Rydym am fuddsoddi mewn hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol i wella eich ymarfer creadigol a datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu i greu gyrfa gynaliadwy yng Nghymru. Rydym am ddeall sut y gallai hyn effeithio ar eich gwaith yn y dyfodol, er enghraifft drwy eich galluogi i wella eich gwaith neu gymryd eich ymarfer i gyfeiriad newydd.

Os yw’ch cais (neu ran o'ch cais) ar gyfer hyfforddiant/datblygiad proffesiynol yn unig, dylech ddisgrifio safon, arbenigedd a pha mor briodol yw’r rhai sy'n darparu'r hyfforddiant. Nodwch pa mor berthnasol yw’r hyfforddiant i’ch ymarfer neu’ch sefydliad a hefyd sut y bydd y sgiliau dan sylw o fudd i'r sector ehangach yng Nghymru.

 

Rydym yn awyddus i ariannu:

  • Cyfleoedd dysgu a mentora sy'n arwain at ddatblygu sgiliau a gallu drwy rannu gwybodaeth ac arbenigedd
  • Hyfforddiant sy'n datblygu sgiliau creadigol, technegol a busnes fel rheoli / arwain
  • Hyfforddiant i feithrin gallu ac arbenigedd gweithwyr llawrydd neu staff sefydliadau
  • Hyfforddiant i ddatblygu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd ac ymgysylltu â nhw
  • Datblygu syniadau ac uchelgais grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol megis pobl ifanc, F/fyddar, anabl, amrywiol yn ethnig a diwylliannol a siaradwyr Cymraeg i ddilyn llwybrau gyrfa yn y sector diwylliannol
  • Hyfforddiant sy'n cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant
  • Hyfforddiant sy'n datblygu ac yn gwella sgiliau busnes a rheoli gan gynnwys cynllunio busnes, codi arian a marchnata
  • Meithrin artistiaid o Gymru drwy hyfforddiant, dosbarthiadau meistr a’u rhoi ar lwyfannau
  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau creadigol a thechnegol drwy hyfforddiant a ffurfiau eraill o ddatblygiad proffesiynol
  • Cyfleoedd dysgu eithriadol, fel hyfforddiant neu fentora, gan sefydliad neu ymarferydd rhyngwladol a fydd yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a gallu newydd yng Nghymru
  • Sefydliadau i ddarparu hyfforddiant sydd o fudd i sector celfyddydol Cymru

 

Ni allwn ariannu:

  • Astudio'n llawn neu'n rhan amser, hyfforddiant unigol, gwersi neu hyfforddiant galwedigaethol
  • Prosiectau nad ydynt yn dangos canlyniad pendant i'n buddsoddiad
  • Ceisiadau nad ydynt yn dangos budd yr hyfforddiant i'r unigolyn, y sefydliad neu'r sector ehangach
  • Cyflwyno prosiectau hyfforddi heb dystiolaeth glir o'r galw na'r angen amdanynt

 

Am faint y gallaf ymgeisio?

Am £10,000 ar y mwyaf os yw'ch cais yn canolbwyntio'n llwyr ar dderbyn hyfforddiant neu ddatblygiad busnes.

Hyd at £50,000 os ydych yn sefydliad sy'n ymgeisio i ddarparu hyfforddiant.