Bydd y prosiectau hyn yn helpu i gryfhau gallu a gwytnwch unigolion a sefydliadau celfyddydol ac yn eu helpu i fod yn fwy cynaliadwy.

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag ymgynghorwyr, nodwch dystiolaeth o’u cymwysterau a pha mor briodol ydynt.

 

Rydym yn awyddus i ariannu:

  • Prosiectau sy'n datblygu a gwella sgiliau busnes a rheoli gan gynnwys cynllunio busnes, codi arian a marchnata
  • Ceisiadau sy'n dangos rhesymeg ac amseriad clir ac sydd o fudd i'r busnes neu'r unigolyn
  • Ceisiadau i ailfodelu busnes i alluogi sefydliadau i ddod yn fwy gwydn a hunangynhaliol
  • Ceisiadau gan unigolion sy'n archwilio elfennau sy'n canolbwyntio ar fusnes fel datblygu gwefannau, masnachu eu gwaith neu ddatblygu e-fasnach, er enghraifft

 

Ni allwn ariannu:

  • Prosiectau sy'n methu â dangos canlyniad pendant i'n buddsoddiad
  • Prosiectau nad ydynt yn dangos budd i'r unigolyn neu'r sefydliad

 

Am faint y gallaf ymgeisio?

Am £10,000 ar y mwyaf os yw'ch cais yn canolbwyntio ar hyfforddiant neu ddatblygiad busnes yn unig.

Gallwch hefyd wneud cais i Gamau Creadigol ar gyfer Datblygu’r Busnes neu’r Unigolyn os ydych yn bodloni'r meini prawf.