ddiwethaf ac sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol.
  • peidio â bod heb gadw at unrhyw gytundeb ariannol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.
  • peidio â bod ag unrhyw ofynion heb eu bodloni ar unrhyw gyllid arall Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gallwch wneud mwy nag un cais, neu fod yn rhan o fwy nag un. Os felly bydd angen ichi sicrhau bod gan eich sefydliad y gallu i gyflawni nifer o brosiectau’n effeithiol. Dylech nodi hyn yn glir yn eich cais.

Os yw’ch prosiect yn golygu gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed, bydd arnoch angen hefyd Polisi Diogelu/ Amddiffyn Plant sydd wedi cael ei adolygu gan eich corff llywodraethu yn y tair blynedd ddiwethaf ac sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol.

Os yw unigolion neu sefydliadau partneriaethol eraill yn cyflawni gweithgarwch cyfranogol fel rhan o’r prosiect, megis gweithdai gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed, eich cyfrifoldeb chi fel yr ymgeisydd yw sicrhau bod Polisi Diogelu priodol ar waith.  

Cymhwysedd a Llywodraethu – Atodiad

Mae’r tabl isod yn nodi’r mathau o sefydliadau y gallwn eu hariannu, a’r hyn y byddwn ni eisiau ichi ei gynnwys yn eich dogfennau llywodraethu. 

Os nad yw’ch math chi o sefydliad ar y rhestr, neu os nad ydych yn siŵr a yw’ch sefydliad yn gymwys, cysylltwch â’n Tîm Grantiau a Gwybodaeth

Strwythur Sefydliadol

Gofynion Llywodraethu

 

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant

Sefydliad Corfforedig Elusennol

Cwmni Buddiant Cymunedol

Ymddiriedolaeth Elusennol

Rhaid i’r sefydliad fod ag o leiaf 2 ymddiriedolwr/gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn i’w gilydd neu nad ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad.

Rhaid i’r dogfennau llywodraethu:

  • fod wedi’u llofnodi gan o leiaf dau ymddiriedolwr/gyfarwyddwr
  • fod wedi’u cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau a/neu’r Comisiwn Elusennau
  • nodi bod cyfarfodydd rheolaidd o’r bwrdd i gael eu cynnal
  • cynnwys cworwm priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau
  • cynnwys cymal Diddymu neu Glo Asedau priodol (gweler isod i gael cyfarwyddyd)

 

Cwmni Cyfyngedig drwy Gyfrannau

Rhaid i’r sefydliad fod ag o leiaf 2 ymddiriedolwr/gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn i’w gilydd neu nad ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad.

Rhaid i’r dogfennau llywodraethu:

  • fod wedi’u llofnodi gan o leiaf dau ymddiriedolwr/gyfarwyddwr
  • fod wedi’u cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau a/neu’r Comisiwn Elusennau.
  • nodi bod cyfarfodydd rheolaidd o’r bwrdd i gael eu cynnal
  • Cynnwys cworwm priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau

 

Sefydliad Anghorfforedig

Rhaid i’r sefydliad fod ag o leiaf 2 ymddiriedolwr/gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn i’w gilydd neu nad ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad.

Rhaid i’r dogfennau llywodraethu:

  • fod wedi’u llofnodi gan o leiaf dau ymddiriedolwr/gyfarwyddwr
  • nodi bod cyfarfodydd rheolaidd o fwrdd neu gorff llywodraethu yn cael eu cynnal
  • cynnwys cworwm priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau
  • cynnwys cymal Diddymu neu Glo Asedau priodol (gweler isod i gael cyfarwyddyd)

 

Strwythur Sefydliadol

Gofynion Llywodraethu

Byrddau Iechyd, Prifysgolion, Awdurdodau Lleol

Sefydliadau heb fwrdd annibynnol, ond wedi’u llywodraethu gan yr uchod

Nid oes angen dogfennau llywodraethu ar gyfer y sefydliadau hyn, ond bydd angen inni weld llythyrau yn cefnogi’ch cais oddi wrth dau uwch aelod o bersonél.

Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig

Rhaid i’r sefydliad fod ag o leiaf 2 ymddiriedolwr/gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn i’w gilydd neu nad ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad.

Rhaid i’r cytundeb partneriaeth:

  • fod wedi’i lofnodi gan yr holl bartneriaid
  • nodi bod cyfarfodydd rheolaidd o’r bartneriaieth i gael eu cynnal
  • cynnwys cworwm priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau
  • cynnwys cymal Diddymu priodol

Corfforaethau Statudol

Dylech siarad â Swyddog o Gyngor Celfyddydau Cymru cyn gwneud cais

Cymdeithasau Tai

Dylech ddefnyddio’r tabl uchod i ganfod eich strwythur

Mae aelodau Portffolio Celfyddydol Cymru’n gymwys i wneud cais. Fodd bynnag, rydym yn eich annog i drafod eich cynnig gyda’ch swyddog ‘arweiniol’ cyn gwneud cais fel ein bod ni’n gwybod sut mae’ch prosiect yn cyd-fynd â’ch gweithgareddau eraill a ariennir. 

       

Diffiniadau

Rydym yn diffinio ymddiriedolwyr sy’n perthyn i’w gilydd fel:

  • Aelodau o’r teulu sy’n ymestyn i fam, tad, brawd, chwaer, mab, merch, nain/mam-gu neu daid/dad-cu.
  • Perthnasau trwy briodas sy’n ymestyn i briod, mab yng nghyfraith neu ferch yng nghyfraith, a mam yng nghyfraith neu dad yng nghyfraith.

Mae cymal diddymu yn nodi’r hyn fydd yn digwydd i asedau sefydliad sy’n weddill (sy’n cynnwys arian parod ac asedau eraill) os caiff y sefydliad ei ddirwyn i ben neu ei ddiddymu.

Mae arnom angen cymal diddymu sy’n nodi y caiff unrhyw asedau sy’n weddill eu trosglwyddo i sefydliad sydd ag amcanion tebyg. Mae hyn yn sicrhau y caiff buddsoddiad arian cyhoeddus yn y celfyddydau ei ddiogelu.

Mae Clo Asedau yn sicrhau y caiff asedau sefydliad (gan gynnwys unrhyw elw neu warged arall a gynhyrchir gan ei weithgareddau) eu defnyddio er budd y gymuned.

Nid oes rhaid bod y celfyddydau wedi’u nodi yn amcanion eich sefydliad fel rhan o’i ddogfen llywodraethu, ond rydym yn hybu hyn yn gryf. Mae’n bosibl y bydd ei gynnwys yn rhoi inni sicrwydd ychwanegol ynghylch nodau artistig eich prosiect.