Cafodd y dysgwyr gyfle i glywed gan amrywiaeth o wahanol lenorion, eu holi, a chael llofnodion yn eu llyfrau.
Yn ystod y sesiynau ‘Sgwrsio’ trafododd y llenorion eu gwaith a beth sy’n eu hysbrydoli nhw. Rhoeson nhw ddisgrifiad o’r broses gyhoeddi hefyd. Ategodd rhai o’r llenorion negeseuon pwysig am feddylfryd o dwf, gan bwysleisio’r angen am ddyfalbarhau ac i beidio â chael eich trechu wrth gael eich gwrthod ar y cychwyn.
Nôl yn y dosbarth, cyflawnodd y dysgwyr weithgareddau fel tasgau ysgrifennu creadigol a pharhau i archwilio eu cariad at ddarllen.
Yn ôl yr athrawon, ychwanegodd y profiad werth aruthrol at ddealltwriaeth pob plentyn am fyd llenyddiaeth. Pwysleisiodd hyn y mwynhad y gall darllen ei roi, a sut beth yw gyrfa fel llenor.
Roedd hi’n brofiad anhygoel i’n dysgwyr. Bu modd iddyn nhw archwilio eu cariad at lyfrau a chyfarfod a modelau rôl bendigedig
Rwy’n mynd i ysgrifennu mwy nawr oherwydd mae ysgrifennu’n gallu bod yn cŵl
Mae awduron yn union fel ni, ond maen nhw wedi ysgrifennu eu holl syniadau da am straeon i lawr.
Mae hi wedi bod yn ddiwrnod o syfrdanu a rhyfeddu, gweld yr olwg ar wynebau’r plant, ac wedyn eu gweld nhw’n ‘ymgolli mewn llyfr’!
Wnes i wir fwynhau mynd i Ŵyl y Gelli. Roedd hi’n ddiddorol iawn dysgu am y gwahanol lenorion a’r llyfrau wnaeth eu hysbrydoli nhw. Roedd hi’n ddiddorol clywed sut maen nhw’n cynnwys gwahanol agweddau ar eu bywydau eu hunain yn eu llyfrau, a faint o ymdrech sy’n mynd i’w creu nhw. Roedd hi’n ysbrydoliaeth fawr i mi ddarllen rhagor, a hoffwn i fynd yn ôl eto. Roeddwn i wrth fy modd ar yr amrywiaeth o lyfrau oedd ar gael yn siop yr ŵyl, ac roedd y dewis o wahanol fathau o lyfrau ar gyfer gwahanol ddarllenwyr yn anhygoel.
Ysgolion a ddefnyddiodd y gronfa Ewch i Weld i fynd i Ŵyl y Gelli 2022:
Ysgol Uwchradd Llanisien, Ysgol Rhiw-Bechan, Ysgol Penderyn, YG Rhydywaun, Ysgol Dolafon, Ysgol Gynradd Tryleg, Ysgol Gynradd Sili, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd, Ysgol Gynradd Gymunedol Llan-faes, Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Ysgol Santes Tudful, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug, Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon, Ysgol Gymraeg Caerffili, Ysgol Gyfun Tredegar, Ysgol Gyfun Emlyn, Ysgol Calon Cymru, Ysgol Bro Hyddgen, Ysgol Gynradd Ynystawe, Ysgol Gynradd y Bont Faen, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Ysgol Gynradd Tonnau Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr Gwy, Ysgol Gyfun Radyr, Ysgol Gynradd Llanandras, Ysgol Gynradd Machen, Ysgol Llanilltud Fawr, Ysgol Uwchradd Gwernyfed, Ysgol Gynradd Pontffranc, Ysgol Brynteg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon Griffiths, Ysgol Gymunedol Aberdâr, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llandrindod.