Gwenno, Cian Ciarán, Mark James a Dean Lligwy
Tokyo • 16 Hydref 2025
Cydblethiad o waith clyweledol Celtaidd yw ‘Keltronica’.
Yn y digwyddiad cwbl arbennig hwn, bydd gwaith pedwar artist o Gymru yn dod ynghyd: Gwenno, Cian Ciarán, Mark James a Dean Lligwy.

Bydd Gwenno’n perfformio caneuon Cernyweg, Cymraeg a Saesneg o’r pedwar albwm a gyhoeddodd fel artist unigol, gan gynnwys ei halbwm diweddaraf, ‘Utopia’. Bydd Cian Ciarán yn dangos ei raglen ddogfen am sut yr aeth ati i greu ‘Rhys a Meinir’, yn ogystal â ffilm wedi’i hanimeiddio sy’n cyd-fynd â’r sgôr cerddorfaol. Am y tro cyntaf erioed, bydd Dean Lligwy yn perfformio seinluniau Brythonaidd hynod sydd wedi’u creu’n benodol ar gyfer y digwyddiad. A bydd Mark James yn dangos gwaith newydd a ddatblygodd ar gyfer y digwyddiad, ynghyd â gweithiau celf, sef ‘Anomalies’, ‘Mountain People’ a ‘Culture Clash’.
Digwyddiad i wahoddedigion yn unig yw hwn, i’w gynnal yn Wall&Wall Aoyama, Tokyo.
グウェンノ、キアン・キアラン、マーク・ジェームズ、ディーン・リグウィ
2025年10月16日 東京
「ケルトロニカ(Keltronika)」は、映像と音が織りなすケルト文化のカルチャー・クラッシュです。
この特別イベントではウェールズ出身の4人のアーティスト、グウェンノ、キアン・キアラン、マーク・ジェームズ、ディーン・リグウィによる共同作品が紹介されます。
グウェンノは、最新アルバム『ユートピア(Utopia)』を含むソロアルバム4 作よりコーニッシュ語、ウェールズ語、英語で楽曲を披露する予定です。キアン・キアランは、『リース・ア・メイニル(Rhys a Meinir)』の制作過程を追ったドキュメンタリーと、そのオーケストラ用スコアに合わせたアニメーション映画を上映します。ディーン・リグウィは、本イベントのために限定的に制作したアンビエントなブリソニック・サウンドスケープを初公開します。マーク・ジェームズは、本イベントのために制作した新作、また既存の作品「アノマリーズ」「マウンテン・ピープル」「カルチャー・クラッシュ」をキュレーションして展示します。
招待者限定のイベントは、東京・青山のWall&Wallにて開催されます。