Mae theatrau, canolfannau celfyddydol, lleoliadau ac orielau eisiau gwaith cyffrous o safon i ddenu cynulleidfaoedd a chyrraedd grwpiau targedol newydd.
Gall Creu gefnogi cyflwyno a theithio gwaith ym mhob celfyddyd a chaniatáu i leoliadau gynnig rhaglenni amrywiol o safon.
Rydym yn awyddus i ariannu:
- Rhaglennu lleoliadau ac orielau sydd y tu hwnt i gyrraedd eu cynulleidfaoedd arferol neu eu rhaglennu craidd
- Rhaglennu uchelgeisiol, eang ac o safon
- Rhaglennu sy'n caniatáu i leoliadau gyrraedd cynulleidfaoedd newydd neu fynd i'r afael â bylchau daearyddol yn eu darpariaeth
- Rhaglennu gwaith newydd ac arloesol sy'n targedu a chyrraedd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd
- Prosiectau sy'n cynnwys cynhyrchwyr neu guraduron i gydweithio â lleoliadau neu orielau i gydgomisiynu a chyflwyno’n ehangach berfformiadau a’r celfyddydau gweledol a chymhwysol
- Prosiectau sy'n cyflwyno gwaith gan bobl F/fyddar, anabl, niwroamrywiol, dduon, Asiaidd ac ethnig amrywiol
- Prosiectau sy'n cyflwyno gwaith Cymraeg
- Rhaglennu gwaith gan bobl â nodweddion gwarchodedig
- Rhaglennu sy'n fforddiadwy a hygyrch
- Prosiectau sy'n cynnig cyfleoedd i ymgysylltu'n eang ac yn ddwfn â chynulleidfaoedd
- Prosiectau sy'n cynnig rhaglenni ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel
- Prosiectau sy'n treialu ffyrdd newydd o raglennu/cyflwyno/teithio mewn ffordd wytnach yn yr amgylchiadau presennol
- Prosiectau sy'n teithio ar draws Cymru, yn enwedig y tu allan i'n prif ardaloedd trefol
Ni allwn ariannu:
- Prosiectau nad ydynt yn ystyried yn ddigonol y cynulleidfaoedd y ceisiant eu cyrraedd neu'r rhwystrau a allai eu hatal rhag ymgysylltu
- Prosiectau nad ydynt wedi dangos ymrwymiad i gyflawni gwaith o safon
- Prosiectau nad ydynt yn dangos yn bendant sut mae hyn yn gwella rhaglenni presennol
- Prosiectau nad ydynt yn rhoi ystyriaeth ddigonol i gydraddoldeb, hygyrchedd, amrywiaeth, y Gymraeg a chyrhaeddiad ehangach