Rydym am gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu a fydd yn rhoi cyfle i ddatblygu a phrofi syniadau, ymchwilio i farchnadoedd newydd a magu partneriaethau newydd.

Oherwydd natur ymchwil a datblygu, ni fyddwn bob amser yn disgwyl y bydd canlyniad clir.

 

Rydym yn awyddus i ariannu:

  • Cynigion sy’n canolbwyntio ar ddatblygu ymarfer creadigol
  • Prosiectau sy'n dangos gwerth am arian
  • Prosiectau sy'n cynnwys profi a gwerthuso syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio
  • Prosiectau sy'n profi gwaith arloesol na fydd efallai'n llwyddo ond sydd o hyd yn cynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr
  • Prosiectau sy'n dod â grŵp o artistiaid neu weithwyr llawrydd ynghyd i archwilio cyfleoedd creadigol gan gynyddu effaith ein harian i'r eithaf
  • Prosiectau sy'n ymgysylltu’n dargedol â buddiolwyr wrth ddatblygu'r gweithgarwch
  • Rhaglenni gwaith sy'n darganfod yn artistig o’r newydd, datblygu cymunedol a datblygu talent artistig
  • Prosiectau sydd â chymorth partner a all gynnig adborth beirniadol wrth gynllunio, datblygu, creu a / neu gyflwyno gwaith neu ddatblygiad unigol
  • Prosiectau sy'n cynnwys cyflwyno gwaith sydd ar y gweill i gynulleidfa brawf neu i ddarpar hyrwyddwyr a rhanddeiliaid os yw'n briodol
  • Prosiectau sy'n cyfuno elfennau o ddatblygiad proffesiynol (drwy hyfforddiant neu ddatblygiad busnes, er enghraifft) ag amser i fyfyrio a chreu gwaith

 

Ni allwn ariannu:

  • Prosiectau sy'n cyflawni gwaith ar wahân heb unrhyw lais beirniadol allanol na chefnogaeth bartner
  • Prosiectau na fyddant yn dangos budd pendant i'n buddsoddiad
  • Prosiectau nad oes ganddynt y potensial i ymddatblygu’n bellach
  • Prosiectau nad ydynt yn ystyried effaith yr ymchwil a'r datblygiad ar y budd hir dymor i'r unigolyn, y sefydliad neu'r sector ehangach
  • Gweithio ar wahân heb ystyried effaith ehangach na gwerth yr ymchwil a datblygu
  • Cynigion heb unrhyw fudd clir yn yr hir dymor i ymarfer creadigol na'r sector ehangach
  • Prosiectau nad ydynt yn ystyried sut i ymgysylltu â chynulleidfa yn y dyfodol neu nad oes ganddynt gynulleidfa glir mewn golwg
  • Prosiectau sy'n canolbwyntio'n llwyr ar gael eich talu i gyflawni gwaith heb unrhyw fuddiolwyr ehangach