Osaka • Tokyo  | 14-23 Hydref 2025  

Cian Ciarán, y cerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd ac un o aelodau Super Furry Animals, sy’n cyflwyno Rhys a Meinir.   

Mae Rhys a Meinir yn waith cerddorfaol gan Ciarán sydd wedi’i seilio ar un o chwedlau enwocaf Cymru, gyda Rhys Ifans yn adrodd y stori. Perfformiwyd y gwaith yn wreiddiol gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a bydd Cian yn rhoi ailddehongliad arloesol o’r stori yn teamLab Borderless, Tokyo. Bydd yno osodiad gyda dau biano Yamaha yn chwarae ar eu pennau’u hunain, a’r rheini wedi’u syncroneiddio i berfformio fersiwn i bedair llaw o’r sgôr cerddorfaol gwreiddiol.  

Yn Rhys a Meinir, mae rhamant y byd analog ac arloesi digidol yn plethu mewn ffordd hynod a theimladwy – gan arwain at brofiad clyweledol unigryw, Cymreig. 

Bydd Cian hefyd yn rhan o ddigwyddiad clyweledol arbennig, Keltronika, yn Tokyo gyda’r artistiaid o Gymru, Gwenno, Mark James a Dean Lligwy. Fel rhan o’r digwyddiad hwn, bydd yn dangos ei raglen ddogfen am sut yr aeth ati i greu Rhys a Meinir, yn ogystal â dangos ffilm wedi’i hanimeiddio sy’n cyd-fynd â’r sgôr cerddorfaol.  

 

大阪・東京|2025年10月14日~23日

音楽家、作曲家、プロデューサーであり、ウェールズのバンド、スーパー・ファーリー・アニマルズのメンバーでもあるキアン・キアランが『Rhys a Meinir(リースと女の子)』を発表します。

俳優リース・イヴァンズによるオリジナルの語りを含むこの作品は、ウェールズの伝承を題材にしたオーケストラによる叙事詩です。もともとはBBCウェールズ・ナショナル管弦楽団によって初演されましたが、今回東京のチームラボボーダレスにて、古典的なウェールズの物語を革新的に再解釈して披露します。展示では、元はオーケストラ用のピアノ四手連弾用スコアを編曲したものが、2台の自動演奏ヤマハピアノを同期することによって演奏されます。

Rhys a Meinir』は、アナログのロマンスとデジタルの革新が融合した愛情あふれる感情豊かなウェールズ独自のハイブリッドなオーディオ・ビジュアル体験です。  

またキアンは、グウェンノ、マーク・ジェームズ、ディーン・スリグウィとともに東京で行われる特別なオーディオビジュアル・イベント「Keltronika (ケルトロニカ)」にも参加し、『Rhys a Meinir』の制作過程を追ったドキュメンタリーと、オーケストラ用スコアによるアニメーション映画を上映します。