Bu modd i dros 1,200 o ddysgwyr o 18 ysgol weld y cynhyrchiad a deithiodd i nifer o ganolfannau ar draws Cymru. Hwn oedd y darn cyntaf o theatr fyw i lawer o’r dysgwyr ei weld ers y pandemig Covid-19, a’r tro cyntaf erioed i sawl un weld cynhyrchiad yn Gymraeg. Roedd cael eu trwytho yn y Gymraeg yn fantais arbennig i’r ysgolion lle mae’r Gymraeg yn ail iaith. Sylwodd yr athrawon fod y dysgwyr yn siarad am rai o’r golygfeydd yn Gymraeg wrth ddod allan o’r theatr ac yn defnyddio geiriau roedden nhw wedi eu clywed yn ystod y perfformiad.

Cafodd y profiad ei ategu gan ddeunyddiau a ddarparwyd gan Arad Goch fel y gallai’r disgyblion fanteisio i’r eithaf ar y perfformiad a chysylltu’r perfformiad â’u gwaith cwricwlwm nôl yn y dosbarth. Yn benodol, bu’r perfformiad yn gyflwyniad perffaith i’r disgyblion ddysgu am ardal Tregaron, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.

people infographic icon
1200
Dros 1200 o ddysgwyr

I ysgolion eraill, bu’n gymorth gyda’u gwaith ar y Siarter Iaith.

Dyma’r ysgolion a ddefnyddiodd y gronfa Ewch i Weld i fynd i weld Twm Siôn Cati: Ysgol Twm o’r Nant, Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Tudweiliog, Ysgol Gynradd Llanfair ym Muallt, Ysgol Gymunedol Penparc, Ysgol Rhos Helyg, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol Hamadryad, Ysgol Penysarn, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padarn, Ysgol Gymraeg Casnewydd, Ysgol Borth y Gest, Ysgol y Dderi, Ysgol Edern, Ysgol T Llew Jones, Ysgol Bro Cinmeirch, Ysgol Gynradd Y Talwrn, Ysgol Henry Richard.

location infographic icon
18
ysgol