Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi’n talu eich hun, ac aelodau o’ch tîm, yn iawn. Dylai eich prosiect gynnwys ffioedd i dalu am eich amser chi a’u hamser nhw. Mae ffioedd yn gallu bod hyd at 100% o wariant eich prosiect.
Ni fyddwn ni’n ariannu cais lle nad oes ffi ar gyfer chi eich hun neu eich cydweithwyr neu ddim ond ffi isel iawn, iawn sydd yn y gyllideb. Hoffem weld eich bod wedi cyfeirio at gyfraddau safonau diwydiant sy’n berthnasol i’ch ymarfer chi a dylech chi o leiaf dalu cyfraddau lleiaf y diwydiant. Lle nad oes cyfraddau lleiafsymiol i’r diwydiant ar gael, rhaid ichi dalu’r Cyflog Byw Cenedlaethol o leiaf.
Gall undebau llafur a sefydliadau cymorth gynnig arweiniad am gyflogau a ffioedd lleiaf mewn diwydiant.
Pwy/dolen | Ar gyfer |
a-n | Cwmni Gwybodaeth Artistiaid (i artistiaid gweledol) |
AOP | Cymdeithas Ffotograffiaeth |
BECTU | Yr Undeb Darlledu, Adloniant, Cyfathrebu a Theatr (i staff technegol) |
Equity | I actorion, cantorion a dawnswyr |
ISM | Cymdeithas Gorfforedig y Cantorion |
itc | Cyngor Theatr Annibynnol (i ymarferwyr theatr) |
Musicians’ Union | Undeb i gerddorion |
WGGB | Urdd Ysgrifenwyr Prydain |
UK Theatre | I staff theatr a cherddorion |
Dylech nodi: Mae angen i unrhyw ffioedd dros £5,000 gael eu hysbysebu a’u recriwtio drwy ddetholiad agored oni bai fod rhesymeg glir dros beidio â gwneud hyn, y bydd angen ei hesbonio yn eich cais.