Cefndir
Darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Torfaen. Cymerodd grŵp cymysg o ddysgwyr cyfnod allweddol 3 a 4 ran yn y prosiect ar draws dau safle.
Mae presenoldeb ac ymddygiad yn gallu bod yn her gyda’r grŵp yma o ddysgwyr. Nod y prosiect oedd archwilio sut y gall ymchwilio i Gynefin a pherthyn wella presenoldeb ac ymgysylltiad y dysgwr a datblygu eu harferion meddwl creadigol. Roedd y staff yn awyddus i weld sut y gallai cydweithio ag amryw o weithwyr creadigol proffesiynol gynorthwyo’r nod yma.
Gweithgarwch
Cafodd y prosiect ei gyd-gyflwyno gan yr athrawon dosbarth oedd yn gyfrifol am MDPh y Dyniaethau a’r Celfyddydau Mynegiannol a’r Ymarferydd Creadigol, Joseph Roberts. Tynnwyd ymarferwyr creadigol ychwanegol i mewn i gynorthwyo gyda’r prosiect.
Dechreuodd y prosiect gyda chylch o weithdai cyflwyno wedi eu hwyluso gan artistiaid o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig o’r gymuned Hip Hop lleol. Bu’r dysgwyr yn cylchdroi yn ystod y dydd, gan roi’r cyfle i’r disgyblion roi cynnig ar sgiliau DJ, Bîtbocsio a chreu eu graffiti eu hunain.
Ar ddiwrnod cyntaf y prosiect, roedd yr adeilad yn bownsio â llinellau bas. Mae’r sgyrsiau amrywiol am ddiwylliant a gwreiddiau hip hop wedi gadael eu marc, gan ddatguddio ein dysgwyr i bob math o elfennau creadigol bendigedig
Yn ystod y dydd, cafodd y dysgwyr gyfle i archwilio beth roedd y geiriau Cynefin a pherthyn yn ei olygu iddyn nhw nawr, a beth y gallent olygu yn y dyfodol. Cawson nhw nifer o sgyrsiau hefyd am y berthynas rhwng cerddoriaeth a chelfyddyd. Roedd gan y dysgwyr ddiddordeb cynhenid yng nghefndir yr ymarferwyr creadigol a sut roedden nhw wedi ‘dod mor dda’ yn eu crefft.
O’r diwrnod cyntaf yma, datblygodd cyfres o weithdai pellach, gan gynnwys ysgrifennu geiriau i ganeuon, creu a chwarae cerddoriaeth gan ddefnyddio Bandlab, ac archwilio’r defnydd o graffiti. Bu llais y dysgwr yn rhan annatod o’r prosiect, gyda dysgwyr yn dilyn eu diddordebau unigol. Ar bob cam yn y prosiect, bu sgyrsiau parhaus rhwng y dysgwyr, yr athrawon a’r ymarferydd creadigol er mwyn sicrhau bod pob cam o’r prosiect yn gyson â’r nod o ddiwallu anghenion a diddordebau’r dysgwyr.
Rydyn ni wedi gweld pa mor bwerus yw defnyddio’r celfyddydau i annog dysgwyr i ystyried beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ‘adrodd stori’ neu i gynrychioli, dogfennu, rhannu a dathlu’r hunaniaethau personol, cymdeithasol a diwylliannol a geir yn ein cymuned, yng Nghymru ac yn y byd ehangach.
Effaith
O gychwyn cyntaf y prosiect, sylwodd y staff ar effaith glir ar ymgysylltiad dysgwyr a’u hagwedd at ddysgu. Un peth oedd yn syndod arbennig iddynt oedd sut cynyddodd hyder y dysgwyr.
Teimlad y staff oedd bod y prosiect wedi rhoi cyfle iddynt archwilio amrywiaeth, diwylliant a safbwyntiau mewn ffordd greadigol ac arloesol oedd yn cynnig cyfle iddynt ail-werthuso eu cwricwlwm. O ganlyniad, maent bellach yn fwy hyderus wrth drafod materion o ran amrywiaeth, hil, diwylliant, y gymdeithas a pherthyn. Maent wedi gweld manteision datguddio eu myfyrwyr i amrywiaeth ehangach o leisiau a naratifau o ran pobl ddu a lleiafrifol ethnig hefyd, ac maent yn bwriadu sefydlu hyn yn gadarnach yn y dyfodol.
Mae’r prosiect wedi cynorthwyo staff i feddwl am sut y gallant gynllunio ar y cyd er mwyn dysgu ar sail prosiect, gan ganiatáu i fyfyrwyr ‘chwarae’ ac arbrofi â gwahanol ddeunyddiau, adnoddau, offer a thechnolegau ym maes celfyddyd a cherddoriaeth, a datblygu eu syniadau eu hunain trwy hynny.
Roedd myfyrwyr oedd yn gyndyn i ddod i’r ysgol o’r blaen i’r ysgol yn brydlon. Siaradodd myfyrwyr oedd yn ofnadwy swil neu’n ddihyder o flaen camera, neu rhoesant gynnig ar bîtbocsio. Roedd gennym ni fyfyrwyr oedd yn teimlo nad oedden nhw’n ‘gelfyddydol’ o gwbl a ffeindiodd fod ganddyn nhw sgiliau nad oedden nhw’n ymwybodol ohonynt.
Mae hyn wedi pennu ‘meincnod’ i ni fel canolfan i anelu ato wrth i ni gynllunio nid yn unig ar gyfer cynnydd academaidd, ond ar gyfer cyfleoedd a phrofiadau dilys ac ystyrlon hefyd. Bydd hyn yn sicr yn cynnwys ymchwilio i ddefnyddio teithiau ac ymweliadau â mwy o ffocws, a denu pobl o’r gymuned ehangach i rannu eu straeon a’u sgiliau gyda’n dysgwyr