Rydym am i gynulleidfaoedd ledled Cymru allu manteisio ar y gweithgarwch celfyddydol gorau posibl. Felly mae'n rhaid i'r gwaith artistig rydym yn ei ariannu fod yn addas i'w gyflwyno mewn canolfannau celfyddydau, orielau, theatrau, neuaddau cyngerdd, yn yr awyr agored ac mewn lleoliadau anhraddodiadol, naill ai fel rhan o daith neu mewn lleoliad neu oriel.

Os ydych yn ymgeisio ar ôl gwneud cyfnod o ymchwil a datblygu, byddwn yn disgwyl i chi fod wedi aros amser rhesymol er mwyn dysgu, gwerthuso a meddwl dros yr hyn a ddysgoch cyn cyflwyno cais i ariannu’r cam nesaf.

 

Rydym yn awyddus i ariannu:

  • Creu gwaith arloesol ac o safon mewn unrhyw gelfyddyd gan gynnwys y celfyddydau cyfun neu’n amlgelfyddydol
  • Gwaith sy'n newydd a chyfoes, gyda gweledigaeth artistig glir ac sy'n chwilio am gynulleidfaoedd nad ydynt fel arfer yn mynychu'r celfyddydau neu nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol
  • Cynigion penodol ar gyfer prosiectau a fydd yn amlwg yn datblygu ymarfer creadigol
  • Prosiectau sy'n dangos gwerth am arian
  • Prosiectau sy'n dod â charfan o artistiaid neu weithwyr llawrydd creadigol ynghyd gan gynyddu effaith ein harian i'r eithaf
  • Prosiectau sydd â chefnogaeth partneriaid ac sy’n cydweithio â nhw’n glir
  • Prosiectau sydd â phartner i fod yn gyfaill beirniadol wrth gynllunio, datblygu, creu a/neu gynnig gwaith
  • Prosiectau sy'n cynnwys cydweithio â lleoliadau neu orielau i gydgomisiynu a chyflwyno gwaith
  • Prosiectau sy'n cynnwys creu gwaith gan neu ar gyfer pobl F/fyddar, anabl, niwroamrywiol, dduon, Asiaidd ac ethnig amrywiol a phobl â nodweddion gwarchodedig
  • Prosiectau sy'n canolbwyntio ar greu gwaith Cymraeg i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg o bob lefel
  • Prosiectau yng Nghymru sy'n cynnwys dimensiwn Prydeinig/rhyngwladol unigryw
  • Prosiectau sy’n cael eu creu a’u harwain yng Nghymru sy'n cynnwys cyfranogiad gan artist neu gwmni rhyngwladol

 

Ni allwn ariannu:

  • Prosiectau nad ydynt wedi ystyried y cynulleidfaoedd y maent yn ceisio eu cyrraedd neu'r rhwystrau a allai eu hatal rhag ymgysylltu
  • Prosiectau nad ydynt wedi dangos ymrwymiad i gyflawni gwaith o safon
  • Prosiectau nad ydynt yn gwneud dim i annog cyfleoedd ar gyfer talent newydd neu sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu sy’n brigo i’r wyneb
  • Prosiectau sy'n cyflawni gwaith ar wahân heb unrhyw lais beirniadol allanol na chefnogaeth bartner
  • Cynigion sengl heb unrhyw fudd hir dymor clir i ymarfer creadigol na'r sector ehangach
  • Prosiectau sydd heb gynulleidfa glir ar gyfer y gwaith
  • Prosiectau sy'n canolbwyntio'n llwyr ar gael eich talu i gyflawni gwaith heb unrhyw fuddiolwyr ehangach
  • Prosiectau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gydweithio’n greadigol ag artistiaid neu gwmnïau rhyngwladol sy'n digwydd y tu allan i Brydain neu'n ddigidol - (ar gyfer y math yma o brosiect, ewch i’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol)