Cefndir
Bu tîm Rhifedd a Mathemateg Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn gweithio gyda set benodol o ddisgyblion â’r bwriad o fagu hyder a meithrin creadigrwydd grŵp o ddysgwyr Blwyddyn 7 yr oedd rhifedd yn sialens iddynt.
Y Gweithgaredd
Yn ystod y sesiynau cychwynnol, creodd yr athrawon ac ymarferydd creadigol sialensiau ar ffurf Ystafell Ddianc, ac roedd angen i’r disgyblion ddatrys y posau er mwyn magu hyder wrth ddefnyddio dulliau gweithredu safonol. Roedd y gweithgareddau yma’n gofyn hefyd bod y dysgwyr yn meithrin eu creadigrwydd trwy gydweithio â’u cymheiriaid; bod yn ddychmygus, a dyfalbarhau mewn ymateb i sialensiau mathemategol. Pan oedd gan y dysgwyr afael da ar rifedd, fe ddechreuon nhw ddylunio a chreu eu profiadau ystafell ddianc eu hunain gyda chymorth yr athrawon a’r ymarferydd creadigol. Roedd angen iddynt fod yn ddychmygus wrth greu posau a oedd yn dangos deilliannau rhifedd, ac roedd angen cydweithio i greu a chyflawni tasgau’r ystafell ddianc mewn grwpiau bychain. Cafodd arferion dyfalbarhad a chwilfrydedd y disgyblion eu meithrin trwy ganiatáu i’r dysgwyr archwilio’r pethau oedd yn debyg o ran y prosesau oedd eu hangen i ddatrys posau’r ystafell ddianc a’r problemau rhifedd.
Rhoddodd achlysur dathlu ar ddiwedd y prosiect gyfle i gymuned ehangach yr ysgol a’r rhieni gael profiad o’r ystafell ddianc hefyd.
Effaith
Nododd yr ysgol gynnydd yn nealltwriaeth y dysgwyr a’u hymwybyddiaeth o’u creadigrwydd eu hunain; bu modd i’r dysgwyr glustnodi sut roedden nhw wedi bod yn greadigol ar bob cam o’r prosiect. Er enghraifft, roedd y dysgwyr yn gallu gweld sut roedden nhw wedi defnyddio eu dychymyg i ddod â’r ystafell ddianc yn fyw; bod yn chwilfrydig i ddatrys problemau, gan ofyn cwestiynau fel sut mae hyn yn gweithio/sut gallaf i ddatrys hyn?’ Wrth ddatblygu eu posau eu hunain, roedd angen iddyn nhw ystyried ’sut gallwn ni wneud i hyn weithio i rywun arall?’ Dyfalbarhad oedd un o’r meysydd eraill lle gwelwyd datblygiad y disgyblion, a nodwyd bod yr holl ddisgyblion wedi dweud eu bod wedi gwella’n sylweddol wrth ddatrys eu problemau eu hunain heb ofyn am gymorth. Gweithio mewn ffordd gydweithredol oedd yr her fwyaf i’r criw yma o ddysgwyr. Erbyn diwedd y prosiect, roedd hi’n glir fod angen iddynt ddatblygu eu cydweithio ymhellach o hyd, ond maen nhw’n sicr wedi cymryd camau breision trwy’r prosiect yma; roedd eu cydweithio’n arbennig o dda pan roedden nhw’n datrys tasgau gyda’i gilydd.
Mewn perthynas â chyflawniad, nododd yr athrawon fod ‘y myfyrwyr naill ai’n cyrraedd neu’n rhagori ar y targed erbyn y diwedd, sy’n well na’r deilliannau disgwyliedig. Mae’r myfyrwyr yn y setiau is, neu’r rhai ag anghenion penodol yn aml yn gallu arafu o ran eu cynnydd wrth fynd yn hŷn am ei bod nhw’n ffeindio’r pynciau mwy dyrys yn anos.’ Nododd yr athrawon hefyd fod ‘y prosiect yn ymgysylltu’r myfyrwyr dros gyfnod hwy, gan weithio trwy’r cwricwlwm wrth gyflawni llawer o dasgau datrys problemau.’ Darparodd hyn ddull amgen o ddysgu, un a oedd yn fuddiol i’r myfyrwyr. Cafodd y prosiect effaith oedd yn fwy nag ochr academaidd pethau’n unig. Gwelwyd gwelliant yn hunanhyder, creadigrwydd a gallu’r myfyrwyr i weithio’n annibynnol neu mewn grwpiau. Ar y cam yma yn eu haddysg, ystyriwyd fod hyn yn bwysicach i’r dysgwyr oedd yn cymryd rhan yn y prosiect.
Cynyddodd hunanhyder, creadigrwydd a gallu’r myfyrwyr i weithio’n annibynnol neu mewn grŵp.
Mae’n sicr fod y prosiect wedi caniatáu i’r dysgwyr ymgysylltu â Mathemateg mewn ffordd hollol wahanol, a bod hynny wedi newid eu hagwedd at ddysgu. Roedd arsylwadau’r sesiwn yn dangos bod y dysgwyr wedi eu hymgysylltu’n dda pan roedd y dasg yr oedd gofyn iddynt ei gyflawni’n arwain at agor blwch datrys pos. Doedden nhw ddim yn gweld y gweithgaredd fel gwers. Dywedodd y disgyblion hefyd eu bod nhw’n hoffi bod allan o’r ystafell ddosbarth yn creu pethau ar gyfer yr ystafell ddianc - roedd hyn yn dangos bod natur ymarferol y peth ac integreiddio’r celfyddydau wedi cael effaith gwirioneddol ar eu canfyddiad o fathemateg. O fewn y prosiect, ar y cyfan cawsant eu gadael i ddatrys problemau ar eu pennau eu hunain neu mewn timau, a bu hyn o gymorth wrth ddatblygu eu hunan-effeithiolrwydd a’u gwytnwch hefyd.