Cefndir
Ysgol gynradd dwy ffrwd ym Mhowys yw Ysgol Trefonnen. Dewiswyd dosbarth o ddysgwyr blwyddyn 5 a 6 o’r ffrwd cyfrwng Saesneg i gymryd rhan yn y prosiect.

Cyn dechrau’r gwaith, roedd y dysgwyr wedi astudio pobl allweddol ym maes cyfiawnder cymdeithasol fel Rosa Parks, Martin Luther King Junior, a Betty Campbell. Roedden nhw wedi dysgu hefyd am y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, gyda ffocws ar amrywiaeth, parch a hunaniaeth. Roedd y dysgwyr wedi edrych ar gwestiynau ehangach oedd yn ymwneud â chenedligrwydd a heddwch yn rhan o’u gwaith ar ryfel hefyd.

Yn dilyn y gwaith cychwynnol yma, roedd yr ysgol am archwilio sut y gallai cyfuniad o bypedwaith a thechnolegau digidol wella dealltwriaeth, ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth y disgyblion am amrywiaeth yn ein cymdeithas sy’n esblygu. Y gobaith oedd y byddai’r dysgwyr yn datblygu pecyn o offer personol trwy’r prosiect a fyddai’n caniatáu iddynt fyfyrio ac ymateb i arwyddion o ddiffyg cydraddoldeb trwy gydol eu bywydau, a sbarduno newid cadarnhaol yn ein cymdeithas.

Y Gweithgaredd
Cafodd y prosiect ei gyflwyno ar y cyd gan athro’r dosbarth a’r pypedwr Fagner Gastaldon. Bu’r sesiynau cyntaf gyda’r dysgwyr yn chwareus dros ben, gan feithrin amgylchedd diogel a chreadigol i archwilio a thrafod. Cafodd cydraddoldeb a natur unigryw eu fframio mewn ffordd gadarnhaol, gyda’r dysgwyr yn cynhyrchu pypedau i adlewyrchu eu syniadau o ran hunaniaeth.

Trwy’r sesiynau cychwynnol yma, datblygodd perthynas gadarnhaol rhwng yr athro, yr ymarferydd creadigol a’r dysgwyr. Gyda’i gilydd, fe weithion nhw trwy ambell i gwestiwn ymestynnol, fel…

Pwy yw’r Cymry?
Beth mae bod yn Gymry’n ei olygu?

Ble mae gartref?
O ble mae eich ymdeimlad o berthyn yn dod?

Roedd y gweithgaredd yma’n taro tant, yn arbennig i’r dysgwyr hynny oedd â gwreiddiau yn Nwyrain Ewrop, gan roi’r cyfle iddyn nhw gydnabod eu bod nhw’n gallu bod yn Gymry ac yn Bwylaidd yr un pryd, er enghraifft.

Er mwyn cyfoethogi’r gwaith prosiect, gwahoddodd yr ysgol y storïwr proffesiynol, Phil Okwedy, i gynnal sesiwn gyda’r dysgwyr. Clywodd y dysgwyr straeon am ryddid, cydraddoldeb a pherthyn cyn cymryd rhan mewn sesiwn fforwm theatr. Gan ddefnyddio dull Mantell yr Arbenigydd, gofynnwyd i’r dysgwyr feddwl mewn ffordd feirniadol a datrys problemau moesol trwy chwarae.

I ddangos eu dysg o’r prosiect cyfan, gweithiodd y dysgwyr mewn grwpiau bychain i greu cwmnïau theatr bach. Bu’r grwpiau’n helpu i baratoi sgriptiau ac yn llunio byrddau stori, ac yn defnyddio bocsys cardfwrdd i ddylunio eu theatrau. Mae gan bob theatr ei hunaniaeth unigryw ei hun, a gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio’r ‘Theatrau Cyfeillgarwch’. Mae llais y disgybl a gwaith grŵp go iawn wedi bod yn greiddiol i’r gweithgaredd yma.

Gwelsom ni ferch fach yn y dosbarth, sy’n aml yn dweud dim, yn llewyrchu yn ystod y sesiwn yma. Creodd hi wrthrych (dyfais llywio) a’i rannu’n hyderus â’r dysgwyr eraill.

Athro Dosbarth

Mae’r disgyblion wedi bod yn gweithio mor dda gyda’i gilydd, yn well nag unrhyw brofiad addysgu arall rydw i wedi ei gael mewn gwaith grŵp. Mae’r thema sylfaenol o dderbyn, cyfeillgarwch, trin eraill â pharch a gwerthfawrogi gwahaniaethau wir wedi disgleirio trwy eu harferion gwaith.

Athro Dosbarth
progress infographic icon
Datblygu dysgwyr cydweithredol

Effaith
Mae’r prosiect yn parhau, a’r gobaith yw y bydd y disgyblion yn archwilio sgyrsiau mwy ymestynnol am hiliaeth ar y camau diweddarach yma. Caiff yr effaith ar athro’r dosbarth, y dysgwyr a’r ymarferydd creadigol eu harchwilio’n llawn yn ystod cam Gwerthuso terfynol y prosiect.

progress infographic icon
Archwilio sgyrsiau ymestynnol