Ysgol yn ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr yw Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert. Mae gan yr ysgol 179 o ddisgyblion rhwng tair ac unarddeg oed. Mae gan yr ysgol chwe dosbarth oedran cymysg yn y brif ffrwd.
Fel aelod o’r Uwch Dîm Arwain, athrawes ddosbarth ac arweinydd y Cwricwlwm Pynciau ar Sail Ymholi, Arweinydd y Celfyddydau Mynegiannol ac Arweinydd Eco-ysgolion, roedd Sarah Taylor yn awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol er mwyn sicrhau datblygiad personol a phroffesiynol pellach. Ei nod oedd datblygu ei gwybodaeth bersonol am y cwricwlwm creadigol, ac yn hynny o beth, rhannu arferion gorau â staff yr ysgol er mwyn sicrhau arweinyddiaeth, gweithrediad a monitro strategol o ran y cwricwlwm creadigol.
Rhoddodd y ddau ddiwrnod o hyfforddiant, wedyn sgyrsiau mentora a chymorth gyda’i hasiant creadigol, gyfleoedd iddi archwilio ac arbrofi â ffyrdd newydd o weithio ar lefel dosbarth ac ar lefel ysgol gyfan i sbarduno newid o ran y dulliau newydd o addysgu a dysgu er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru.
Arweiniodd Sarah gyfarfodydd HMS ar gyfer y staff er mwyn rhannu gwaith ymchwil a sbarduno newid â ffocws ar ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn yr ysgol.
Trwy weithio gyda mentor, bu modd iddi dyfu’n broffesiynol, a rhoddodd y broses gydweithiwr beirniadol iddi a gynigiodd syniadau a chymorth mentora gwerthfawr trwy gyfleoedd i gyd-drafod sut y gellid symud yr ysgol yn ei flaen yn barod ar gyfer cwricwlwm newydd Cymru. Cynorthwyodd arbenigedd y mentor yr ysgol gyda’r camau nesaf ac ar y siwrnai i ddatblygu dulliau cyffrous ac arloesol o addysgu a dysgu yng ngoleuni’r cwricwlwm newydd i Gymru.
Rydw i wedi dechrau fy nyddlyfr proffesiynol fy hun er mwyn rhoi amser a lle i mi fyfyrio - mae hyn wir wedi effeithio ar sut rydw i’n delio â gwahanol sefyllfaoedd a chyd-destunau, gan ddysgu ar hyd y ffordd… (Rydw i wedi) magu hyder am fy mod i’n arwain mentrau a datblygiadau i’r ysgol gyfan… Rydw i wedi gallu datblygu rhagor ar ein hymdeimlad o ‘gymuned’ o fewn yr ysgol hefyd a sut rydyn ni’n gweithio ar ac yn mentro gyda’n cwricwlwm gyda’n gilydd.