Dawns y Ceirw @ Gŵyl Celfyddydau Stryd Setagaya  

Dawns y Ceirw a Gweithdy Technoleg Greadigol ac Iaith  @ Amgueddfa Genedlaethol Ainu Upopoy 

 

Tokyo • Shiraoi | 15-23 Hydref 2025  

Mae’n Noswyl Nadolig a phawb yn y pentref yn glyd o flaen y tân. Does neb yn sylwi ar y carw bach unig y tu allan yn yr oerfel... Wrth chwarae ar ei ben ei hun yn yr eira, mae Carw’n deheu am gynhesrwydd a charedigrwydd. Yn sydyn, mae golau bach yn ymddangos! Er nad yw wedi mentro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n dilyn y golau bach ar antur gerddorol drwy’r goedwig lle mae’n dod o hyd i gariad a nerth. 

A hwnnw wedi’i greu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), bydd y cyd-gynhyrchiad hudolus hwn gan Theatr Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn teithio i Japan am y tro cyntaf. Ar ôl perfformio i gynulleidfaoedd ifanc yng Ngŵyl Celfyddydau Stryd Setagaya, Tokyo, bydd y cwmni wedyn yn teithio i Hokkaido lle bydd yn cydweithio ag Amgueddfa Genedlaethol Ainu UPOPOY. Yno, y bwriad yw cynnal gweithdai creadigol sy’n defnyddio technoleg Sibrwd, gan edrych ar sut gallai’r dechnoleg hon gael ei defnyddio er budd ieithoedd Brodorol eraill.   

 

 

ダウンス・ア・ケイル  @ 世田谷ストリートアートフェスティバル ダウンス・ア・ケイルと 創造的な言語テクノロジーワークショップ @ ウポポイ国立アイヌ民族博物館

 

東京・白老|20251015日~23

クリスマスイブの夜、村人たちはみな家にこもって暖かく過ごしています。そんな中、外の寒さに取り残された小さな鹿には気づく人もいません……。雪の中でひとり遊ぶカルーは、温もりと優しさを求めています。すると突然、きらめく小さな光が現れます!村を離れたことのなかったカールですが、その光を追いかけて森をめぐる魔法のような冒険に出かけると、自らの中にある愛と強さを見つけます。

元ウェールズ児童文学大使カシ・ウィンが脚本・出演を務める本作ダウンス・ア・ケイル(Dawns y Ceirw:鹿の踊り)は、シアター・カムリとナショナル・ダンス・カンパニー・ウェールズによる魅力的な共同制作であり、今回初めて日本で上演されます。東京の世田谷パブリックシアターで子どもたちに向けて公演を行った後、北海道に移動し、ウポポイ国立アイヌ民族博物館と協働します。ここでは「Sibrwd」テクノロジーの活用や、他の先住民族言語への応用の可能性をテーマとした創造的かつ技術的なワークショップを実施します。