Dyma rai enghreifftiau o wybodaeth ategol y gallech ei darparu yn eich dogfen 5 tudalen. 

  • Enghreifftiau o'ch gwaith (neu unrhyw artistiaid neu bobl greadigol rydych chi'n gweithio gyda nhw). Gallai hyn fod yn ddolen benodol i'ch gwefan/ portffolio/ adolygiadau ar-lein 
  • Llythyr gan eich partner/ partneriaid allweddol sy’n cadarnhau eu cyfranogiad 
  • Cynllun prosiect neu amserlen weledol 
  • Rhaglen artistig ddrafft neu amserlen daith 
  • Manylion unrhyw gyfleoedd (er enghraifft, cyrsiau hyfforddi neu breswylfeydd) a grybwyllir yn eich cais, ynghyd ag unrhyw ohebiaeth sydd gennych sy'n dangos gwahoddiad i chi gymryd rhan (os yw'n berthnasol) 
  • Llythyrau cymorth ystyrlon sy’n ategu eich prosiect. Gallai'r rhain fod gan bartneriaid / mentoriaid 
  • Tystiolaeth o ymgynghori â grŵp/ cymuned darged 
  • Cadarnhad o gefnogaeth ariannol 
  • Tystiolaeth o’r gefnogaeth neu’r galw 
  • Adolygiadau blaenorol o brosiectau cysylltiedig 

Peidiwch ag atodi dogfennau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r prosiect rydych yn gwneud cais amdano. 

Ni allwn dderbyn unrhyw atodiadau ar ôl cyflwyno eich cais. 

 

Fel rhan o'n cymhwyster, mae angen i chi allu darparu tystiolaeth o’ch hanes o hwyluso neu greu gwaith artistig i’w gyflwyno i gynulleidfaoedd. 

Gofynnwn i bob unigolyn roi CV i ni sy'n dangos eich cyflawniadau a'ch gweithgarwch artistig blaenorol. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau a chyngor diddorol am greu eich CV artistig yma - https://artquest.org.uk/how-to-articles/artist-cv/