Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn ailstrwythuro ei raglen ariannu celfyddydau blaenllaw Creu, sy'n dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol i unigolion a sefydliadau.
Dywedodd Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr Celfyddydau newydd Cyngor Celfyddydau Cymru,
"Rhoddodd sector y celfyddydau adborth clir i ni, ac rydym wedi cymeryd camau gweithredu pendant. Mae ein data yn dangos bod tirwedd greadigol Cymru wedi trawsnewid yn ddramatig ers dechrau'r rhaglen Creu, ac mae angen targedu cyllid i feysydd penodol."
Mae targedu arian yn fwy penodol yn golygu y bydd 6 rhaglen newydd yn weithredol o fis Ebrill 2026, ond disgwylir i ddwy o'r rhaglenni cyllido newydd agor ar gyfer ceisiadau yn yr hydref.
Y cyntaf o’r rhaglenni hyn yw Cymunedau Creadigol, a fydd yn cynnig grantiau untro o hyd at £1500, ac sydd wedi ei gynllunio i annog grwpiau cymunedol newydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol. Bydd yr ail, sef cronfa Cynyrchiadau Mawr yn ceisio cefnogi cynyrchiadau uchelgeisiol o ansawdd uchel.
Bydd canllawiau ar sut i wneud cais am gronfa Cymunedau Creadigol ar gael ym mis Medi 2025, a bydd y gronfa dreigl yn agor ar gyfer ceisiadau ym mis Medi. Bydd canllawiau ar y gronfa Cynyrchiadau Mawr yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref, a bydd y gronfa yn agor ar gyfer ceisiadau ym mis Tachwedd gyda dyddiad cau ym mis Ionawr 2026.
Bydd ail gam y newidiadau yn digwydd o fis Ebrill 2026, gyda rhaglenni cyllido penodol ar gyfer gwyliau, ymchwil a datblygu, datblygu ymarfer creadigol, a rhaglen Creu ac Ymgysylltu cyffredinol lle y prif fuddiolwr yw'r bobl sy'n ymgysylltu â'r gweithgaredd celfyddydol.
"Y brif neges i'r sector yma yw na fydd unrhyw newid i'r ffordd rydych chi'n gwneud cais am gyllid Creu tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf," eglura Catryn Ramasut.
"Rydym wedi cyhoeddi'r dyddiadau cau newydd ar gyfer Creu Mawr ar ein gwefan, ac mae Creu Bach yn parhau fel rhaglen dreigl. Fodd bynnag, os ydych chi'n meddwl bod gennych brosiect posib ar gyfer y gronfa Cymunedau Creadigol neu'r gronfa Cynyrchiadau Mawr, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael y wybodaeth ddiweddaraf trwy gofrestru i'n cylchlythyr neu ymweld â'n gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol fel eich bod chi'n medru cymeryd golwg ar y canllawiau yn yr hydref."
Mae rhagor o wybodaeth am Creu ar ein tudalennau Ariannu