Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol, sydd wedi ennill ardystiad yr Academi Genedlaethol dros Arweinyddiaeth Addysgol, yn manteisio ar ein profiad o hwyluso dysgu proffesiynol trwy’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol, a’n dealltwriaeth a’n gwybodaeth ehangach am sut y gall arweinwyr ysgolion hyrwyddo arloesi o fewn eu lleoliadau. Mae ein model yn seiliedig ar dystiolaeth am ddysgu proffesiynol effeithiol a chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru. Mae’r ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r model dylunio pedair elfen sef cydweithio, arferion myfyrgar, defnyddio data a thystiolaeth ymchwil, a hyfforddi a mentora.
Nod y rhaglen yw meithrin hyder mewn dulliau newydd o weithio, arloesi, myfyrio a sicrhau gwytnwch, a hynny wrth ddatblygu dealltwriaeth am rôl creadigrwydd yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru, y pedwar pwrpas, y safonau Proffesiynol ar gyfer dysgu ac arweinyddiaeth, ac Ysgolion fel sefydliadau dysgu. Cewch 2 ddiwrnod o hyfforddiant a chyfle i gyfarfod â’ch Asiant Creadigol, a fydd yn eich tywys chi trwy 12 – 20 wythnos eich cyfnod ymchwil sy’n seiliedig ar ymholi er mwyn archwilio sut y gall dysgu creadigol helpu i gyflawni profiadau dysgu dilys. Gall ffocws yr ymholiad fod yn gul neu’n eang, yn dibynnu pa agwedd ar Gynllun Datblygu eich Ysgol rydych chi’n gweithio arno. Mae’n seiliedig ar angen o fewn cyd-destun eich ysgol unigol a’ch amcanion dysgu proffesiynol eich hun.
Mae’r rhaglen yn unigryw o ran bod ei ffocws ar eich datblygu CHI – arweinydd yr ysgol – gan roi cyfle i chi archwilio dulliau o fynd ati i roi arweinyddiaeth greadigol ac addysgeg dysgu creadigol ar waith – er mwyn datblygu eich hyder a’ch hyfedredd yn y maes cyffrous yma o ddysgu proffesiynol.
Cewch fwynhau’r amser a’r lle i ddatblygu eich gwybodaeth am dechnegau dysgu creadigol, ochr yn ochr â gweithiwr Creadigol proffesiynol mewn rhwydwaith diogel bychan o gymheiriaid. Fe’ch gwahoddir i fod yn agored ac yn ddiffuant yn y gofod yma, a byddwn ni’n eich annog i fentro, i fwynhau chwarae gyda phosibiliadau ac i gofleidio methiant fel ffordd o ehangu a datblygu eich creadigrwydd. Os ydych am fod yn fodel cadarnhaol o greadigrwydd yn eich ysgol, cofiwch ymgeisio. Cewch gefnogaeth ar bob cam o’r ffordd.
Roedd y deunyddiau ar rym chwarae a rannwyd yn yr achlysur rhwydweithio ar bwynt canol y rhaglen wir wedi taro tan gydag Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol Sant Joseff, Abertawe. Defnyddiodd yr athrawon nodiadau llais a dyddlyfrau i gofnodi eu profiadau ac roedden nhw’n ddiolchgar am mantra CA sef ‘Mynnwch ddeall pwy ydych chi a byddwch y person hwnnw bob dydd.’ “Gwelsom welliannau mewn cynhwysiant am i ni ffeindio bod dysgu creadigol yn ymgysylltu’r dysgwyr lefel is yn well, ac yn herio’r dysgwyr lefel uwch yn fwy.” “Roedd hi wir yn ddefnyddiol er mwyn eich ffeindio’ch hun o’r newydd a myfyrio ar eich arferion eich hun, nid dim ond llywio pobl eraill.”
Dysgodd Ysgol Pen Rhos, Sir Gaerfyrddin, “nad statws neu deitl yw arweinyddiaeth, ond ffordd o weithredu a dangos esiampl.” Mae pob cam yn codi eu cwestiynau ymholi eu hunain a chawsant gyfarfod gyda Tegwen Ellis, o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i drafod dysgu creadigol a sut mae’n gwella llesiant.
Dywedodd Ysgol Bro Pedr, Ceredigion eu bod “wedi dysgu i gofleidio’r cythrwfl a’r sŵn” yn ystod y rhaglen. Ysbrydolodd dysgu yn yr awyr y dull dysgu cerddoriaeth y coed - lle bu’r myfyrwyr yn astudio byd natur a choed ac yn creu eu rhaglen “Gwylio Natur” eu hunain, cyn datblygu cyfansoddiadau cerddorol i efelychu’r coed.
Er nad yw hi’n bosibl tynnu arbenigedd creadigol proffesiynolion creadigol i mewn bob tro mae yna gamau y gall athrawon eu cymryd i sefydlu dulliau dysgu creadigol yn eu harferion. Bydd yr hyb athrawon yn cynnig rhywfaint o arweiniad i chi ar sut i gymryd y camau cychwynnol i ddatblygu gweithgarwch dysgu yn y dosbarth.
Wedi eich ysbrydoli gan y prosiect yma? Bydd ceisiadau ar gyfer y rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol ar agor yn ystod tymor yr hydref a’r gwanwyn. Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y bwletin dysgu Creadigol.