Rydym am i'r ystod ehangaf bosibl o bobl gael y cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau a'u mwynhau. Rydym am ddymchwel y rhwystrau sy’n atal llawer rhag cymryd rhan yn gymdeithasol, economaidd, daearyddol neu ariannol.

Rydym am gefnogi prosiectau a fydd yn rhoi cyfle i bobl o gymunedau ledled Cymru gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol a'u mwynhau. Ac nid yw cymunedau’n gyfyngedig i ardaloedd daearyddol.

Mae angen i unigolion sy'n ymgeisio o ran arwain gweithgarwch cyfranogol neu gymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed gynnig tystiolaeth ysgrifenedig y bydd eu partner sefydliadol yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ddiogelu drwy gydol y prosiect. Rhaid i'r sefydliad feddu ar weithdrefnau diogelu priodol sydd ar waith a'u dilyn.

 

Rydym yn awyddus i ariannu:

  • Rhaglenni celfyddydol cyfranogol a dychmygus sy'n ymestyn i ymgysylltu'n ystyrlon â phobl
  • Cyfleoedd i gymunedau ymgysylltu'n greadigol â gweithgarwch artistig
  • Prosiectau sy'n datblygu partneriaethau i gefnogi ymgysylltu â chymunedau targedol
  • Prosiectau lle bu'r partneriaid a'r bobl rydych chi'n bwriadu eu cyrraedd yn rhan o gynllunio'r prosiect o'r cychwyn yn deg
  • Prosiectau sy'n ymgysylltu â gweithwyr creadigol i weithio gyda sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i wella safon y gweithgarwch celfyddydol y maent yn ei gyflawni
  • Prosiectau sy'n cynnwys ac annog partneriaethau â chymunedau
  • Prosiectau a fydd â gwaddol hirdymor
  • Prosiectau hygyrch sydd wedi ystyried sut i leihau'r rhwystrau rhag cymryd rhan

 

Ni allwn ariannu:

  • Prosiectau a gweithgareddau nad ydynt yn cynnwys cymunedau yn eu datblygiad
  • Prosiectau sy'n cyflawni pethau ar gyfer buddiolwyr targedol yn hytrach na chyda nhw
  • Prosiectau nad ydynt yn ystyried safon y gweithgarwch a pha mor berthnasol ydyw