Caerdydd | 25 Awst – 03 Medi
“Mae’r Young Marble Giants wedi cael dylanwad cerddorol mawr arna’ i... Fe alla’ i deimlo déjà vu ganddyn nhw” - Susumu Yokota
Band ôl-bync dylanwadol o Gaerdydd oedd Young Marble Giants, a ffurfiwyd yn 1978. Roedd Susumu Yokota, (22 Ebrill 1960 – 19 Mawrth 2015) yn gynhyrchydd recordiau a chyfansoddwr nodedig o Japan.
Prosiect yw hwn sydd wedi cael ei enw o gân Young Marble Giants, Choci Loni, a thrac Susumu Yokota, Tobiume. Yn ei sgil, bydd meddyliau, teimladau, hunaniaethau, alawon, ymadroddion a rhythmau cyffredin Cymru a Japan yn cwrdd. Bydd yna gerddoriaeth, symud, teithiau gweledol a thalpiau bach o hud a lledrith braf.
Bydd chwech artist yn dod ynghyd, tri o Japan: Reina Kimura (dawnswraig/coreograffydd), Ichi (cerddor/artist perfformio) a Reiko Aoyagi (artist amlgyfrwng gweledol), a thri o Gymru: Anushiye Yarnell (dawnswraig/artist perfformio/artist gweledol) Ya Yonder (cerddor/artist perfformio) a Tess Gray (artist gweledol/artist perfformio).

カーディフ|2025年8月25日〜9月3日
「ヤング・マーブル・ジャイアンツは、音楽的に私に最も大きな影響を与えた存在です……彼らからデジャヴを感じます」
― 横田進
ヤング・マーブル・ジャイアンツは、1978年にカーディフで結成されたウェールズを代表するポストパンク・バンドです。横田進(1960年4月22日生―2015年3月19日没)は、高い評価を受けた日本の音楽プロデューサー/作曲家でした。
本企画は、ヤング・マーブル・ジャイアンツの楽曲「Choci Loni」と横田進のトラック「Tobiume」に由来し、精神性やアイデンティティ、調律、フレーズ、普遍的なリズム、そしてウェールズと日本が交差する「心の出会い」となります。音楽あり、踊りがあり、映像による旅と小さな安らぎの魔法が織り込まれます。
参加アーティスト6名、日本人3名:
- 木村怜奈(ダンサー/振付家)
- Ichi(音楽家/パフォーマンス)
- 青柳玲子(マルチメディア・ビジュアル)
- アヌシエ・ヤーネル(ダンス/パフォーマンス/ビジュアル)
- Ya Yonder(音楽家/パフォーマンス)
- テッサ・グレイ(ビジュアル/パフォーマンス)